Peidiwch â Churo’r Awyr
1. Sut mae 1 Corinthiaid 9:26 yn berthnasol i’r weinidogaeth?
1 Ysgrifennodd yr apostol Paul: “Yr wyf fi, gan hynny, yn rhedeg fel un sydd â’r nod yn sicr o’i flaen. Yr wyf yn cwffio, nid fel un sy’n curo’r awyr â’i ddyrnau.” (1 Cor. 9:26) Cyfeirio at ei benderfyniad i gyrraedd ei nod ysbrydol oedd Paul. Ond mewn egwyddor, mae’r geiriau hyn yn berthnasol i’r weinidogaeth. Rydyn ni eisiau anelu ein hymdrechion yn ddoeth er mwyn iddyn nhw lwyddo. Sut?
2. Sut gallwn ni fod fel Paul ac efengylwyr eraill y ganrif gyntaf wrth ddewis pryd a lle i bregethu?
2 Ewch i Le Bynnag Mae’r Bobl: Roedd Paul ac efengylwyr eraill y ganrif gyntaf yn pregethu le bynnag roedden nhw’n disgwyl cyfarfod pobl. (Act. 5:42; 16:13; 17:17) Os yw pobl yn ein tiriogaeth gartref gyda’r nos, efallai dyna fydd yr amser gorau i fynd o dŷ i dŷ. Ydy’r gorsafoedd yn brysur yn gynnar yn y bore neu yn hwyr yn y prynhawn gyda phobl yn dal bysiau neu drenau? Pryd mae’r canolfannau siopa yn brysur? Gall tystiolaethu ar y stryd fod yn effeithiol iawn ar yr adegau hyn.
3. Sut gallwn ni sicrhau nad ydyn ni’n curo’r awyr yn y ffordd rydyn ni’n gweithio’r diriogaeth?
3 Gweithio Ein Tiriogaeth yn Gall: Dylen ni fod yn ofalus yn y ffordd rydyn ni’n gweithio ein tiriogaeth fel na fyddwn ni’n curo’r awyr. Er enghraifft, yn hytrach na mynd â grŵp mawr i un ardal, lle bydd angen llawer o waith i gadw pawb yn brysur, fe allai fod yn well rhannu’r grŵp. Yn yr un modd, wrth weithio mewn ardaloedd gwledig, fe fyddwn ni’n siarad â mwy o bobl os nad yw’r ceir yn rhy llawn. A fyddai’n bosibl inni gael ein tiriogaeth ein hunain, yn agos i’n cartrefi, fel na fydd hi’n cymryd gormod o amser i’w chyrraedd?
4. Beth fydd yn ein helpu ni i lwyddo fel ‘pysgotwyr dynion’?
4 Dywedodd Iesu fod efengylwyr yn “bysgotwyr dynion.” (Marc 1:17) Nid er mwyn y pysgota ei hun y mae pysgotwr yn taflu ei rwyd, ond er mwyn dal pysgod. Felly, mae pysgotwyr llwyddiannus yn pysgota yn y lleoedd ac ar yr adegau y bydd pysgod i’w cael. Maen nhw’n dechrau ar unwaith ac yn gweithio’n bwrpasol. Gadewch i ni fod yr un mor eiddgar yn ein gweinidogaeth.—Heb. 6:11.