LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 1914—Blwyddyn Arwyddocaol ym Mhroffwydoliaethau’r Beibl
    Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?
    • Yn union fel y rhagfynegodd Iesu, mae ei “bresenoldeb” fel Brenin yn y nef wedi ei amlygu gan ddigwyddiadau byd eang dramatig—rhyfel, newyn, daeargrynfeydd, a heintiau. (Mathew 24:3-8; Luc 21:11) Mae digwyddiadau o’r fath yn dystiolaeth bwerus o’r ffaith mai 1914 oedd y flwyddyn a welodd enedigaeth Teyrnas Dduw yn y nef a dechreuad “dyddiau diwethaf” y drefn bresennol.—⁠2 Timotheus 3:1-5.

      Siart: Cyfrif y saith amser o gwymp Jerwsalem hyd at Hydref 1914, cyfnod o 2,520 o flynyddoedd.
  • Pwy Yw Mihangel yr Archangel?
    Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?
    • ATODIAD

      Pwy Yw Mihangel yr Archangel?

      DYDY’R Beibl ddim yn dweud llawer am yr ysbryd greadur o’r enw Mihangel. Sut bynnag, bob tro y mae sôn amdano, mae’n gweithredu. Yn llyfr Daniel, mae Mihangel yn brwydro yn erbyn angylion drygionus; yn llythyr Jwdas, mae’n ymryson â Satan; ac yn llyfr Datguddiad, mae’n rhyfela yn erbyn y Diafol a’i gythreuliaid. Trwy amddiffyn llywodraeth Jehofa a thrwy ymladd yn erbyn gelynion Duw, mae Mihangel yn dangos ei fod yn haeddu ei enw, sy’n golygu “Pwy Sy’n Debyg i Dduw?” Ond, pwy yw Mihangel?

      Weithiau, mae unigolion yn cael eu hadnabod wrth fwy nag un enw. Er enghraifft, enw arall ar y patriarch Jacob yw Israel, ac enw arall ar yr apostol Pedr yw Simon. (Genesis 49:1, 2; Mathew 10:2) Yn yr un modd, mae’r Beibl yn dangos bod Mihangel yn enw arall ar Iesu Grist cyn iddo ddod i’r ddaear ac ar ôl iddo ddychwelyd i’r nef. Gadewch inni ystyried y rhesymau Ysgrythurol dros y casgliad hwnnw.

      Archangel. Mae Gair Duw yn cyfeirio at Mihangel “yr archangel.” (Jwdas 9) Ystyr y term yw “prif angel.” Sylwch mai “yr archangel” yw’r enw ar Mihangel yma. Awgryma hyn mai un angel o’r fath sydd. Yn wir, mae’r term “archangel” yn digwydd yn y Beibl yn yr unigol yn unig a byth yn y lluosog. Ar ben hynny, mae Iesu wedi ei gysylltu â swydd yr archangel. Ynglŷn â’r Arglwydd Iesu Grist atgyfodedig, mae 1 Thesaloniaid 4:16 yn dweud: “Yr Arglwydd ei hun a ddisgyn o’r nef gyda bloedd, â llef yr archangel.” (BC) Yma, mae llais Iesu yn cael ei ddisgrifio fel llais archangel. Mae’r adnod hon yn awgrymu, felly, mai Iesu ei hun yw’r archangel Mihangel.

      Arweinydd Byddin. Mae’r Beibl yn datgan bod “Mihangel a’i angylion yn rhyfela yn erbyn y ddraig . . . a’i hangylion hithau.” (Datguddiad 12:7) Felly, arweinydd ar fyddin o angylion ffyddlon yw Mihangel. Yn Datguddiad, disgrifir Iesu hefyd fel arweinydd ar fyddin o angylion ffyddlon. (Datguddiad 19:14-16) Ac mae’r apostol Paul yn cyfeirio yn benodol at “yr Arglwydd Iesu . . . gyda’i angylion nerthol.” (2 Thesaloniaid 1:7) Felly, mae’r Beibl yn sôn am Mihangel “a’i angylion” a Iesu ‘a’i angylion.’ (Mathew 13:41; 16:27; 24:31; 1 Pedr 3:22) Dydy’r Beibl byth yn awgrymu bod dwy fyddin o angylion ffyddlon yn y nef—un wedi ei harwain gan Mihangel ac un arall gan Iesu. Y casgliad rhesymegol, felly, yw mai Iesu yn ei swydd nefol yw Mihangel a neb arall.a

      a Mae mwy o wybodaeth sy’n dangos bod Mihangel yn enw ar Fab Duw i’w chael yng Nghyfrol 2, tudalennau 393-394 yn Insight on the Scriptures, a gyhoeddir gan Dystion Jehofa.

  • Adnabod “Babilon Fawr”
    Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?
    • ATODIAD

      Adnabod “Babilon Fawr”

      YN LLYFR Datguddiad, nid yw pob ymadrodd i’w deall mewn ystyr llythrennol. (Datguddiad 1:1) Er enghraifft, mae’n sôn am wraig â’r enw “Babilon Fawr” wedi ei ysgrifennu ar ei thalcen. Dywedir am y wraig hon ei bod hi’n eistedd ar ‘dyrfaoedd’ a ‘chenhedloedd.’ (Datguddiad 17:1, 5, 15) Gan nad yw’n bosibl i wraig o gig a gwaed wneud hyn, mae’n amlwg mai symbol yw Babilon Fawr. Felly, beth mae’r butain symbolaidd hon yn ei gynrychioli?

      Yn Datguddiad 17:18, mae’r wraig ffigurol hon yn cael ei galw’n “ddinas fawr sydd â’r frenhiniaeth ganddi ar frenhinoedd y ddaear.” Mae’r term “dinas” yn dynodi grŵp o bobl sy’n byw o dan ryw fath o drefn. Mae’r “ddinas fawr” hon yn rheoli dros “frenhinoedd y ddaear.” Felly, mae’n rhaid bod

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu