-
Sut Fath o Brofiad Yw Mynd i Gyfarfod Cristnogol?Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofa Heddiw?
-
-
GWERS 5
Sut Fath o Brofiad Yw Mynd i Gyfarfod Cristnogol?
Yr Ariannin
Sierra Leone
Gwlad Belg
Maleisia
Mae llawer wedi rhoi’r gorau i fynychu gwasanaethau crefyddol oherwydd nad ydyn nhw’n cael cysur nac arweiniad. Pam, felly, y dylech chi fynychu cyfarfodydd Cristnogol sydd wedi eu trefnu gan Dystion Jehofa? Beth gallwch chi ei ddisgwyl?
Cwmni pobl gariadus. Fe wnaeth Cristnogion y ganrif gyntaf ffurfio cynulleidfaoedd a chynnal cyfarfodydd er mwyn addoli Duw, astudio’r Ysgrythurau, ac annog ei gilydd. (Hebreaid 10:24, 25) Oherwydd awyrgylch cynnes eu cyfarfodydd, roedden nhw’n teimlo’n hapus ymhlith gwir ffrindiau—eu brodyr ysbrydol. (2 Thesaloniaid 1:3; 3 Ioan 14) Rydyn ni’n dilyn yr un patrwm, ac yn teimlo’r un llawenydd.
Dysgu rhoi egwyddorion y Beibl ar waith. Fel yr oedd yn digwydd yn adeg y Beibl, mae dynion, merched, a phlant i gyd yn cyfarfod gyda’i gilydd. Mae athrawon cymwys yn defnyddio’r Beibl i’n helpu ni i ddeall sut gallwn ni roi egwyddorion y Beibl ar waith yn ein bywydau bob dydd. (Deuteronomium 31:12; Nehemeia 8:8) Gall pawb fynegi eu gobaith Cristnogol drwy gymryd rhan yn y trafodaethau a’r canu.—Hebreaid 10:23.
Cryfhau eich ffydd yn Nuw. Dywedodd yr apostol Paul wrth un o gynulleidfaoedd ei gyfnod ef: “Y mae hiraeth arnaf am eich gweld, er mwyn . . . [i mi] gael fy nghalonogi ynghyd â chwi trwy’r ffydd sy’n gyffredin i’r naill a’r llall ohonom.” (Rhufeiniaid 1:11, 12) Wrth gyfarfod yn rheolaidd â’n cyd-addolwyr, bydd ein ffydd yn cryfhau ac fe fyddwn ni’n fwy penderfynol o fyw bywyd Cristnogol.
Beth am ichi dderbyn y gwahoddiad hwn i fynychu’r cyfarfod nesaf a gweld y pethau hyn â’ch llygaid eich hun? Mae’r cyfarfodydd yn rhad ac am ddim—does dim casgliad, a bydd croeso cynnes ichi.
Pa batrwm rydyn ni’n ei ddilyn yn ein cyfarfodydd?
Pa les sy’n dod o fynychu cyfarfodydd Cristnogol?
-
-
Sut Mae Cymdeithasu â Christnogion Eraill yn Ein Helpu?Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofa Heddiw?
-
-
GWERS 6
Sut Mae Cymdeithasu â Christnogion Eraill yn Ein Helpu?
Madagascar
Norwy
Libanus
Yr Eidal
Mewn rhai gwledydd, mae Tystion Jehofa yn gorfod teithio drwy’r jyngl neu drwy dywydd garw er mwyn mynychu’r cyfarfodydd Cristnogol. Pam mae Tystion Jehofa yn ymdrechu gymaint i gymdeithasu â’u cyd-addolwyr a hynny er gwaethaf blinder a phroblemau bywyd?
Mae’n gwneud lles inni. Roedd Paul yn siarad am aelodau’r gynulleidfa pan ddywedodd y dylen ni “ystyried sut y gallwn ennyn yn ein gilydd gariad a gweithredoedd da.” (Hebreaid 10:24) Mae hyn yn gofyn inni feddwl am ein gilydd a dod i adnabod ein gilydd yn dda. Gall dod i adnabod teuluoedd Cristnogol eraill ein helpu ni i wynebu ein problemau, oherwydd bod rhai o’r teuluoedd hynny wedi llwyddo i oresgyn problemau tebyg yn y gorffennol.
Mae’n meithrin cyfeillgarwch. Ffrindiau go iawn yw ein cyd-addolwyr nid ffrindiau arwynebol. Rydyn ni’n treulio amser gyda’n gilydd yn y cyfarfodydd ac wrth fwynhau adloniant iach. Sut mae cymdeithasu fel hyn yn ein helpu? Rydyn ni’n dysgu gwerthfawrogi ein gilydd, ac mae hyn yn cryfhau ein cyfeillgarwch. Oherwydd bod perthynas gref rhyngddon ni a’n brodyr, byddwn ni’n barod i’w helpu pan fyddan nhw’n wynebu problemau. (Diarhebion 17:17) Drwy gymdeithasu â phawb yn y gynulleidfa, rydyn ni’n dangos ‘yr un gofal dros ein gilydd.’—1 Corinthiaid 12:25, 26.
Rydyn ni yn eich annog i ddewis ffrindiau sy’n gwneud ewyllys Duw. Fe gewch chi ffrindiau da fel hyn ymhlith Tystion Jehofa. Peidiwch â dal yn ôl rhag cymdeithasu â ni.
Pam mae cymdeithasu â’n gilydd yn y cyfarfodydd yn gwneud lles inni?
Pryd y byddech chi’n hoffi dod i gwrdd â phawb yn y gynulleidfa?
-
-
Beth Sy’n Digwydd yn Ein Cyfarfodydd?Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofa Heddiw?
-
-
GWERS 7
Beth Sy’n Digwydd yn Ein Cyfarfodydd?
Seland Newydd
Japan
Iwganda
Lithwania
Yn y ganrif gyntaf, roedd y Cristnogion cynnar yn dod at ei gilydd i ddarllen a thrafod yr Ysgrythurau, i weddïo a chanu. Doedd dim defodau’n perthyn i’w haddoli. (1 Corinthiaid 14:26) Dyna sy’n digwydd hefyd yn ein cyfarfodydd ni.
Mae’r arweiniad yn seiliedig ar y Beibl ac yn ymarferol. Ar y penwythnos, mae pob cynulleidfa yn cyfarfod i wrando ar anerchiad Beiblaidd 30 munud o hyd sy’n trafod sut mae’r Beibl yn berthnasol i’n bywydau ac i’n dyddiau ni. Mae pawb yn cael eu hannog i ddilyn y drafodaeth drwy ddefnyddio eu Beiblau eu hunain. Ar ôl yr anerchiad, mae Astudiaeth o’r “Watchtower” yn para am awr. Yn yr astudiaeth hon, mae aelodau’r gynulleidfa yn trafod erthygl yn y rhifyn astudio o’r Watchtower. Mae’r drafodaeth hon yn ein helpu i roi arweiniad y Beibl ar waith yn ein bywydau. Mae’r un wybodaeth yn cael ei thrafod ym mhob un o’r mwy na 110,000 o gynulleidfaoedd ar draws y byd.
Rydyn ni’n cael ein helpu i ddatblygu fel athrawon. Rydyn ni hefyd yn cyfarfod ar un noson ganol wythnos. Mae tair rhan i’r cyfarfod hwn, a elwir Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol, sy’n seiliedig ar ddeunydd Gweithlyfr y Cyfarfod misol. Mae’r rhan gyntaf, Trysorau o Air Duw, yn ein helpu ni i ddod yn gyfarwydd â rhan benodol o’r Beibl y mae’r gynulleidfa wedi’i darllen wrth baratoi. Nesaf, mae Rhoi Ein Sylw i’r Weinidogaeth, sy’n cynnwys dangosiadau i’n dysgu ni sut i drafod y Beibl gydag eraill. Mae cynghorwr yn cynnig sylwadau sy’n ein helpu i wella ein sgiliau darllen a siarad. (1 Timotheus 4:13) Mae’r rhan olaf, Ein Bywyd Cristnogol, yn rhoi ar waith egwyddorion y Beibl yn ein bywyd bob dydd. Mae hon yn cynnwys cwestiynau ac atebion i ddyfnhau ein dealltwriaeth o’r Beibl.
Rydyn ni’n hyderus y bydd safon yr addysg Feiblaidd sydd ar gael yn ein cyfarfodydd yn gwneud argraff ffafriol arnoch chi.—Eseia 54:13.
Beth sy’n digwydd yng nghyfarfodydd Tystion Jehofa?
Pa un o’n cyfarfodydd wythnosol hoffech chi ei fynychu nesaf?
-