-
Sut Mae’r Corff Llywodraethol yn Gweithio Heddiw?Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofa Heddiw?
-
-
GWERS 20
Sut Mae’r Corff Llywodraethol yn Gweithio Heddiw?
Corff llywodraethol y ganrif gyntaf
Darllen llythyr oddi wrth y corff llywodraethol
Yn y ganrif gyntaf, roedd “yr apostolion a’r henuriaid yn Jerwsalem” yn gwasanaethu fel corff llywodraethol a oedd yn gwneud penderfyniadau pwysig dros yr holl gynulleidfaoedd o Gristnogion eneiniog. (Actau 15:2) Roedden nhw’n trafod yr Ysgrythurau ac yn ildio i arweiniad ysbryd Duw cyn dod i benderfyniad unfrydol. (Actau 15:25) Dilynir yr un patrwm heddiw.
Mae’n cael ei ddefnyddio gan Dduw i wneud ei ewyllys. Mae gan y brodyr eneiniog sydd ar y Corff Llywodraethol ddiddordeb dwfn yng Ngair Duw, ac mae ganddyn nhw brofiad o ddelio gyda materion ysbrydol ac ymarferol. Maen nhw’n cyfarfod bob wythnos i drafod anghenion y frawdoliaeth fyd-eang. Fel roedd yn digwydd yn y ganrif gyntaf, anfonir cyfarwyddiadau sy’n seiliedig ar y Beibl at y cynulleidfaoedd drwy lythyr neu drwy’r arolygwyr teithiol ac eraill. Mae hynny’n helpu pobl Dduw i feddwl ac ymddwyn yn gytûn. (Actau 16:4, 5) Mae’r Corff Llywodraethol yn goruchwylio’r gwaith o baratoi bwyd ysbrydol, yn hyrwyddo’r gwaith pregethu, ac yn arolygu’r gwaith o benodi brodyr i gymryd cyfrifoldebau.
Mae’n ildio i arweiniad ysbryd Duw. Mae’r Corff Llywodraethol yn troi at Jehofa, Penarglwydd y Bydysawd, ac at Iesu, Pen y gynulleidfa, am arweiniad. (1 Corinthiaid 11:3; Effesiaid 5:23) Nid yw’r aelodau yn eu gweld eu hunain fel arweinwyr pobl Dduw. Ynghyd â phob Cristion eneiniog, maen nhw’n “dilyn yr Oen [Iesu] i ble bynnag yr â.” (Datguddiad 14:4) Mae’r Corff Llywodraethol yn ddiolchgar am ein gweddïau drostyn nhw a thros eu gwaith.
Pwy oedd aelodau’r corff llywodraethol yn y ganrif gyntaf?
Sut mae’r Corff Llywodraethol heddiw yn edrych at Dduw am arweiniad?
-
-
Beth Yw Bethel?Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofa Heddiw?
-
-
GWERS 21
Beth Yw Bethel?
Adran Celf, U.D.A.
Yr Almaen
Cenya
Colombia
Mae’r enw Bethel, sy’n dod o’r Hebraeg, yn golygu ‘Tŷ Dduw.’ (Genesis 28:17, 19) Mae hwnnw’n enw addas ar gyfer adeiladau y mae Tystion Jehofa yn eu defnyddio o gwmpas y byd er mwyn cefnogi a threfnu’r gwaith pregethu. Mae’r Corff Llywodraethol yn gweithio o’r pencadlys byd-eang yn Nhalaith Efrog Newydd, U.D.A., ac o’r lle hwnnw y mae’n goruchwylio gwaith y swyddfeydd cangen mewn llawer o wledydd eraill. Fel grŵp, mae’r rhai sy’n gweithio yn y llefydd hynny yn cael eu hadnabod fel y teulu Bethel. Fel teulu, maen nhw’n byw ac yn gweithio gyda’i gilydd, yn bwyta gyda’i gilydd, ac yn astudio’r Beibl gyda’i gilydd.—Salm 133:1.
