Cân 100 (222)
Cadwch Eich Golwg ar y Wobr!
1. Pan gaiff y dall weld eto’n glir
Pan glyw byddariaid eiriau’r gwir,
Pan o dir anial blodau ddaw
A bwrlwm ffrydiau dŵr gerllaw,
Pan lama’r cloff fel ifanc hydd,
A’ch câr o’ch cwmpas beunydd fydd
—Mwynhau’r bendithion hyn a gewch
Os ar wobr Duw edrych wnewch.
2. Pan gaiff y mudion dafod rhydd,
Ireiddiach gnawd fwynheir bob dydd,
Pan rydd y tir gnwd llawn llesâd,
Daionus ddae’r a ddwg fwynhad,
Pan glywir canu lleisiau plant
A heddwch ar y ddae’r fwynhânt,
—Yr atgyfodiad, gweld a gewch
Os ar wobr Duw edrych wnewch.
3. Pan drig y blaidd a’r oen fel un,
Pan fydd y llo a’r llew’n gytûn,
Caiff plentyn bach yn hawdd nesáu,
A’i wrando wnânt ac ufuddhau.
Cans dagrau galar, poen, ni fydd,
O’ch blaen byd newydd iraidd sydd;
—Hyn oll ar ddaear wiw fwynhewch
Os ar wobr Duw edrych wnewch.