-
Mae Proffwydoliaeth Daniel yn Rhagfynegi Dyfodiad y MeseiaBeth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?
-
-
blwyddyn gyfan gyntaf Artaxerxes fel rheolwr oedd 474 COG. Felly, ugeinfed flwyddyn ei frenhiniaeth oedd 455 COG. Dyma’r man cychwyn, felly, i broffwydoliaeth Feseianaidd Daniel, hynny yw, 455 COG.
Mae Daniel yn dangos pa mor hir fyddai’r cyfnod sy’n arwain at ddyfodiad y “Meseia.” Mae’r broffwydoliaeth yn sôn am “saith wythnos, a dwy wythnos a thrigain”—cyfanswm o 69 wythnos. Pa mor hir yw’r cyfnod hwn? Mae sawl cyfieithiad o’r Beibl yn nodi nad wythnosau o saith diwrnod sydd yma ond wythnosau o flynyddoedd. Hynny yw, mae pob wythnos yn cynrychioli saith mlynedd. Roedd yr Iddewon gynt yn arfer meddwl yn nhermau wythnosau o flynyddoedd. Er enghraifft, un waith bob saith mlynedd, roedden nhw’n dathlu’r flwyddyn Saboth. (Exodus 23:10, 11) Felly, mae’r 69 wythnos yn y broffwydoliaeth yn cynrychioli 69 grŵp o 7 mlynedd yr un, sef cyfanswm o 483 o flynyddoedd.
Y cwbl sy’n rhaid inni ei wneud nawr yw cyfrif. Os ydyn ni’n cychwyn yn y flwyddyn 455 COG, bydd cyfnod o 483 blynedd yn mynd â ni at y flwyddyn 29 OG. Dyna’r union flwyddyn cafodd Iesu ei fedyddio a dod yn Feseia!a (Luc 3:1, 2, 21, 22) Onid yw cyflawni’r broffwydoliaeth hon yn drawiadol?
-
-
Iesu Grist—Y Meseia AddawedigBeth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?
-
-
ATODIAD
Iesu Grist—Y Meseia Addawedig
I’N HELPU ni i adnabod y Meseia, ysbrydolodd Jehofa Dduw lawer o broffwydi’r Beibl i roi manylion am enedigaeth, gweinidogaeth a marwolaeth y Gwaredwr addawedig hwn. Cafodd pob un o’r proffwydoliaethau hyn eu cyflawni yn Iesu Grist. Maen nhw’n hynod o gywir a manwl. Gadewch inni weld esiamplau o hyn drwy ystyried ychydig o broffwydoliaethau sy’n ymwneud â genedigaeth a phlentyndod y Meseia.
Rhagfynegodd y proffwyd Eseia y byddai’r Meseia yn ddisgynnydd i’r Brenin Dafydd. (Eseia 9:7) Yn wir, cafodd Iesu ei eni yn llinach Dafydd.—Mathew 1:1, 6-17.
Rhagfynegodd proffwyd arall o’r enw Micha y byddai’r plentyn hwn yn cael ei eni yn “Bethlehem Effrata,” ac yn y pen draw, byddai’n dod yn rheolwr. (Micha 5:2) Ar adeg genedigaeth Iesu, roedd yna ddwy dref yn Israel o’r enw Bethlehem. Roedd un ger Nasareth yng ngogledd y wlad, a’r llall ger Jerwsalem yn Jwdea. Enw blaenorol Bethlehem ger Jerwsalem oedd Effrata. Ganwyd Iesu yn y dref honno, yn union fel y rhagfynegodd y broffwydoliaeth!—Mathew 2:1.
Dywedodd proffwydoliaeth arall yn y Beibl y byddai Mab Duw yn cael ei alw “o’r Aifft.” I’r wlad honno y cymerwyd Iesu yn blentyn bach ac fe ddychwelodd o’r Aifft ar ôl marwolaeth Herod, gan gyflawni’r broffwydoliaeth hon.—Hosea 11:1; Mathew 2:15.
Yn y siart ”Proffwydoliaethau Ynghylch y Meseia,” mae’r adnodau a restrir o dan y pennawd “Proffwydoliaeth” yn cynnwys manylion am y Meseia. Cymharwch y rhain â’r adnodau a restrir o dan y pennawd “Cyflawniad.” Bydd hyn yn gwneud eich ffydd yng ngwirionedd Gair Duw yn gryfach fyth.
Wrth chwilio’r adnodau hyn, cofiwch fod y proffwydoliaethau wedi eu hysgrifennu ganrifoedd cyn i Iesu gael ei eni. Dywedodd Iesu: “Rhaid i bob peth gael ei gyflawni sy’n ysgrifenedig amdanaf yng Nghyfraith Moses a’r proffwydi a’r salmau.” (Luc 24:44) Fel y gwelwch yn eich copi personol o’r Beibl, cyflawnwyd holl fanylion y proffwydoliaethau hyn i gyd!
-
-
Y Gwir am y Tad, y Mab, a’r Ysbryd GlânBeth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?
-
-
ATODIAD
Y Gwir am y Tad, y Mab, a’r Ysbryd Glân
MAE pobl sy’n credu yn y Drindod yn dweud bod Duw yn dri pherson—y Tad, y Mab, a’r Ysbryd Glân. Dywedir bod pob un o’r tri pherson hyn yn gyfartal, yn hollalluog, a heb ddechreuad. Yn ôl dysgeidiaeth y Drindod, Y Tad sydd Dduw, y Mab sydd Dduw, a’r Ysbryd Glân sydd Dduw, eto dim ond un Duw sydd.
-