LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • Pam Rydyn Ni’n Mynd i Gynulliadau Mawr?
    Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofa Heddiw?
    • GWERS 11

      Pam Rydyn Ni’n Mynd i Gynulliadau Mawr?

      Cynulliad ranbarthol Tystion Jehofa ym Mecsico

      Mecsico

      Cyhoeddi bod llyfr newydd ar gael yng nghynhadledd yn yr Almaen

      Yr Almaen

      Cynulliad ranbarthol Tystion Jehofa ym Motswana

      Botswana

      Dyn ifanc yn cael ei bedyddio yn Nicaragwa

      Nicaragwa

      Drama liwgar yn ystod cynhadledd ranbarthol yn yr Eidal

      Yr Eidal

      Pam mae’r bobl yn y llun yn edrych yn hapus? Oherwydd eu bod nhw’n mynychu un o’n cynulliadau. Fel gweision Duw yn y gorffennol a gafodd eu cyfarwyddo i ddod at ei gilydd dair gwaith y flwyddyn, rydyn ninnau hefyd yn edrych ymlaen at ein cynulliadau mawr. (Deuteronomium 16:16) Bob blwyddyn rydyn ni’n cynnal tri digwyddiad: dau gynulliad cylchdaith undydd ac un gynhadledd ranbarthol sy’n para am dridiau. Sut mae mynd i’r cynulliadau hyn yn ein helpu ni?

      Maen nhw’n cryfhau’r frawdoliaeth Gristnogol. Roedd yr Israeliaid yn mwynhau moli Jehofa yn un gynulleidfa fawr ac rydyn ninnau hefyd yn mwynhau addoli gyda’n gilydd ar achlysuron arbennig. (Salm 26:12; 111:1) Yn y cynulliadau hyn, rydyn ni’n cael y cyfle i gwrdd â Thystion o gynulleidfaoedd eraill, neu hyd yn oed o wledydd eraill. Rydyn ni hefyd yn gallu bwyta gyda’n gilydd amser cinio ac mae hynny’n ychwanegu at awyrgylch cyfeillgar yr achlysuron ysbrydol hyn. (Actau 2:42) Yn y cynulliadau, rydyn ni’n medru gweld â’n llygaid ein hunain y cariad sy’n uno ‘teulu’r ffydd’ trwy’r byd i gyd.—1 Pedr 2:17.

      Maen nhw yn ein helpu i dyfu’n ysbrydol. Roedd “deall yr hyn” a gafodd ei egluro i’r Israeliaid yn gwneud lles iddyn nhw. (Nehemeia 8:8, 12) Rydyn ninnau hefyd yn gwerthfawrogi cael ein hyfforddi o’r Beibl yn ein cynulliadau. Mae gan bob un ei thema Ysgrythurol. Trwy wrando ar anerchiadau diddorol a gwylio cyflwyniadau sydd yn ail-greu gwahanol sefyllfaoedd, rydyn ni’n dysgu gwneud ewyllys Duw yn ein bywydau. Calonogol iawn yw gwrando ar brofiadau rhai sy’n llwyddo i fyw bywyd Cristnogol a hynny er gwaethaf anawsterau y dyddiau anodd hyn. Yn y cynadleddau rhanbarthol, rydyn ni’n dysgu gwersi ymarferol drwy wylio dramâu sy’n dod â hanes y Beibl yn fyw inni. Ym mhob cynulliad, mae cyfle i’r rhai sydd wedi eu hymgysegru i Dduw gael eu bedyddio.

      • Pam mae’r cynulliadau yn achlysuron llawen?

      • Sut rydyn ni’n elwa ar fynychu cynulliadau?

      I DDYSGU MWY

      Os hoffech chi ddod i adnabod ein brawdoliaeth yn well, mae croeso i chi ddod i’r cynulliad nesaf. Gofynnwch i’r un sy’n dysgu’r Beibl ichi am gopi o’r rhaglen, fel y medrwch weld pa fath o bynciau sy’n cael eu trafod. Nodwch ddyddiad a lleoliad y cynulliad nesaf ar eich calendr a dewch os medrwch chi.

  • Sut Mae Ein Gwaith Pregethu yn Cael ei Drefnu?
    Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofa Heddiw?
    • GWERS 12

      Sut Mae Ein Gwaith Pregethu yn Cael ei Drefnu?

      Tystion Jehofa yn pregethu o dŷ i dŷ

      Sbaen

      Un o Dystion Jehofa yn pregethu yn y parc

      Belarws

      Un o Tystion Jehofa yn pregethu gan ddefnyddio ffôn

      Hong Cong

      Tystion Jehofa yn y weinidogaeth cyhoeddus

      Periw

      Ychydig cyn iddo farw, dywedodd Iesu: “Ac fe gyhoeddir yr Efengyl hon am y deyrnas drwy’r byd i gyd fel tystiolaeth i’r holl genhedloedd, ac yna y daw’r diwedd.” (Mathew 24:14) Ond sut byddai’r gwaith pregethu yn cael ei gyflawni drwy’r byd? Trwy ddilyn yr esiampl a osododd Iesu pan oedd ar y ddaear.—Luc 8:1.

