LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • bm rhan 23 t. 26
  • Mae’r Newyddion Da yn Lledaenu

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Mae’r Newyddion Da yn Lledaenu
  • Y Beibl—Beth Yw Ei Neges?
  • Erthyglau Tebyg
  • Bydda’n Ddewr—Mae Jehofa yn Dy Helpu
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2020
  • Amddiffyn y Newyddion Da Gerbron Uwch-Swyddogion
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2016
  • “Gwrandewch ar Fy Amddiffyniad”
    ‘Tystiolaethu’n Drylwyr am Deyrnas Dduw’
  • “Rydw i’n Apelio at Gesar!”
    ‘Tystiolaethu’n Drylwyr am Deyrnas Dduw’
Gweld Mwy
Y Beibl—Beth Yw Ei Neges?
bm rhan 23 t. 26
Paul yn rhoi araith yn Athen

RHAN 23

Mae’r Newyddion Da yn Lledaenu

Paul yn teithio dros dir a môr i bregethu

AR ÔL ei dröedigaeth, aeth Paul ati’n frwd i gyhoeddi’r newyddion da am Deyrnas Dduw. Nawr, roedd Paul ei hun yn profi gwrthwynebiad chwyrn. Teithiodd Paul yn ddiflino dros ardal eang i gyhoeddi’r newyddion da am y Deyrnas a fydd yn cyflawni bwriad Duw ar gyfer dynolryw.

Yn Lystra, ar ei daith gyntaf, iachaodd Paul ddyn oedd yn gloff o’i enedigaeth. Dechreuodd y dyrfa floeddio fod Paul a’i gyfaill Barnabas yn dduwiau. Prin y gallai’r ddau rwystro’r bobl rhag offrymu aberth iddyn nhw. Eto, yn nes ymlaen, o dan ddylanwad gelynion Paul, fe wnaeth yr un dyrfa luchio cerrig at Paul a’i adael yn hanner marw. Ond, goroesodd Paul ac ymhen amser aeth yn ôl i Lystra i galonogi’r disgyblion.

Roedd rhai Cristnogion Iddewig yn dadlau bod rhaid i bob Cristion gadw rhannau o Gyfraith Moses, hyd yn oed y rhai nad oedden nhw o dras Iddewig. Aeth Paul i Jerwsalem i ofyn am farn yr apostolion a’r henuriaid. Ar ôl edrych yn fanwl ar yr Ysgrythurau a cheisio arweiniad ysbryd glân Duw, fe ysgrifennon nhw at y cynulleidfaoedd a gorchymyn iddyn nhw ymgadw rhag addoli eilunod, rhag bwyta gwaed a chig heb ei waedu, a rhag anfoesoldeb rhywiol. Roedd cadw’r gorchmynion hyn yn “angenrheidiol,” ond doedd hyn ddim yn golygu bod angen cadw Cyfraith Moses.—Actau 15:28, 29.

Ar ei ail daith, ymwelodd Paul â Berea, dinas sydd bellach yng ngwlad Groeg. Fe wnaeth yr Iddewon yno dderbyn y gair yn eiddgar, gan chwilio’r Ysgrythurau bob dydd i sicrhau bod dysgeidiaeth Paul yn gywir. Unwaith eto, oherwydd gwrthwynebiad, roedd rhaid i Paul adael ac aeth yn ei flaen i Athen. Yno, o flaen grŵp o ddeallusion, rhoddodd Paul araith rymus a huawdl sy’n batrwm o ddefnyddio tact a deall.

Ar ôl ei drydedd daith, aeth Paul i Jerwsalem. Pan aeth i’r deml, cododd derfysg ymhlith yr Iddewon a oedd eisiau ei ladd. Cafodd Paul ei achub a’i holi gan filwyr Rhufeinig. Gan ei fod yn ddinesydd Rhufeinig fe blediodd ei achos gerbron y Llywodraethwr Rhufeinig Ffelix. Nid oedd gan yr Iddewon unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r cyhuddiadau yn erbyn Paul. Er mwyn peidio â chael ei drosglwyddo i’r Iddewon, fe ddywedodd Paul wrth lywodraethwr Rhufeinig arall, Ffestus: “Yr wyf yn apelio at Gesar.” Atebodd Ffestus: “At Gesar y cei fynd.”—Actau 25:11, 12.

Milwyr Rhufeinig yn helpu Paul i ddianc rhag torf o bobl ddig

Cymerwyd Paul i’r Eidal mewn cwch i sefyll ei brawf. Oherwydd llongddrylliad ar y daith, roedd rhaid iddyn nhw aros dros y gaeaf ar ynys Melita. Pan gyrhaeddodd Rufain, fe rentiodd dŷ am ddwy flynedd. Er bod milwr yn ei warchod, daliodd ati i bregethu’n selog am Deyrnas Dduw i bawb a fyddai’n galw heibio i’w weld.

​—Yn seiliedig ar Actau 11:22–28:31.

  • Beth ddigwyddodd ar ôl i Paul iacháu dyn cloff yn Lystra?

  • Sut cafodd y cwestiwn am gadw Cyfraith Moses ei ateb?

  • Beth oedd hanes Paul cyn cyrraedd Rhufain, a beth a wnaeth yno?

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu