LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • Yr Enw Dwyfol—Ei Ddefnydd a’i Ystyr
    Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?
    • ben hynny, pan nad yw pobl yn defnyddio enw Duw, mae ystyr hyfryd yr enw ar goll iddyn nhw. Beth ydy ystyr yr enw dwyfol?

      Eglurodd Duw ystyr ei enw i’w was ffyddlon Moses. Pan ofynnodd Moses am enw Duw, atebodd Jehofa: “Ydwyf yr hyn ydwyf.” (Exodus 3:14) Mae cyfieithiad Saesneg Rotherham yn trosi’r geiriau hynny fel hyn: “Byddaf beth bynnag a fynnaf.” Felly er mwyn cyflawni ei fwriad, gall Jehofa fod yn unrhyw beth sydd ei angen, ac o ran ei greadigaeth, ni waeth beth sydd ei angen, y mae’n gallu peri iddo ddigwydd.

      Dychmygwch y medrwch chi fod yn unrhyw beth a ddymunwch ei fod. Beth byddech chi yn ei wneud dros eich ffrindiau? Petasai un yn mynd yn ddifrifol wael, fe allech chi fynd yn feddyg medrus a’i iacháu. Petasai un arall yn dioddef colled ariannol, fe allech chi droi yn gymwynaswr cyfoethog a’i achub. Ond y gwir amdani yw bod cyfyngiadau ar yr hyn y gallwn ni ei wneud. Mae hyn yn wir am bob un ohonon ni. Wrth i chi astudio’r Beibl, byddwch yn rhyfeddu at allu Duw i fod yn unrhyw beth sydd ei angen er mwyn cyflawni ei addewidion. Ac mae wrth ei fodd yn defnyddio ei rym ar ran y rhai sydd yn ei garu. (2 Cronicl 16:9) Mae’r agweddau hyn ar bersonoliaeth hardd Jehofa ar goll i’r rhai nad ydynt yn gwybod ei enw.

      Mae’n gwbl amlwg, felly, y dylai enw Jehofa fod yn y Beibl. Mae gwybod ei ystyr, a’i ddefnyddio’n hael wrth addoli, yn gymorth grymus i glosio at ein Tad nefol, Jehofa.a

  • Mae Proffwydoliaeth Daniel yn Rhagfynegi Dyfodiad y Meseia
    Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?
    • ATODIAD

      Mae Proffwydoliaeth Daniel yn Rhagfynegi Dyfodiad y Meseia

      ROEDD y proffwyd Daniel yn byw dros 500 o flynyddoedd cyn geni Iesu. Serch hynny, datgelodd Jehofa wybodaeth i Daniel a fyddai’n gwneud hi’n bosibl i wybod pryd yn union y byddai Iesu yn cael ei eneinio neu ei benodi’n Feseia neu Grist. Dywedwyd wrth Daniel: “Gwybydd gan hynny a deall, y bydd o fynediad y gorchymyn allan am adferu ac am adeiladu Jerwsalem, hyd y blaenor Meseia, saith wythnos, a dwy wythnos a thrigain.”—⁠Daniel 9:25, BC.

      Er mwyn gwybod pryd byddai’r Meseia’n cyrraedd, mae’n rhaid inni wybod pryd dechreuodd y cyfnod sy’n arwain at y Meseia. Yn ôl y broffwydoliaeth, bydd y cyfnod dan sylw yn cychwyn “o fynediad y gorchymyn allan am adferu ac am adeiladu Jerwsalem.” Pryd aeth “y gorchymyn” hwn allan? Yn ôl Nehemeia, un o ysgrifenwyr y Beibl, aeth y gorchymyn allan i ailadeiladu’r muriau o amgylch Jerwsalem “yn ugeinfed flwyddyn y Brenin Artaxerxes.” (Nehemeia 2:1, 5-8) Mae haneswyr yn cadarnhau mai blwyddyn gyfan gyntaf Artaxerxes fel rheolwr oedd 474 COG. Felly, ugeinfed flwyddyn ei frenhiniaeth oedd 455 COG. Dyma’r man cychwyn, felly, i broffwydoliaeth Feseianaidd Daniel, hynny yw, 455 COG.

      Mae Daniel yn dangos pa mor hir fyddai’r cyfnod sy’n arwain at ddyfodiad y “Meseia.” Mae’r broffwydoliaeth yn sôn am “saith wythnos, a dwy wythnos a thrigain”—cyfanswm o 69 wythnos. Pa mor hir yw’r cyfnod hwn? Mae sawl cyfieithiad o’r Beibl yn nodi nad wythnosau o saith diwrnod sydd yma ond wythnosau o flynyddoedd. Hynny yw, mae pob wythnos yn cynrychioli saith mlynedd. Roedd yr Iddewon gynt yn arfer meddwl yn nhermau wythnosau o flynyddoedd. Er enghraifft, un waith bob saith mlynedd, roedden nhw’n dathlu’r flwyddyn Saboth. (Exodus 23:10, 11) Felly, mae’r 69 wythnos yn y broffwydoliaeth yn cynrychioli 69 grŵp o 7 mlynedd yr un, sef cyfanswm o 483 o flynyddoedd.

      Y cwbl sy’n rhaid inni ei wneud nawr yw cyfrif. Os ydyn ni’n cychwyn yn y flwyddyn 455 COG, bydd cyfnod o 483 blynedd yn mynd â ni at y flwyddyn 29 OG. Dyna’r union flwyddyn cafodd Iesu ei fedyddio a dod yn Feseia!a (Luc 3:1, 2, 21, 22) Onid yw cyflawni’r broffwydoliaeth hon yn drawiadol?

      Siart: Mae proffwydoliaeth Daniel 9 am y 70 wythnos yn rhagfynegi dyfodiad y Meseia

      a O’r flwyddyn 455 COG hyd at y flwyddyn 1 COG, y mae 454 o flynyddoedd. O’r flwyddyn 1 COG hyd at y flwyddyn 1 OG y mae un flwyddyn yn unig (doedd dim blwyddyn sero). Ac o’r flwyddyn 1 OG hyd at y flwyddyn 29 OG, y mae 28 o flynyddoedd. O adio’r tri rhif hyn, cawn ni’r cyfanswm o 483 o flynyddoedd. “Fe leddir” Iesu yn y flwyddyn 33 OG yn ystod y saith degfed wythnos o flynyddoedd. (Daniel 9:24, 26) Gweler Pay Attention to Daniel’s Prophecy! pennod 11, ac Insight on the Scriptures, Cyfrol 2, tudalennau 899-901. Cyhoeddir y ddau gan Dystion Jehofa.

  • Iesu Grist—Y Meseia Addawedig
    Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?
    • ATODIAD

      Iesu Grist—Y Meseia Addawedig

      I’N HELPU ni i adnabod y Meseia, ysbrydolodd Jehofa Dduw lawer o broffwydi’r Beibl i roi manylion am enedigaeth, gweinidogaeth a marwolaeth y Gwaredwr addawedig hwn. Cafodd pob un o’r proffwydoliaethau hyn eu cyflawni yn Iesu Grist.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu