Cân 40 (87)
Swper Yr Arglwydd
1. Ar noson mor sanctaidd, fel heno,
Mis Nisan, pedwerydd ar ddeg,
Amlygwyd yn llawn grym Jehofah uniawn,
Ei gariad a’i gyfiawnder teg!
Bwytawyd gynt, cig oen pasgedig,
Gollyngwyd holl Israel yn rhydd.
Gyda chariad di-baid t’walltodd Iesu ei waed
I gyflawni Gair Duw, sail ein ffydd.
2. Ymgrymwn o’th flaen, O Jehofah.
Fel defaid dy borfa y down,
I ddiolch it Dduw, am rodd Iesu gorwiw,
A moliant i’th enw a rown.
O’n blaen gwelwn fwrdd arlwyedig
Â’r glân fara croyw a gwin.
Teg arwyddion boddhaus; sail gwir fywyd parhaus.
Maeth ysbrydol Gair Duw i bob un.
3. Teg arwydd yw’r bara o gorff Crist;
Ei gnawd, perffaith oedd a di-fai.
Y gwin, arwydd yw o waed drudfawr Mab Duw
Sy’n gwared dynolryw rhag gwae.
Yn sicir fe gaiff Coffadwriaeth
Ei aberth tragwyddol barhau.
Rhodiwn lwybyr y ffydd; dilyn Crist wnawn bob dydd.
Bythol fywyd ddaw i’r teyrngar rai.