LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • kl pen. 4 tt. 32-42
  • Iesu Grist−Yr Allwedd i’r Wybodaeth o Dduw

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Iesu Grist−Yr Allwedd i’r Wybodaeth o Dduw
  • Gwybodaeth Sy’n Arwain i Fywyd Tragwyddol
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Y MESEIS ADDAWEDIG
  • TYSTIOLAETH MAI IESU OEDD Y MESEIA
  • BYWYD IESU CYN DOD I’R DDAEAR
  • BYWYD IESU AR Y DDAEAR
  • IESU HEDDIW
  • Ei Fywyd Cynnar
  • Ei Weinidogaeth
  • Ei Fradychu A’i Farw
  • Pwy Yw Iesu Grist?
    Beth Allwn Ni ei Ddysgu o’r Beibl?
  • Pwy Yw Iesu Grist?
    Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?
  • Pwy Yw Iesu?
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Y Meseia’n Cyrraedd
    Y Beibl—Beth Yw Ei Neges?
Gweld Mwy
Gwybodaeth Sy’n Arwain i Fywyd Tragwyddol
kl pen. 4 tt. 32-42

Pennod 4

Iesu Grist−Yr Allwedd i’r Wybodaeth o Dduw

1, 2. Sut mae crefyddau’r byd wedi ymyrryd a’r allwedd i’r wybodaeth o Dduw?

MAEhi’n oer ac yn dywyll a chithau’n chwilio am eich allweddau, ar frys i fynd i mewn i’ch ty−ond mae’r allwedd yn gwrthod troi. Mae’n edrych yn iawn, ac eto mae’r clo yn gwrthod symud. Be’ allai fod o’i le? Unwaith eto ’rydych yn edrych ar eich allweddau. Ydych chi’n siwr mai’r un iawn sy’ gennych chi?Ydi hi’n bosib’ fod rhywun wedi gwneud rhywbeth i’r allwedd?

2 Dyna ddarlun i chi o’r hyn mae dryswch crefyddau’r byd wedi’i wneud gyda’r wybodaeth o Dduw. Mewn ffordd, mae llawer wedi ymyrryd a’r allwedd sy’n ein hel pu ni i ddeall y wybodaeth hon yn llawn−Iesu Grist. Mae rhai crefyddau wedi gwneud i ffwrdd a’r allwedd, gan ddiystyru Iesu’n gyfangwbl. Mae eraill wedyn wrth gamddehongli rol Iesu, yn ei addoli e fel DuwHollalluog. Y ffaith ydi, fedrwn ni fyth ddod i ddeall y wybodaeth o Dduw heb yn gyntaf ddod i ddeall y prif gymeriad hwn, Iesu Grist, yn gywir.

3. Pam medrwn ddweud mai Iesu ydi’r allwedd i’r wybodaeth o Dduw?

3 Mae’n siwr eich bod chi’n cofio geiriau Iesu: “Hyn yw bywyd tragwyddol: dy adnabod di, yr unig wir Dduw, a’r hwn a anfonaist ti, Iesu Grist.” (Ioan 17:3) Nid brolio oedd Iesu gan fod yr Ysgrythurau’n pwysleisio dro ar ol tro mor bwysig ydi inni ddod i ’nabod y Crist yn llawn ac yn gywir. (Effesiaid 4:13; Colosiaid 2:2; 2 Pedr 1:8; 2:20) Geiriau’r apostol Pedr oedd: “I hwn [Iesu Grist] y mae’r holl broffwydi’n tystio.” (Actau 10:43) Ac fe ’sgrifennodd yr apostol Paul: “Ynddo ef [Iesu] y mae holl drysorau doethineb a gwybodaeth yn guddiedig.” (Colosiaid 2:3) Aeth Paul ymlaen i ddweud fod pob dim mae Jehofah wedi’i addo yn dod yn wir oherwydd Iesu. (2 Corinthiaid 1:20) Iesu Grist felly, ydi’r union allwedd i’r wybodaeth o Dduw. Mae’n rhaid i’r hyn ’rym ni’n ei ddysgu am ei natur a’i rol yn nhrefn Duw fod yn rhydd rhag unrhyw syniadau gau. Ond pam mae dilynwyr Iesu yn ei ystyried e’n holl bwysig i fwriadau Duw?

