LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • Sut Cafodd Gwirionedd y Beibl ei Ailddarganfod?
    Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofa Heddiw?
    • GWERS 3

      Sut Cafodd Gwirionedd y Beibl ei Ailddarganfod?

      Grŵp o ddynion yn astudio’r Beibl yn y 1870au

      Myfyrwyr y Beibl, 1870au

      Dyn yn darllen cyfrol gyntaf y Watchtower

      Rhifyn cyntaf y Watchtower, 1879

      Dynes yn dangos y cylchgronau, y Tŵr Gwylio a’r Awake

      Y Watchtower heddiw

      Rhagfynegodd y Beibl y byddai gau athrawon yn codi o blith y Cristnogion cynnar ar ôl marwolaeth Crist, ac fe fydden nhw’n llygru gwirioneddau’r Beibl. (Actau 20:29, 30) Ymhen amser, dyna ddigwyddodd. Fe wnaethon nhw gymysgu dysgeidiaethau Iesu â syniadau crefyddol paganaidd, ac fe arweiniodd hyn at gau Gristnogaeth. (2 Timotheus 4:3, 4) Heddiw, sut gallwn ni wybod bod gennyn ni ddealltwriaeth gywir o’r hyn mae’r Beibl yn ei wir ddysgu?

      Daeth hi’n amser i Jehofa ddatgelu’r gwirionedd. Rhagfynegodd Duw y byddai ‘gwybodaeth yn cynyddu’ yn amser y diwedd. (Daniel 12:4, troednodyn) Ym 1870, fe wnaeth grŵp bychan a oedd yn chwilio am y gwirionedd sylweddoli nad oedd llawer o ddysgeidiaethau’r eglwysi yn seiliedig ar y Beibl. Felly, dechreuon nhw ymchwilio i ddysgeidiaethau gwreiddiol y Beibl, ac fe fendithiodd Jehofa eu hymdrechion a’u helpu nhw i ddeall yr Ysgrythurau.

      Dynion diffuant yn astudio’r Beibl yn fanwl. Datblygodd Myfyrwyr y Beibl ddull o astudio rydyn ni yn dal i’w ddefnyddio hyd heddiw. Roedden nhw’n trafod y Beibl fesul pwnc. Pan oedden nhw’n dod ar draws adnodau anodd eu deall, roedden nhw’n chwilio am adnodau eraill i egluro’r ystyr. Ar ôl iddyn nhw ddod i gasgliad a oedd yn cytuno â gweddill y Beibl, roedden nhw’n cofnodi hynny. Felly, drwy adael i’r Beibl ei ddehongli ei hun, roedden nhw’n ailddarganfod y gwir ynglŷn ag enw Duw, ei Deyrnas, ei fwriad ar gyfer dynolryw a’r ddaear, cyflwr y meirw, a gobaith yr atgyfodiad. Roedd yr ymchwil honno’n eu rhyddhau nhw rhag llawer o syniadau ac arferion cyfeiliornus.—Ioan 8:31, 32.

      Erbyn 1879, roedd Myfyrwyr y Beibl yn gwybod bod rhaid iddyn nhw ddysgu’r gwir i eraill. Felly, y flwyddyn honno fe ddechreuon nhw gyhoeddi’r cylchgrawn yr ydyn ni’n dal i’w gyhoeddi heddiw, sef y Watchtower Announcing Jehovah’s Kingdom. Erbyn hyn, rydyn ni’n dysgu gwirionedd y Beibl i bobl mewn 240 o wledydd ac mewn dros 750 o ieithoedd. Nid yw gwybodaeth y Beibl erioed wedi bod ar gael i gynifer o bobl!

      • Ar ôl marwolaeth Crist, beth ddigwyddodd i wirioneddau’r Beibl?

      • Beth sydd wedi ein helpu i ailddarganfod gwirioneddau Gair Duw?

  • Pam Rydyn Ni Wedi Cyhoeddi Cyfieithiad o’r Beibl?
    Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofa Heddiw?
    • GWERS 4

      Pam Rydyn Ni Wedi Cyhoeddi Cyfieithiad o’r Beibl?

      Hen wasg argraffu
      New World Translation of the Holy Scriptures
      Pobl yn edrych ar y New World Translation of the Holy Scriptures yn Congo (Kinshasa)

      Congo (Kinshasa)

      New World Translation of the Holy Scriptures yn cael ei ryddhau yn Rwanda

      Rwanda

      Dernyn Symmachus yn cynnwys yr enw dwyfol

      Dernyn Symmachus yn cynnwys yr enw dwyfol yn Salm 69:31, trydedd neu bedwaredd ganrif OG

      Am ddegawdau, roedd Tystion Jehofa yn defnyddio, yn argraffu, ac yn dosbarthu gwahanol gyfieithiadau o’r Beibl. Ond wedyn, fe welon ni’r angen i gyhoeddi cyfieithiad newydd a fyddai’n helpu pobl “i  ganfod y gwirionedd,” gan mai dyna yw ewyllys Duw i bawb. (1 Timotheus 2:3, 4) Felly, ym 1950, dechreuon ni gyhoeddi Beibl Saesneg cyfoes, y New World Translation, fesul rhan. Mae’r Beibl hwn wedi cael ei gyfieithu’n fanwl gywir i fwy na 130 o ieithoedd.a

      Roedd angen Beibl hawdd ei ddeall. Mae ieithoedd yn newid dros amser, ac mae llawer o gyfieithiadau yn cynnwys ymadroddion hen-ffasiwn ac anodd eu deall. Ar ben hynny, mae hen lawysgrifau sy’n fwy cywir ac yn nes at y testun gwreiddiol wedi dod i’r golwg. Mae’r rhain yn rhoi gwell dealltwriaeth inni o ieithoedd y Beibl, sef Hebraeg, Aramaeg, a Groeg.

      Roedd angen cyfieithiad a oedd yn ffyddlon i air Duw. Yn hytrach na bod mor hy â newid gair Duw, dylai cyfieithwyr y Beibl lynu wrth y testun gwreiddiol. Fodd bynnag, yn y rhan fwyaf o gyfieithiadau, nid yw’r enw dwyfol, Jehofa, yn cael ei ddefnyddio.

      Roedd angen Beibl sy’n rhoi clod i’r Awdur. (2 Samuel 23:2) Mae’r New World Translation wedi adfer enw Jehofa ryw 7,000 o weithiau lle mae’n ymddangos yn llawysgrifau hynaf y Beibl. Fe welir esiampl yn y llun isod. (Salm 83:18, BC) Mae’r Beibl hwn yn ffrwyth blynyddoedd o waith ymchwil. Mae’n bleser i’w ddarllen oherwydd ei fod yn cyfleu meddyliau Duw yn glir. Ond hyd yn oed os nad oes gennych chi’r New World Translation yn eich iaith eich hun, yr hyn sy’n bwysig yw eich bod chi’n darllen gair Jehofa bob dydd.—Josua 1:8; Salm 1:2, 3.

      • Pam roedd angen cyfieithiad newydd o’r Beibl?

      • I ddysgu am ewyllys Duw, beth y dylen ni ei wneud bob dydd?

      a Nid yw’r New World Translation ar gael yn y Gymraeg ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae nifer yn elwa ar ddarllen y cyfieithiad hwn mewn ieithoedd eraill.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu