Cân 99 (221)
Ieuenctid! Efelychwch Eu Ffydd
1. Yn ifanc i Seilo glân Samuel aeth;
Gwas’naethu yn nheml ei Dduw oedd ei waith.
Fel gwir Nasiread gweithredodd yn driw,
A thyfodd i fod yn fawr broffwyd i Dduw.
Fe lwyddodd osgoi drwg ddylanwad a moes
Dau fab ’r archoffeiriad, a wnaethant gryn loes.
Ufudd-dod, ffyddlondeb, fe roddodd yn flaen;
Bodlonodd Jehofah â’i rinweddau cain.
2. Un arall yn ifanc oedd glân Timotheus
A ddaeth yn henuriad â chlod diamheus.
Gweithredodd bob dydd ’n ôl yr hyn oedd yn iawn,
Mor werthfawr i Paul oedd ei ffyddlondeb llawn.
Gair da oedd amdano ac yntau ond llanc;
Fe frwydrodd yn lew ac yn ddoeth yn ifanc.
Ei fraint fawr oedd dod yn gyd-deithiwr i Paul:
Bendithion lu gafodd am adael byd ffôl.
3. Chwiorydd, fe gofiwch yr eneth lân fach
A gipiwyd yn gaethferch, ond cadwodd ffydd iach.
Jehofah a welodd ei hymddygiad doeth
A’i disglair uniondeb fel gem werthfawr goeth.
‘Pe teithiai fy meistr i wlad Israel wiw
Adferiad a gâi gan wir broffwyd Iôr Dduw.’
Gwrandawodd y Syriad ar blentyn, ac aeth.
Mawr fendith a gafodd; yn iach, ’n ôl y daeth.
4. Ieuenctid, dilynwch yr enghreifftiau hyn;
At lwybyr uniondeb o cadwch yn dynn.
Mae’n amser y diwedd; Jehofah nawr sydd
Yn dethol â gofal y rhai sydd â ffydd.
Ieuenctid yr holl gynulleidfa nawr dewch,
Mewn brwydyr ysbrydol o dyfalbarhewch.
Cyhoeddi Gair Duw, a’i glodfori a wnawn,
Teg wobr ar ddiwedd y dyddiau a gawn.