Y MESEIS ADDAWEDIG

4, 5. Pa obeithion oedd yn dibynnu ar y Meseia, a be’ oedd argyhoeddiad disgyblion Iesu amdano?

4 Oddi ar ddyddiauAbel ffyddlon, ’roedd gweisionDuw wedi edrych ymlaen yn ofnadwy at yr amser pan fyddai’r Had yn cyrraedd yn ol addewid Jehofah Dduw ei hun. (Genesis 3:15; 4:1-8;Hebreaid 11:4) O’r Ysgrythurau ’roedden’ nhw’n gwybod y byddai’r Had hwn yn cyflawni rol y Meseia ym mwriad Duw. Ystyr Meseia ydi “Eneiniog.” Byddai hwn yn rhoi “terfyn ar bechodau,” a’i Deyrnas yn ol y Salmau yn ogoneddus. (Daniel 9:24-26; Salm 72:1-20) Pwy fyddai’r Meseia?

5 “Yr ydym wedi darganfod y Meseia,” oedd geiriau cyffrous Iddew ifanc Andreas wrth ei frawd Simon Pedr ar ol iddo glywed Iesu o Nasareth yn siarad. (Ioan 1:41) Oedden’, ’roedd disgyblion Iesu wedi’u hargyhoeddi’n llwyr mai fe oedd y Meseia ’roedd Duw wedi’i addo. (Mathew 16:16) Mae gwir Gristnogion wedi mentro’u bywydau oherwydd eu cred mai Iesu yn wir oedd Meseia’r Ysgrythurau, y Crist. Ond ar ba sail? Beth am inni ystyried tri math o dystiolaeth.

TYSTIOLAETH MAI IESU OEDD Y MESEIA

6. (a) Trwy ba linach oedd yr Had addawedig i ddod, a pha brawf sydd fod Iesu wedi dod yn llinach y teulu hwnnw? (b) Pam byddai hi’n amhosib’ i unrhyw un oedd yn fyw wedi 70 C.C. ac yn honni mai nhw oedd y Meseia, brofi hynny?

6 Llinach Iesu sy’n rhoi’r sail cynta’ inni fedru ei ’nabod fel y Meseia addawedig. Mi ’roedd Jehofahwedi addo i’w was Abraham y byddai’r Had addawedig yn dod o’i deulu e. Ac fe dderbyniodd Isaac mab Abraham, Jacob mab Isaac, a Jwda mab Jacob, addewid debyg. (Genesis 22:18; 26:2-5; 28:12-15; 49:10) Rai canrifoedd wedyn rhoddodd Duw fanylion i’r BreninDafydd mai trwy un o’i ddisgynyddion e y byddai Hwn yn dod. (Salm 132:11; Eseia 11:1, 10) Mae Efengylau Mathew a Luc yn cadarnhau hyn. (Mathew 1:1-16; Luc 3:23-38) Er bod llawer o elynion chwerw gan Iesu, ’doedd dim un ohonyn’ nhw’n amau ei linach adnabyddus. (Mathew 21:9, 15) Mae’n amlwg felly na all neb ddadlau ynglyn a llinach Iesu. Ond wedi i’r Rhufeiniaid ymosod ar Jerwsalem yn 70 C.C. a difetha cofnodion llinach pob teulu Iddewig, byddai’n amhosib i unrhyw un oeddyn honni mai efoeddyMeseia addawedig, brofi hynny.

7. (a) Be’ ydi’r ail dystiolaeth mai Iesu oedd y Meseia? (b) Sut cafodd Micha 5:2 ei gyflawni yn achos Iesu?

