Cân 16 (37)
Gwneud Enw Da Gyda Duw
(Pregethwr 7:1)
1. Er mwyn boddhau Duw
Ein hymdrech orau wnawn.
Ei gym’radwyaeth
Fe ddown i’w brofi’n llawn.
Fel ennaint o fawr werth
Yw enw da prydferth.
Ymdrechwn beunydd
Â’n cyfan nerth.
2. Trwy ymarweddiad,
Yr holl weithredoedd wnawn,
Fe roir in enw
Os yn hyn y parhawn.
Os gwneud gweithredoedd glân
Bob diwrnod fydd ein rhan,
Bendithia’n Duw ni
O’i deg drigfan.
3. Cawn fuddiol enw
Os sylw rown i Dduw
A gwrando’i eiriau;
Yn ôl ei ddeddfau, byw.
Os gwarchod wnawn bob dydd
Fuddiannau’r Gair mewn ffydd
I’w ogoneddu,
Ein Cyfaill fydd.
4. Mewn oes ddrygionus
Gweithredu’n ddoeth sy’n rhaid.
Ardderchog enw
Wnawn gyda Jah’n ddi-baid.
I’w Air teg ufuddhawn
Gan rodio’n bur, uniawn.
Cyhoeddi’r Deyrnas
Â’n holl nerth wnawn.