Mae’n lle unigryw ac mae’r aelodau yn rhoi o’u gwirfodd. Ym mhob Bethel, mae brodyr a chwiorydd Cristnogol sydd wedi dewis gwneud ewyllys Duw yn gwasanaethu’r Deyrnas yn llawn amser. (Mathew 6:33) Does dim un ohonyn nhw’n derbyn cyflog, ond mae pob un yn cael llety a lluniaeth ynghyd â lwfans i’w helpu gyda’i dreuliau personol. Mae gan bawb yn y Bethel aseiniad. Mae rhai’n gweithio mewn swyddfeydd, yn y gegin, neu yn yr ystafell fwyta. Mae eraill yn gwneud gwaith argraffu, rhwymo llyfrau, cadw tŷ, golchi dillad, cynnal a chadw, neu bethau eraill.
Mae’n lle prysur sy’n cefnogi’r gwaith o bregethu’r Deyrnas. Prif amcan pob Bethel yw sicrhau bod cynifer o bobl ag sy’n bosibl yn clywed neges y Beibl. Er enghraifft, cymerwch y llyfryn hwn. Cafodd ei ysgrifennu o dan arweiniad y Corff Llywodraethol, ei anfon yn electroneg i gannoedd o dimau cyfieithu o gwmpas y byd, ei argraffu ar weisg cyflym mewn argraffdai Bethel, a’i gludo i fwy na 110,000 o gynulleidfaoedd. Pob cam o’r ffordd, mae teuluoedd Bethel yn rhoi cefnogaeth hanfodol i’r gwaith pwysicaf oll—pregethu’r newyddion da.—Marc 13:10.
Pwy sy’n gwasanaethu ym Methel, a pha ddarpariaethau sydd yno ar eu cyfer?
Pa waith pwysig sy’n cael ei gefnogi gan weithgareddau ym Methel?
-
-
Beth Sy’n Digwydd Mewn Swyddfa Gangen?Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofa Heddiw?
-
-
GWERS 22
Beth Sy’n Digwydd Mewn Swyddfa Gangen?
Ynysoedd Solomon
Canada
De Affrica
Mae aelodau teulu Bethel yn gweithio mewn gwahanol adrannau er mwyn gofalu am y gwaith pregethu mewn un neu fwy o wledydd. Maen nhw’n gwneud gwaith cyfieithu, yn argraffu cylchgronau, yn rhwymo llyfrau, yn storio cyhoeddiadau, yn creu cynyrchiadau sain, yn gwneud DVDs, ac yn gofalu am faterion eraill yn y rhanbarth.
Mae Pwyllgor Cangen yn goruchwylio’r gwaith. Mae’r Corff Llywodraethol yn rhoi’r cyfrifoldeb o redeg pob swyddfa gangen i Bwyllgor Cangen sy’n cynnwys o leiaf dri henuriad cymwys. Mae’r pwyllgor yn rhoi gwybod i’r Corff Llywodraethol am gynnydd y gwaith yn y gwledydd sydd o dan ei ofal, a hefyd am unrhyw broblemau sy’n codi. Mae adroddiadau o’r fath yn helpu’r Corff Llywodraethol i benderfynu pa bynciau y dylen nhw eu trafod yn y cyhoeddiadau, yn y cyfarfodydd, ac yn y cynulliadau. Mae’r Corff Llywodraethol yn anfon cynrychiolwyr i ymweld â’r canghennau’n rheolaidd, ac i roi arweiniad i Bwyllgorau’r Canghennau. (Diarhebion 11:14) Trefnir rhaglen arbennig sy’n cynnwys anerchiad gan gynrychiolydd y pencadlys, er mwyn calonogi’r rhai sydd dan ofal y gangen honno.
Mae’r Gangen yn cefnogi’r cynulleidfaoedd o dan ei gofal. Mae brodyr cyfrifol yn y swyddfa gangen yn rhoi caniatâd i ffurfio cynulleidfaoedd newydd. Maen nhw hefyd yn cyfarwyddo gwaith yr arloeswyr, y cenhadon, a’r arolygwyr cylchdaith sy’n gwasanaethu yn nhiriogaeth y gangen. Maen nhw’n trefnu cynulliadau a chynadleddau, yn cydlynu’r gwaith o adeiladu Neuaddau’r Deyrnas, ac yn sicrhau bod y cyhoeddiadau’n cyrraedd y cynulleidfaoedd. Mae’r holl waith sy’n cael ei wneud yn y gangen yn cyfrannu at y gwaith pregethu.—1 Corinthiaid 14:33, 40.
Sut mae Pwyllgorau Cangen yn cynorthwyo’r Corff Llywodraethol?
Am ba gyfrifoldebau mae’r swyddfa gangen yn gofalu?
-