7 Cyflawni proffwydoliaeth ydi’r sail nesa’ yn y dystiolaeth. Yn yr Ysgrythurau Hebraeg mae ’na ugeiniau o broffwydoliaethau sy’n disgrifio gwahanol agweddau o gwrs bywyd y Meseia. Fe broffwydodd Micha yn yr wythfed ganrif C.C.C. y byddai’r llywodraethwr mawr hwn yn cael ei eni mewn tref fach o’r enw Bethlehem. ’Nawr, yn Israel ’roedd ’na ddwy dref o’r enw Bethlehem, ond fe wnaeth y neges broffwydol hon fanylu mai Bethlehem Effrata, man geni’r Brenin Dafydd, oedd y dref. (Micha 5:2) ’Roedd Joseff a Mair, rhieni Iesu, yn byw yn Nasareth, rhyw 90 milltir i’r gogledd o Fethlehem. Pan ddaeth gorchymyn gan Cesar Awgwstus i bawb fynd i’w dref ei hun i gael ei gofrestru, bu’n rhaid i Joseff fynd a’i wraig, a hithau erbyn hyn yn disgwyl, i Fethlehem, lle cafodd Iesu ei eni.a−Luc 2:1-7.

8. (a) Pryd cychwynnodd y 69 “wythnos” a chyda pha ddigwyddiad? (b) Beth oedd hyd y 69 “wythnos,” a be’ ddigwyddodd pan ddaethan’ nhw i ben?

8 Yn y chweched ganrif C.C.C. d’wedoddDaniel y proffwyd y byddai’r “tywysog eneiniog” yn dod 69 “wythnos” wedi’r gorchymyn i adfer ac ailadeiladu Jerwsalem. (Daniel 9:24, 25) ’Roedd pob “wythnos” yn para saith mlynedd.b Yn ol y Beibl a hanes seciwlar, yn 455 C.C.C. aeth y gorchymyn allan i ailadeiladu Jerwsalem. (Nehemeia 2:1-8) Felly, ’roedd y Meseia i fod i ymddangos 483 (69x7) o flynyddoeddwedi 455 C.C.C. Mae hynny’n dod a ni i 29 C.C., yr union flwyddyn pan gafodd Iesu ei eneinio gan Jehofah a’r ysbryd sanctaidd. Dyma sut daeth Iesu’n “Feseia” neu Grist (sy’n golygu “Eneiniog”).−Luc 3:15, 16, 21, 22.

9. (a) Sut cafodd Salm 2:2 ei chyflawni? (b) Nodwch rai proffwydoliaethau eraill a gafodd eu cyflawni yn Iesu. (Gweler siart.)

9 Wrth gwrs, fel ’roedd yr Ysgrythurau wedi rhagweld, nid pawb oedd yn fodlon derbyn Iesu fel y Meseia addawedig. Mae Salm 2:2 yn cofnodi geiriau ysbrydoledig y Brenin Dafydd yn rhagfynegi y byddai, “brenhinoedd y ddaear yn barod, a’r llywodraethwyr yn ymgynghori a’i gilydd yn erbyn yr ARGLWYDD a’i eneiniog.” Yng ngeiriau’r broffwydoliaeth hon mae ’na awgrym y byddai arweinwyr o fwy nag un wlad yn ymuno i ymosod ar Eneiniog Jehofah, neu’r Meseia. A dyna ddigwyddodd. Fe gafodd arweinwyr crefyddol yr Iddewon, y Brenin Herod, a’r llywodraethwr Rhufeinig Pontius Pilat oll eu rhan yn rhoi Iesu i farwolaeth. O hynny ’mlan daeth Herod a’i elyn Pilat yn ffrindiau mawr. (Mathew 27:1, 2; Luc 23:10-12; Actau 4:25-28) Os ydych am brawf ychwanegol mai Iesu oedd y Meseia, edrychwch os gwelwch yn dda ar y dudalen sydd a’r pennawd “Rhai Proffwydoliaethau Mawr am y Meseia.”

10. Sut roddodd Jehofah dystiolaeth mai Iesu oedd ei Eneiniog addawedig?

10 Yn drydydd, rhown sylw i dystiolaeth Jehofah Dduw yn cefnogi hawl Iesu i fod yn Feseia. Anfonodd Jehofah angylion i ddweud wrth bobl mai Iesu oedd y Meseia addawedig. (Luc 2:10-14) Yn wir, yn ystod y cyfnod pan fu Iesu’n byw ar y ddaear, fe siaradodd Jehofah ei hun o’r nef yn cymeradwyo Iesu. (Mathew 3:16, 17; 17:1-5) Fe roddodd Jehofah Dduw y gallu i Iesu i wneud gwyrthiau. ’Roedd pob gwyrth yn brawf dwyfol pellach mai Iesu oedd y Meseia, oherwydd fyddai Duw byth yn rhoi grym i dwyllwr i wneud gwyrthiau. Hefyd, trwy ei ysbryd sanctaidd fe ysbrydolodd Jehofah gofnodi’r Efengylau, er mwyn i’r dystiolaeth mai Iesu oedd y Meseia ddod yn rhan o’r Beibl, y llyfr mwyaf eang ei ddosbarthiad a’i gyfieithu yn hanes dyn.−Ioan 4:25, 26.

11. Faint o dystiolaeth sy’ ’na mai Iesu oedd y Meseia?

11 Mae’r holl dystiolaeth hyn yn cynnwys cannoedd o ffeithiau sy’n dangos mai Iesu ydi’r Meseia addawedig. Mae hi’n iawn felly fod gwir Gristnogion yn cydnabod mai ef ydi’r ‘un y mae’r holl broffwydi’n tystio iddo’ a’i fod e’n allweddol i egluro’r wybodaeth o Dduw. (Actau 10:43) Ond maemwyeto i’w ddysgu amIesu Grist heblaw mai ef oedd y Meseia. O ble daeth e? Sut un oedd e?

BYWYD IESU CYN DOD I’R DDAEAR

12, 13. (a) Sut ’rydym ni’n gwybod fod Iesu wedi bodoli yn y nef cyn iddo ddod i’r ddaear? (b) Pwy yw “y Gair,” a be’ wnaeth e cyn iddo ddod yn ddyn?

12 Mae’n bosib’ rhannu bywyd Iesu’n dair rhan. Fe gychwynnoddy rhan gyntaf ymhell cyn iddo gael ei eni ar y ddaear. Mae Micha 5:2 yn dweud fod y Meseia yn tarddu o’r “gorffennol, mewn dyddiau gynt.” [“o’r dechreuad, er dyddiau tragwyddoldeb,” BCL] Fe dd’wedodd Iesu ei hun iddo ddod “oddi uchod,” hynny ydi, o’r nef. (Ioan 8:23; 16:28) Ond am faint o amser oedd Iesu wedi bod yn byw yn y nef cyn dod i’r ddaear?

13 Fe gafodd Iesu ei alw’n “unig Fab” Duw oherwydd iddo gael ei greu gan Jehofah ei hun. (Ioan 3:16) Wedyn, gan mai ef oedd “cyntafanedig yr holl greadigaeth,” mi ddaru Duw ddefnyddio Iesu i greu pob dim arall. (Colosiaid 1:15; Datguddiad 3:14) Yn ol Ioan 1:1, ’roedd “y Gair” (Iesu cyn iddo ddod i’r ddaear) gyda Duw “yn y dechreuad.” Felly ’roedd y Gair efo Jehofah pan grewyd y “nefoedd a’r ddaear.” Sgwrsio gyda’r Gair ’roedd Duw pan dd’wedodd: “Gwnawn ddyn ar ein delw.” (Genesis 1:1, 26) Hefyd, mae’n rhaid mai’r Gair oedd y pensaer medrus [“master worker,” NW], annwyl gan Dduw, sydd yn Diarhebion 8:22-31 yn cael ei bersonoli fel doethineb, yn llafurio gyda Jehofah wrth ddod a phob peth i fodolaeth. Ar ol i Jehofah ei greu fe dreuliodd y Gair oesoedd gyda Duw yn y nef cyn dod yn ddyn ar y ddaear.

14. Pam mae Iesu’n cael ei alw’n “ddelw’r Duw anweledig”?

14 Dim rhyfedd fod Colosiaid 1:15 yn galw Iesu “delw’r Duw anweledig”! Yn ystod blynyddoedd di-rif eu cwmni gyda’i gilydd, fe ddaeth y Mab ufudd i fod yn union fel ei Dad, Jehofah. Dyma reswm arall pam mai Iesu ydi’r allwedd i’r wybodaeth o Dduw, gwybodaeth sy’n rhoi bywyd. Pan oedd e ar y ddaear gwnaeth Iesu bopeth yn union fel byddai Jehofah wedi’i wneud. Felly, wrth inni ddod i ’nabod Iesu, ’rydym ni’r un pryd yn cynyddu yn ein gwybodaeth am Jehofah. (Ioan 8:28; 14:8-10) Dyna pam mae hi mor bwysig inni ddysgu mwy am Iesu Grist.

BYWYD IESU AR Y DDAEAR

15. Sut cafodd Iesu ei eni’n fabi perffaith?

15 Yma ar y ddaear y treuliodd Iesu ail gyfnod ei fywyd. ’Roedd e’n fodlon i Dduw drosglwyddo’i fywyd o’r nef i groth morwyn, Iddewes ffyddlon o’r enw Mair. Daeth ysbryd sanctaidd nerthol Jehofah, neu ei rym gweithredol, i “gysgodi” Mair a’i gwneud yn feichiog. Ymhen amser rhoddodd enedigaeth i fabi perffaith. (Luc 1:34, 35) Gan fod bywyd Iesu wedi dod o Ffynhonnell berffaith wnaeth e ddim etifeddu amherffeithrwydd o gwbl. Fe gafodd ei fagu mewn cartre’ syml, yn fachgen ’roedd Joseff y saer wedi’i fabwysiadu, yr hynafo deulu mawr o blant.−Eseia 7:14; Mathew 1:22, 23; Marc 6:3.

16, 17. (a) Ble cafodd Iesu’r grym i wneud gwyrthiau, a beth oedd rhai ohonyn’ nhw? (b) Nodwch rai nodweddion oedd yn amlwg yn Iesu.

16 Pan oedd Iesu’n ddim ond 12 oed daeth ei ymrwymiad i Jehofah Dduw i’r amlwg. (Luc 2:41-49) Ar ol tyfu’n ddyn a chychwyn ar ei weinidogaeth yn 30 oed, dangosodd Iesu ei gariad mawr at bobl hefyd. Pan gafodd rym gan ysbryd sanctaidd Duw i wneud gwyrthiau, dangosodd dosturi mawr wrth iachau’r cleifion, y cloff, yr anafus, y dall, y byddar, a’r gwahanglwyfus. (Mathew 8:2-4; 15:30) Rhoddodd Iesu fwyd i filoedd oedd mewn angen. (Mathew 15:35-38) Fe dawelodd storm oedd yn peryglu bywydau ei ffrindiau. (Marc 4:37-39) Yn wir, fe atgyfododd e’r meirw. (Ioan 11:43, 44) Mae’r gwyrthiau hyn yn rhan o hanes. ’Roedd hyd yn oed gelynion Iesu yn cydnabod ei fod yn “gwneud llawer o arwyddion.”−Ioan 11:47, 48.

