Cân 6 (13)
Ymgysegriad Cristnogol
1. Mawr Dduw Jehofah, a greodd
Ysblander gloyw’r nef;
Ysblennydd haul, y lloer a’r sêr
Yw gwaith ei fysedd ef.
Fe roddodd anadl einioes
I bob creadur byw.
Y teilyngaf Un i dderbyn mawl
A’n teyrngar addoliad yw.
2. Cysegrwyd Israel ar Sinai,
Clywch eu diffuant gri:
‘I Gyfraith lân Jehofah Dduw
Yn ufudd byddwn ni.’
Fe oedd eu priod berchennog;
Fe’u prynodd hwy o’r môr.
Llwyr ymgysegredig fyddent fyth,
Yn genedl, eiddo’r Iôr.
3. Mewn dŵr bedyddiwyd yr Iesu;
Cyflawnodd gyfiawn Air.
Yn wylaidd gwnaeth ewyllys Duw
 sêl, ffyddlondeb taer.
Pan gododd o ddŵr Iorddonen
Yn Fab eneiniog Duw,
Yn deyrngar, yn ufudd, rhoes ei fryd
Ar was’naethu’r ddynolryw.
4. O’th flaen fe ddeuwn Jehofah,
I’th enw mawr rhown glod.
Ymwadu, ymgysegru wnawn,
Ffyddlondeb llwyr yw’n nod.
Fe roist dy gyntaf-anedig
A dalodd bridwerth llawn.
Ai byw, neu ai marw, eiddo ym
I ti, Arglwydd Iôr uniawn.