Cân 25 (53)
Henffych i Gynnydd Theocratiaeth
(Eseia 9:6, 7)
1. Henffych i’r deg theocratiaeth a’i chynnydd!
Gwelwn ryfeddol ehangu drwy’r ddae’r.
Clod i Jehofah yw pêr gân llawenydd
Llu’r rhai sy’n rhodio yng ngolau y Gair.
Flynyddoedd ’n ôl, ar ei yrfa cychwynnodd
Ein glân Waredwr, mewn gwyleidd-dra gwiw.
Teg dyrfa nawr sydd â’r gweddill yn adrodd
Clod uchel ’r hwn sydd ar ddeheulaw Duw.
2. Crist ar ei orsedd mewn barn lywodraetha;
Llwythau, cenhedloedd, a ddônt ger ei fron.
Er mwyn mawrhau enw Duw ag uniondra
Difa’i elynion wna dros ddaear gron.
Tad tragwyddoldeb, Tywysog tangnefedd,
Gallu rhyfeddol, Duw cadarn yw ef.
Cyfiawn a theg ei lywodraeth ddiddiwedd;
Sêl Iôr Jehofah wna hyn â llaw gref.
3. O dyna fraint, byw yn niwedd y dyddiau!
Llawen fo’ch calon gweld cynnydd mor fawr.
Dedwyddach rinwedd yw rhoddi na derbyn;
Ymrowch i’r gwaith tystiolaethu yn awr.
 sêl cyhoeddwch i’r holl rai gwar-galed
‘Brwydyr mawr Dduw, Armagedon, sy’n dod.’
D’wedwch am Deyrnas a fydd yn wir nodded
I’r holl rai addfwyn. I Dduw byddo’r clod.