17 Wrth i Iesu gerdded hyd a lled gwlad ei eni, ’roedd e mor amyneddgar a theg wrth bawb, gan eu dysgu nhw am Deyrnas Dduw. (Mathew 4:17) Er iddo gael ei siomi yn ei ddisgyblion fe ddangosodd gydymdeimlad a nhw drwy ddweud: “Ymae’r ysbryd yn barod ond y cnawd yn wan.” (Marc 14:37, 38) Yr un pryd ’roedd Iesu’n ddewr wrth wynebu’r rhai oedd yn dirmygu’r gwirionedd ac yn gorthrymu’r gwan. (Mathew 23:27-33) Medrwn weld o’i esiampl berffaith y math o gariad sy’ gan ei Dad. ’Roedd Iesu hyd yn oed yn barod i farw er mwyn i’r ddynoliaeth amherffaith gael gobaith ar gyfer y dyfodol. Dim rhyfedd felly fod Iesu’n allweddol i ddeall y wybodaeth o Dduw! Ie, fe ydi’r allweddfyw! Ond pam ’rym ni’n dweud allwedd fyw? Mae hyn yn dod a ni at drydedd ran ei fywyd.

IESU HEDDIW

18. Sut ddarlun ddylai ddod i’n meddwl wrth inni ystyried Iesu Grist heddiw?

18 Er bod y Beibl yn cofnodi ei farwolaeth, mae Iesu ’nawr yn fyw! Yn wir, yn ystod y ganrif gynta’ C.C. ’roedd cannoedd wedi’i weld e ar ol iddo gael ei atgyfodi. (1 Corinthiaid 15:3-8) Yn dilyn hynny fe eisteddodd ar ddeheulaw ei Dad i ddisgwyl yr amser pan fyddai’n derbyn gallu brenhinol yn y nef, fel ’roedd y proffwydi wedi dweud. (Salm 110:1; Hebreaid 10:12, 13) ’Nawr sut ddarlun ddylai ddod i’n meddwl wrth inni ystyried Iesu heddiw? Babi mewn preseb? Dyn yn dioddef poen marwolaeth araf? Nage! Brenin nerthol ydi e, Brenin sy’n teyrnasu! Ac yn fuan ’nawr fe fydd yn amlygu ei frenhiniaeth dros ein daear gythryblus.

19. Be’ fydd Iesu’n ei wneud yn y dyfodol agos?

19 Mae Datguddiad 19:11-15 yn rhoi disgrifiad byw iawn inni o’r Brenin Iesu Grist yn dod gyda gallu mawr i ddifa’r rhai drwg. Mor awyddus yw e, y Llywodraethwr nefol hwn llawn cariad, i wneud i ffwrdd a’r holl boen mae pobl yn ei ddioddef heddiw! Mae e hefyd yr un mor awyddus i gynnig help i’r rhai sy’n ymdrechu i ddilyn ei esiampl berffaith. (1 Pedr 2:21) Mae e am eu hamddiffyn nhw yn ystod y “rhyfel ar ddydd mawr Duw, yr Hollalluog,” sydd ar fin dod, neu Armagedon, er mwyn iddyn’ nhw fedru byw ar y ddaear am byth yn ddeiliaid Teyrnas nefol Duw.−Datguddiad 7:9, 14; 16:14, 16.

20. Be’ fydd Iesu’n ei wneud ar ran y ddynoliaeth yn ystod ei Deyrnasiad Mil Blynyddoedd?

20 Fel mae’r Beibl yn addo, yn ystod heddwch Teyrnasiad Mil Blynyddoedd Iesu, fe fydd e’n cyflawni gwyrthiau er lles y ddynoliaeth gyfan. (Eseia 9:6, 7; 11: 1-10; Datguddiad 20:6) Fe fydd Iesu’n gwella pob salwch a rhoi diwedd ar farwolaeth. Fe fydd e’n atgyfodi biliynau o bobl fel byddan’ nhw hefyd yn medru cael y cyfle i fyw am byth ar y ddaear. (Ioan 5:28, 29) Fe fyddwch wrth eich bodd yn dysgu mwyamDeyrnas y Meseia mewn pennod arall. Gallwch fod yn sicr o un peth: Fe fydd cael byw dan frenhiniaeth y Deyrnas yn brofiad rhyfeddol, y tu hwnt i unrhyw beth a fedrwn ei ddychmygu ’nawr. Mae hyn yn dangos mor bwysig ydi hi inni gadw’n golwg ar Iesu Grist a dod i’w ’nabod e’n well! Fe, Iesu, ydi’r allwedd fyw i’r wybodaeth o Dduw sy’n arwain i fywyd tragwyddol.

