Dilynwch Esiamplau’r Proffwydi—Nahum
1. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o lyfr Nahum?
1 Mae proffwydoliaeth Nahum ac adfeilion Ninefe yn dystiolaeth bod Jehofa yn dial ar ei wrthwynebwyr ac yn dangos nad oes neb yn gallu sefyll yn Ei erbyn. (Nah. 1:2, 6) Gall edrych yn fwy manwl ar broffwydoliaeth Nahum ein helpu yn y weinidogaeth.
2. Sut gallwn ni gadw ein neges yn bositif?
2 Rhoi Cysur a Gobaith: Ar yr olwg gyntaf, mae llyfr Nahum yn llawn datganiadau o wae a gofid yn erbyn trigolion ymffrostgar Ninefe, sef prifddinas Asyria. (Nah. 1:1; 3:7) Serch hynny, roedd pobl Jehofa yn croesawu’r datganiad. Ystyr enw Nahum yw “Cysurwr,” ac fe gysurodd yr Iddewon drwy ddweud y bydd eu gelynion yn cael eu dileu! Cadarnhaodd y neges fod Jehofa “yn amddiffynfa yn nydd argyfwng.” (Nah. 1:7) Wrth bregethu, gallwn ninnau hefyd gysuro pobl drwy rannu’r newyddion da gyda nhw a’u hannog i lochesu yn ngofal Jehofa.—Nah. 1:15.
3. Sut gallwn ni ddefnyddio enghreifftiau ac eglurebau fel y gwnaeth Nahum?
3 Defnyddiwch Enghreifftiau ac Eglurebau: Ysbrydolodd Jehofa y proffwyd Nahum i gymharu diwedd Ninefe â diwedd Thebes (No-amon), dinas yn yr Aifft a gafodd ei dinistrio gan yr Asyriaid yn gynharach. (Nah. 3:8-10) Wrth inni siarad ag unigolion am ddiwedd y drefn ddrwg hon, gallwn ni ddefnyddio proffwydoliaethau’r Beibl i ddangos bod Jehofa yn cyflawni ei air i’r manylyn lleiaf. Er enghraifft, pan ddaeth y Babiloniaid a’r Mediaid yn erbyn Ninefe yn 632 COG, roedd glaw trwm wedi achosi i’r afon Tigris orlifo, ac yna chwalodd yr afon ran o waliau enfawr y ddinas. Yn gyflym iawn cwympodd y ddinas yn union fel y dywedodd Jehofa.—Nah. 1:8; 2:6.
4. Wrth bregethu, sut gallwn ni fod yn glir ac yn ddealladwy?
4 Bod yn Glir ac yn Ddealladwy: Wrth ysgrifennu, roedd arddull Nahum yn ddramatig ac yn ddisgrifiadol. Roedd ei neges yn glir. (Nah. 1:14; 3:1) Yn yr un modd, rydyn ninnau hefyd eisiau defnyddio iaith sy’n hawdd ei deall. (1 Cor. 14:9) Ar yr alwad gyntaf, esboniwch yn glir ein rheswm dros alw. Wrth astudio’r Beibl gyda phobl, helpwch nhw i feithrin ffydd yn Jehofa a’i Air, a helpwch nhw hefyd i weld sut mae’r wybodaeth yn berthnasol iddyn nhw.—Rhu. 10:14.
5. Pa hyder a gawn o ddarllen llyfr Nahum?
5 Yr hyn sy’n amlwg o ddarllen y llyfr sy’n dwyn ei enw yw bod Nahum wedi ymddiried yn llwyr ym mhroffwydoliaethau Jehofa. Wrth i ddiwedd trefn Satan agosáu, cawn gysur o’r neges ddwyfol hon: “Na ddaw blinder ddwywaith.”—Nah. 1:9.