Ai Bwriad Duw Oedd Hyn?
DARLLENWCH unrhyw bapur newydd. Gwyliwch y teledu, neu gwrandewch ar y radio. Mae’r cyfryngau’n llawn hanesion am drosedd, rhyfel a therfysgaeth! Meddyliwch am eich problemau eich hun. Efallai bod salwch neu brofedigaeth yn achosi poen enbyd i chi. Efallai eich bod chi’n teimlo fel y dyn da Job, a ddywedodd ei fod “yn llwythog gan flinder.”—Job 10:15.
Gofynnwch i chi’ch hun:
Ydy’r hyn sy’n digwydd imi ac i bawb arall yn rhan o fwriad Duw?
Lle caf help i ymdopi â’m problemau?
Oes unrhyw obaith y byddwn ni’n gweld heddwch ar y ddaear ryw ddydd?
Mae’r Beibl yn rhoi atebion argyhoeddiadol i’r cwestiynau hyn.
MAE’R BEIBL YN DYSGU Y BYDD DUW YN GWNEUD Y PETHAU HYN AR Y DDAEAR.
“Fe sych bob deigryn o’u llygaid hwy, ac ni bydd marwolaeth mwyach, na galar na llefain na phoen.”—Datguddiad 21:4
“Fe lama’r cloff fel hydd.”—Eseia 35:6
“Fe agorir llygaid y deillion.”—Eseia 35:5
“Mae amser yn dod pan fydd pawb sydd yn eu beddau . . . yn dod allan.”—Ioan 5:28, 29
“Ni ddywed neb o’r preswylwyr, ‘Rwy’n glaf.’”—Eseia 33:24
“Bydded digonedd o ŷd yn y wlad.”—Salm 72:16
ELWA AR YR HYN MAE’R BEIBL YN EI DDYSGU
Peidiwch â bod yn rhy gyflym i ddiystyru’r hyn rydych chi wedi ei ddarllen ar y tudalennau blaenorol fel petai’n freuddwyd. Mae Duw wedi addo y bydd yn gwneud i’r pethau hyn ddigwydd, ac mae’r Beibl yn esbonio sut y bydd yn gwneud hynny.
Ond mae’r Beibl yn gwneud mwy na hynny. Mae’n rhoi’r allwedd i chi fwynhau bywyd gwirioneddol ystyrlon hyd yn oed nawr. Meddyliwch am ennyd am eich pryderon a’ch problemau. Efallai eich bod chi’n wynebu problemau ariannol, problemau teuluol, salwch neu brofedigaeth. Gall y Beibl eich helpu chi heddiw i ymdopi â phroblemau, ac fe all liniaru ar eich pryderon drwy ateb cwestiynau fel hyn:
Pam rydyn ni’n dioddef?
Sut gallwn ni ymdopi â phryderon bywyd?
Sut gallwn ni wneud ein bywyd teuluol yn hapusach?
Beth sy’n digwydd inni ar ôl inni farw?
A fyddwn ni’n gweld ein hanwyliaid marw eto?
Sut gallwn ni fod yn sicr y bydd Duw yn cadw at ei air ynglŷn â’r dyfodol?
Mae’r ffaith eich bod chi’n darllen y llyfr hwn yn dangos bod gennych ddiddordeb yn yr hyn mae’r Beibl yn ei ddysgu. Bydd y llyfr hwn yn eich helpu. Sylwch fod y cwestiynau yn cyfateb i’r paragraffau. Mae miliynau wedi mwynhau defnyddio’r dull cwestiwn ac ateb wrth drafod y Beibl gyda Thystion Jehofa. Rydyn ni’n gobeithio y cewch chi’r un pleser. Boed i Dduw eich bendithio wrth i chi fwynhau’r profiad cyffrous o ddarganfod beth mae’r Beibl yn ei wir ddysgu!