Cân 28 (58)
Jehofah—‘Duw Pob Diddanwch’
1. Mawr, yn wir, yw’r cysur gawn gan Dduw;
Ei gariad sydd ddiderfyn.
Rhannwn gyda phawb y cysur hwn,
Cans Mab Duw nawr yw’n Brenin.
2. Cymaint sy’n dioddef yn y byd,
Cystudd a thristwch gwaeledd.
Ond Jehofah Dduw mawr obaith rydd,
Tystio wnawn i’w drugaredd.
3. Gwynfydedig Dduw sy’n trugarhau;
Caredig ei dosturi.
Cymorth ei ddiddanwch profwn nawr;
Ynddo cawn ymhyfrydu.
4. Cadarn yn y ffydd ymdrechwn fod,
Er gwaethaf anawsterau.
Gwerthfawrogwn aberth drudfawr Crist:
Boed i Dduw glod molawdau.