Cân 7 (19)
Yn Llawen Bob Amser
(Salm 32:11)
1. Llawenhawn! Llamu wnawn!
Mwynhau rydym fendith Duw.
Gweithio’n llawen a llon; gorfoleddu, addas yw.
Nid oes angen arnom, gofala drosom.
Cyhoeddwn hyn i bawb o’r ddynolryw.
Calon gywir sydd lân;
Heddwch rŷm yn ei fwynhau.
Cymorth gawn gan ein Duw; ato brysiwn i nesáu.
Canu wnawn folawdau ei lân rinweddau.
Fe gasglwn nawr lon dyrfa’r defaid rai.
2. Teyrnas Dduw, llesol yw;
O’n calonnau llawenhawn.
Ar y blaen mae Mab Duw, ar ei lais ef y gwrandawn.
Gyda’i waed fe’n prynodd o’i bur, lân wirfodd;
Mae gennym obaith bywyd euraid, llawn.
Trwy ei Deyrnas lân, deg,
Mawr lawenydd ddaeth i ni.
A’r “gwas ffyddlon a chall” rydd i’w Feistr glod a bri.
Gwynfydedig ydym a goleuedig,
Fe rannwn nawr y gobaith hwn yn hy.
3. Pleser mawr a budd ddaw
Wrth bregethu am y gwir.
Gwyn ein byd pan gawn hyd i’r glân ddefaid rai’n ein tir.
Carwn nawr ein brodyr a’r holl gymrodyr,
Cans gwerthfawr iawn yw undod teg mor ir.
Allan awn, traethu wnawn
Am ryfeddod Teyrnas Dduw.
Tyrfa fawr sydd yn awr yn hiraethu am ddae’r wiw.
Cawn ein harwain ganddo, a’n llwyr berffeithio.
Jehofah, dy foliannu gweddus yw.