-
Beth Yw Sheol a Hades?Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?
-
-
ATODIAD
Beth Yw Sheol a Hades?
YN YR ieithoedd gwreiddiol, mae’r Beibl yn defnyddio’r gair Hebraeg sheʼôlʹ a’r gair Groeg cyfatebol haiʹdes fwy na 70 o weithiau. Mae’r ddau air yn gysylltiedig â marwolaeth. Mae rhai cyfieithiadau o’r Beibl yn trosi’r geiriau hyn fel “bedd,” “uffern,” neu “bwll.” Sut bynnag, yn y rhan fwyaf o ieithoedd, nid oes geiriau sy’n cyfleu union ystyr y geiriau Hebraeg a Groeg hyn. Mae’r Beibl Cymraeg Newydd Argraffiad Diwygiedig, felly, yn defnyddio’r geiriau “Sheol” a “Hades.” Beth mae’r geiriau hyn yn ei olygu mewn gwirionedd? Sylwch ar y ffordd y maen nhw yn cael eu defnyddio yn yr adnodau canlynol o’r Beibl.
Dywed Pregethwr 9:10: “Yn Sheol, lle’r wyt yn mynd, nid oes gwaith na gorchwyl, deall na doethineb.” Ydy hyn yn golygu bod Sheol yn cyfeirio at fedd penodol lle mae un o’n hanwyliaid ni wedi ei gladdu? Nac ydy. Pan fo’r Beibl yn cyfeirio at fan claddu penodol, neu fedd, mae’n defnyddio geiriau Hebraeg a Groeg gwahanol, nid sheʼôlʹ na haiʹdes. (Genesis 23:7-9; Mathew 28:1) Hefyd, dydy’r Beibl ddim yn defnyddio’r gair “Sheol” ar gyfer bedd lle mae sawl unigolyn wedi eu claddu gyda’i gilydd, fel bedd teulu neu fedd torfol.—Genesis 49:30, 31.
At ba fath o le, felly, mae “Sheol” yn cyfeirio? Mae Gair Duw yn dangos bod “Sheol” neu “Hades” yn cyfeirio at rywbeth llawer mwy hyd yn oed na bedd torfol mawr. Er enghraifft, dywed Eseia 5:14: “Lledodd Sheol ei llwnc, ac agor ei cheg yn ddiderfyn.” Er bod Sheol eisoes wedi llyncu’r meirw yn eu lluoedd fel petai, mae bob amser yn awchu am ychwaneg. (Diarhebion 30:15, 16) Yn wahanol i’r man claddu llythrennol, sy’n dal dim ond nifer cyfyngedig o’r meirw, “Ni ddigonir Sheol.” (Diarhebion 27:20) Fydd Sheol byth yn llawn. Does dim cyfyngiadau arni. Nid lle llythrennol mewn lleoliad penodol yw Sheol neu Hades. Yn hytrach, hwn yw bedd dynolryw yn gyffredinol, y man ffigurol lle mae rhan fwyaf y ddynoliaeth yn cysgu mewn marwolaeth.
O edrych ar ddysgeidiaeth y Beibl ar yr atgyfodiad, bydd ystyr “Sheol” a “Hades” yn dod yn gliriach. Mae Gair Duw yn cysylltu Sheol a Hades â’r math o farwolaeth y bydd atgyfodiad ohoni yn bosibl.a (Job 14:13; Actau 2:31; Datguddiad 20:13) Mae Gair Duw hefyd yn dangos fod y rhai sydd yn Sheol a Hades yn cynnwys nid yn unig y rhai sydd wedi gwasanaethu Jehofa ond hefyd lawer sydd heb ei wasanaethu. (Genesis 37:35; Salm 55:15) Felly, mae’r Beibl yn dysgu “y bydd atgyfodiad i’r cyfiawn ac i’r anghyfiawn.”—Actau 24:15.
a Ar y llaw arall, yn Gehenna y mae’r meirw na fyddant yn cael eu hatgyfodi, nid yn Sheol na Hades. (Mathew 5:30; 10:28; 23:33, Efengyl Mathew, Islwyn Ffowc Elis) Fel Sheol a Hades, nid man llythrennol yw Gehenna.
-
-
Beth Yw Dydd y Farn?Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?
-
-
ATODIAD
Beth Yw Dydd y Farn?
BETH sy’n dod i’ch meddwl wrth sôn am Ddydd y Farn? Mae llawer yn credu y bydd miloedd o filiynau o bobl yn cael eu tywys fesul un gerbron gorsedd Duw. Yno, bydd pob un yn cael ei farnu. Bydd rhai yn cael mynd i baradwys yn y nef fel gwobr tra bo eraill yn cael eu condemnio i artaith dragwyddol. Ond, mae’r Beibl yn rhoi darlun hollol wahanol o’r cyfnod hwn. Mae’n ei ddisgrifio, nid fel amser i’w ofni, ond fel cyfnod o adfer a gobaith.
Yn Datguddiad 20:11, 12, rydyn ni’n darllen disgrifiad yr apostol Ioan o Ddydd y Farn: “Gwelais orsedd fawr wen a’r Un oedd yn eistedd arni, hwnnw y ffoesai’r ddaear a’r nef o’i ŵydd a’u gadael heb le. Gwelais y meirw, yn fawr a bach, yn sefyll o flaen yr orsedd; ac agorwyd llyfrau. Yna agorwyd llyfr arall, sef llyfr y bywyd; a barnwyd y meirw ar sail yr hyn oedd yn ysgrifenedig yn y llyfrau, yn ôl eu gweithredoedd.” Pwy yw’r Barnwr sy’n cael ei ddisgrifio yma?
Jehofa Dduw yw Barnwr goruchaf dynolryw. Sut bynnag, mae’n rhoi’r gwaith o farnu i rywun arall. Yn ôl Actau 17:31,
-