Cân 85 (191)
Eiddoch Boed y Gwir
1. Fe gymeradwywn lân ffordd y gwirionedd.
Ni fedrwch chi ganfod ffordd well.
Fe ddysgodd Crist Iesu mai rhoi sy’n fawr rinwedd,
Cans taena hapusrwydd ymhell.
Eiddoch boed y gwir.
Gweld wna eraill ffydd sy’n bur.
Wrth eich glân ymroddiad, beunydd mwyn,
Bydd yn glir mai’n eich calon mae’r gwir.
2. Wrth roi clod i Dduw a’i was’naethu yn flaenaf,
Fe gollwch gyfeillach y byd.
Caiff pobol heb ffydd, anawsterau o’r mwyaf
I ddeall pam ar Dduw mae’ch bryd.
Eiddoch boed y gwir.
Ffowch o’r byd â’i ffyrdd amhur.
Os at Dduw Jehofah ymnesewch.
Bydd yn glir mai’n eich calon mae’r gwir.
3. Mae’r Diafol yn arfer pob twyll a chyfrwystra;
Ei ddichell gwrthsefwch, a’i wae.
 tharian mawr ffydd fe gewch gref amddiffynfa,
A llwyddo i ddyfalbarhau.
Eiddoch boed y gwir.
Celwydd Satan sydd drwy’r tir.
Wrth ich wisgo holl arfogaeth Duw.
Bydd yn glir mai’n eich calon mae’r gwir.
4. Y cnawd sydd yn wan; anodd deall y galon.
 hyn ymgodymu a wnewch.
Ond Duw yw eich Cyfaill cariadlawn a thirion,
Yn hael ganddo cymorth a gewch.
Eiddoch boed y gwir.
Rhag drwg cadwch bellter clir.
Os disgyblwch holl aelodau’ch corff,
Bydd yn glir mai’n eich calon mae’r gwir.