      Rydyn ni’n ceisio siarad â phobl yn eu cartrefi. Hyfforddodd Iesu ei ddisgyblion i bregethu o dŷ i dŷ. (Mathew 10:11-13; Actau 5:42; 20:20, BC) Yn y ganrif gyntaf, cafodd efengylwyr eu hanfon i ardaloedd penodol i bregethu. (Mathew 10:5, 6; 2 Corinthiaid 10:13) Heddiw, rydyn ninnau hefyd yn pregethu mewn modd trefnus, ac mae gan bob cynulleidfa ei thiriogaeth benodol ei hun. Mae gwneud hyn, yn caniatáu inni fod yn drwyadl wrth “bregethu i’r bobl” yn unol â gorchymyn Iesu.—Actau 10:42.

      Rydyn ni’n ceisio dod o hyd i bobl le bynnag y maen nhw. Gosododd Iesu’r esiampl drwy bregethu ar lan y môr, wrth ymyl y ffynnon leol, ac mewn mannau cyhoeddus eraill. (Marc 4:1; Ioan 4:5-15) Rydyn ni hefyd yn siarad â phobl am y Beibl ym mhob man—ar y strydoedd, mewn busnesau, mewn parciau, neu dros y ffôn. Rydyn ni hefyd yn siarad â’n cymdogion, ein cyd-weithwyr, ein cyd-ddisgyblion, a’n perthnasau, pan fydd cyfle’n codi. Oherwydd yr ymdrechion hyn, mae miliynau wedi clywed y newyddion da bod iachawdwriaeth ar gael.—Salm 96:2.

      Ydych chi’n adnabod rhywun a fyddai’n hoffi clywed y newyddion da am Deyrnas Dduw? Meddyliwch am yr effaith y bydd hynny yn ei chael ar eu dyfodol nhw. Peidiwch â dal yn ôl rhag rhannu’r neges hyfryd hon ag eraill!

      • Pa neges am y Deyrnas sydd angen ei chyhoeddi?

      • Sut mae Tystion Jehofa yn efelychu dulliau Iesu o bregethu?

      I DDYSGU MWY

      Gofynnwch i’r sawl sy’n astudio’r Beibl gyda chi sut gallwch chi rannu’r hyn rydych chi wedi ei ddysgu o’r Beibl â rhywun arall?

  • Beth Yw Arloeswr?
    Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofa Heddiw?
    • GWERS 13

      Beth Yw Arloeswr?

      Pregethwyr llawn amser wrth eu gwaith

      Canada

      Pregethwyr llawn amser wrth eu gwaith

      O dŷ i dŷ

      Pregethwyr llawn amser yn astudio Beibl gyda rhywun

      Astudiaeth Feiblaidd

      Arloeswr yn astudio’r Beibl

      Astudiaeth bersonol

      Yn aml, mae’r gair “arloeswr” yn cyfeirio at rywun sy’n mentro i ardaloedd newydd, ac sy’n paratoi’r ffordd i’r rhai sy’n dod ar ei ôl. Ar un olwg, roedd Iesu’n arloeswr oherwydd ei fod wedi dod i’r ddaear er mwyn cyflawni gweinidogaeth a fyddai’n agor y ffordd i eraill gael iachawdwriaeth. (Mathew 20:28) Heddiw, mae ei ddilynwyr yn dilyn ei esiampl drwy dreulio cymaint o amser ag sy’n bosibl yn ‘gwneud disgyblion.’ (Mathew 28:19, 20) Ymhlith Tystion Jehofa, mae rhai’n gallu gwasanaethu fel arloeswyr.

      Mae arloeswr yn pregethu’n llawn amser. Mae Tystion Jehofa i gyd yn cyhoeddi’r newyddion da. Ond mae rhai wedi trefnu eu hamser, fel arfer drwy wneud llai o waith cyflogedig, er mwyn bod yn rhydd i bregethu am 70 awr y mis fel arloeswyr parhaol. Mae eraill yn cael eu dewis i fod yn arloeswyr arbennig mewn ardaloedd lle mae angen mawr am gyhoeddwyr y Deyrnas. Maen nhw’n treulio 130 o oriau neu fwy yn y weinidogaeth bob mis. Mae arloeswyr yn fodlon byw bywyd syml oherwydd eu bod yn hyderus y bydd Jehofa yn gofalu amdanyn nhw. (Mathew 6:31-33; 1 Timotheus 6:6-8) Nid pawb sy’n gallu arloesi’n llawn amser, ond mae rhai’n medru bod yn arloeswyr cynorthwyol drwy dreulio 30 neu 50 awr y mis yn y gwaith pregethu.

      Cariad at Dduw a chariad at bobl eraill sy’n ysgogi arloeswyr. Fel Iesu, rydyn ni’n sylweddoli bod gwir angen i bobl glywed am Dduw a’i fwriadau. (Marc 6:34) Ond mae gennyn ni wybodaeth a all helpu pobl heddiw yn ogystal â rhoi gobaith pendant iddyn nhw ar gyfer y dyfodol. Oherwydd cariad tuag at eu cymdogion, mae arloeswyr yn rhoi’n hael o’u hamser a’u hegni er mwyn helpu eraill yn ysbrydol. (Mathew 22:39; 1 Thesaloniaid 2:8) O wneud hyn, mae ffydd yr arloeswyr yn cael ei chryfhau ac maen nhw’n teimlo’n hapusach ac yn agosach at Dduw.—Actau 20:35.

      • Beth yw gwaith arloeswr?

      • Beth sy’n ysgogi rhai i arloesi’n llawn-amser?

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu