Cân 123
Bugeiliaid—Rhoddion i Ddynion
1. Caru ei braidd yn fawr mae ein Duw,
Inni bugeiliaid roes.
Dilyn a wnawn eu buchedd a’u byw,
Ganddynt fe ddysgwn foes.
(CYTGAN)
Gwarchod y praidd wna’n bugeiliaid mwyn,
Gwŷr ymroddedig a thriw.
Ganddynt pob gofal a sylw gawn.
Rhoddion i ddynion roes Duw.
2. Gofal diflino beunydd a rônt,
Rhwymo’r dolurus wnânt.
Atom â mwyn anogaeth y dônt;
Dysg gaiff ein hannwyl blant.
(CYTGAN)
Gwarchod y praidd wna’n bugeiliaid mwyn,
Gwŷr ymroddedig a thriw.
Ganddynt pob gofal a sylw gawn.
Rhoddion i ddynion roes Duw.
3. Crwydro na cheisiwn, cadw a wnawn
O fewn terfynau’r gwir.
Lloches a phob ymgeledd a gawn
Gan dduwiolfrydig wŷr.
(CYTGAN)
Gwarchod y praidd wna’n bugeiliaid mwyn,
Gwŷr ymroddedig a thriw.
Ganddynt pob gofal a sylw gawn.
Rhoddion i ddynion roes Duw.
(Gweler hefyd Esei. 32:1, 2; Jer. 3:15; Ioan 21:15-17; Act. 20:28.)