[Troednodyn]

a ’Roedd y cofrestru hwn yn hwyluso pethau i’r Ymerodraeth Rufeinig godi trethi. Felly, heb sylweddoli hynny, cafodd Awgwstus ran mewn cyflawni proffwydoliaeth am lywodraethwr fyddai’n ‘anfon swyddog i drethu’r deyrnas.’’Roedd yr un broffwydoliaeth yn rhagddweud y byddai “tywysog y cyfamod,” neu’r Meseia, yn cael ei “ddryllio” yn nyddiau olynydd y llywodraethwr hwn. Cafodd Iesu ei ladd yn ystod teyrnasiad Tiberius, olynydd Awgwstus. −Daniel 11:20-22.

b Peth cyffredin oedd i’r Iddewon gynt feddwl yn nhermau wythnosau o flynyddoedd. Er enghraifft, fel ’roedd y seithfed diwrnod bob amser yn ddydd Saboth, ’roedd pob seithfed flwyddyn yn flwyddyn Saboth.−Exodus 20:8-11; 23:10, 11.

RHOI PRAWFAR EICH GWYBODAETH

Sut oedd llinach Iesu’n cadarnhau mai fe oedd y Meseia?

Nodwch rai proffwydoliaethau am y Meseia gafodd eu cyflawni yn Iesu.

Sut dangosodd Duw mai Iesu oedd ei Eneiniog?

Pam gallwn ddweud mai Iesu ydi’r allwedd fyw i’r wybodaeth o Dduw?

[Siart ar dudalen 37]

Rhai Proffwydoliaethau Mawr Am Y Meseia

Proffwydoliaeth Digwyddiad Cyflawniad

Ei Fywyd Cynnar

Eseia 7:14 Ei eni o forwyn Mathew 1:18-23

Jeremeia 31:15 Lladd babanod ar ôl ei eni Mathew 2:16-18

Ei Weinidogaeth

Eseia 61:1, 2 Ei gomisiwn gan Dduw Luc 4:18-21

Eseia 9:1, 2 Ei weinidogaeth yn helpu Mathew 4:13-16

pobl i weld goleuni mawr

Salm 69:9 Yn selog dros dŷ Jehofah Ioan 2:13-17

Eseia 53:1 Neb yn credu ynddo Ioan 12:37, 38

Sechareia 9:9; Mynd i mewn i Jerwsalem ar Mathew 21:1-9

Salm 118:26 ebol asyn; ei gyfarch yn

frenin, yr un sy’n dod

yn enw Jehofah

Ei Fradychu A’i Farw

Salm 41:9; 109:8 Un apostol anffyddlon; Actau 1:15-20

yn bradychu Iesu; un

arall yn cymryd ei le

Sechareia 11:12 Ei fradychu am 30 Mathew 26:14, 15

darn arian

Salm 27:12 Defnyddio gau dystion Mathew 26:59-61

yn ei erbyn

Salm 22:18 Bwrw coelbren am ei wisg Ioan 19:23, 24

Eseia 53:12 Ei gyfrif gyda phechaduriaid Mathew 27:38

Salm 22:7, 8 Ei watwar wrth farw Marc 15:29-32

Salm 69:21 Rhoi finegr iddo Marc 15:23, 36

Eseia 53:5; Ei drywanu Ioan 19:34, 37

Sechareia 12:10

Eseia 53:9 Ei gladdu gyda’r cyfoethog Mathew 27:57-60

Salm 16:8-11 Ei gyfodi cyn llygru Actau 2:25-32;

Actau 13:34-37

[Llun ar dudalen 35]

Fe roddodd Duw y gallu i Iesu i wella’r cleifion

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu