Dilynwch Esiamplau’r Proffwydi—Hosea
1. Pa gwestiwn rydych chi efallai wedi ei ofyn?
1 ‘Pa aberthau ydw i’n barod i wneud ar gyfer Jehofah?’ Efallai eich bod chi wedi gofyn y cwestiwn hwnnw wrth ichi fyfyrio ar ei drugaredd a’i ddaioni mawr. (Salm 103:2-4; 116:12) Roedd y proffwyd Hosea yn hapus i ddilyn gorchmynion Jehofah, hyd yn oed pan oedd hyn yn cynnwys aberthau personol. Sut gallwn ni efelychu Hosea?
2. Sut mae esiampl dda Hosea yn ein helpu ni i ddal ati i bregethu?
2 Pregethwch yn Ystod Amserau Anodd: Yn bennaf, roedd neges Hosea yn cael ei chyhoeddi i deyrnas deg llwyth Israel, lle’r oedd pobl bron wedi cael gwared ar wir addoliad yn gyfan gwbl. Gwnaeth Brenin Jeroboam II yr hyn a oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofah a pharhaodd i addoli lloeau gan ddilyn yr hyn a wnaeth Jeroboam I. (2 Bren. 14:23, 24) Arweiniodd y brenhinoedd dilynol deyrnas deg llwyth Israel yn bellach i ddirywiad ysbrydol, nes iddi gael ei chwalu yn 740 COG. Er bod gau grefydd mor eang, gwasanaethodd Hosea fel proffwyd ffyddlon am o leiaf 59 mlynedd. Ydyn ni yr un mor benderfynol o bregethu, flwyddyn ar ôl blwyddyn, hyd yn oed pan ddaw erledigaeth a phobl sy’n ein hanwybyddu?—2 Tim. 4:2.
3. Beth mae bywyd Hosea yn ein dysgu ynglŷn â thrugaredd Jehofah?
3 Canolbwyntiwch ar Drugaredd Jehofah: Dywedodd Jehofah wrth Hosea: “Cymer iti wraig o butain.” (Hos. 1:2) Er i Gomer geni mab i Hosea, mae’n debyg cafodd hi ddau blentyn y tu allan i’r briodas hefyd. Roedd ffyddlondeb a maddeuant Hosea tuag at ei wraig yn dangos trugaredd Jehofah tuag at Israel anufudd. (Hos. 3:1; Rhuf. 9:22-26) A ydyn ni’n fodlon rhoi ein teimladau i un ochr er mwyn cyhoeddi trugaredd Jehofah i bawb?—1 Cor. 9:19-23.
4. Beth yw rhai o’r aberthau gallwn ni eu gwneud ar gyfer Jehofah?
4 Mae rhai o weision Jehofah wedi gwrthod gyrfa a chyflog da er mwyn rhoi mwy o amser i’r weinidogaeth. Mae eraill wedi penderfynu aros yn sengl, neu beidio â chael plant er mwyn blaenoriaethu gwaith y Deyrnas. Wrth inni fyfyrio ar fywyd Hosea, gallwn ni feddwl, ‘Faswn i byth yn gallu gwneud beth wnaeth ef.’ Ond, wrth inni ddod i werthfawrogi caredigrwydd Jehofah yn fwy a dibynnu ar ei ysbryd glân am nerth, efallai bydden ni’n cael ein defnyddio ganddo mewn ffordd wnaethon ni erioed feddwl ei bod yn bosibl, yn union fel Hosea.—Math. 19:26; Phil. 2:13.