LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • A Ddylai Cristnogion Ddefnyddio’r Groes Wrth Addoli?
    Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?
    • Am resymau da, felly, nid yw gwir Gristnogion yn defnyddio’r groes wrth addoli.a

  • Swper yr Arglwydd—Dathliad Sy’n Anrhydeddu Duw
    Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?
    • ATODIAD

      Swper yr Arglwydd—⁠Dathliad Sy’n Anrhydeddu Duw

      MAE Cristnogion dan orchymyn i gadw Coffadwriaeth marwolaeth Crist. Enw arall ar y dathliad hwn yw “Swper yr Arglwydd.” (1 Corinthiaid 11:20) Pam mae hyn mor bwysig? Pryd dylen ni gadw’r Goffadwriaeth ac ym mha ffordd?

      Sefydlodd Iesu’r dathliad hwn ar noson y Pasg Iddewig, 33 OG. Roedd gŵyl y Pasg yn cael ei dathlu unwaith y flwyddyn ar y pedwerydd ar ddeg o’r mis Iddewig Nisan. Er mwyn gwybod pryd yn union oedd y dyddiad hwnnw, roedd yr Iddewon yn disgwyl am gyhydnos y gwanwyn. Ar y diwrnod hwnnw mae tua 12 awr o olau dydd a 12 awr o dywyllwch. Roedd y lleuad newydd gyntaf i’w gweld agosaf at gyhydnos y gwanwyn ar ddiwrnod cyntaf mis Nisan. Roedd y Pasg yn digwydd 13 diwrnod yn ddiweddarach.

      Dathlodd Iesu’r Pasg gyda’i apostolion, ac ar ôl anfon Jwdas ymaith, sefydlodd Swper yr Arglwydd. Cymryd lle’r Pasg Iddewig a wnaeth y swper hwn, ac, felly, dylen ni ei ddathlu dim ond unwaith y flwyddyn.

      Yn ôl Efengyl Mathew: “Cymerodd Iesu fara, ac wedi bendithio fe’i torrodd a’i roi i’r disgyblion, a dywedodd, ‘Cymerwch, bwytewch; hwn yw fy nghorff.’ A chymerodd gwpan, ac wedi diolch fe’i rhoddodd iddynt gan ddweud, ‘Yfwch ohono, bawb, oherwydd hwn yw fy ngwaed i, gwaed y cyfamod, a dywelltir dros lawer er maddeuant pechodau.’”—⁠Mathew 26:26-28.

      Mae rhai yn credu bod Iesu wedi troi’r bara a’r gwin yn ei gnawd a’i waed llythrennol ei hun. Ond, roedd cnawd Iesu yn dal yn gyfan pan gynigiodd y bara hwn. Ai bwyta corff llythrennol Iesu ac yfed ei waed oedd yr apostolion? Nage; byddai hynny yn ganibaliaeth, rhywbeth oedd wedi ei wahardd gan gyfraith Duw. (Genesis 9:3, 4; Lefiticus 17:10) Yn ôl Luc 22:20, dywedodd Iesu: “Y cwpan hwn yw’r cyfamod newydd yn fy ngwaed i, sy’n cael ei dywallt er eich mwyn chwi.” A wnaeth y cwpan hwnnw droi’n ‘gyfamod newydd’? Byddai hynny yn amhosibl, gan mai cytundeb yw cyfamod yn hytrach na rhywbeth y gallwch chi gyffwrdd ag ef.

      Felly, symbolau yn unig yw’r bara a’r gwin. Mae’r bara yn symboleiddio corff perffaith Crist. Defnyddiodd Iesu dorth o fara oedd yn weddill ar ôl swper y Pasg. Torth oedd honno wedi ei gwneud heb unrhyw lefain na burum. (Exodus 12:8) Yn aml, mae’r Beibl yn defnyddio lefain fel symbol o bechod neu lygredd. Felly mae’r bara yn cynrychioli’r corff perffaith a aberthodd Iesu. Roedd yn ddibechod.—⁠Mathew 16:11, 12; 1 Corinthiaid 5:6, 7; 1 Pedr 2:22; 1 Ioan 2:1, 2.

      Mae’r gwin coch yn cynrychioli gwaed Iesu. Mae’r gwaed hwnnw yn gwneud y cyfamod newydd yn ddilys. Dywedodd Iesu i’w waed gael ei dywallt “er maddeuant pechodau.” Oherwydd hyn gall bodau dynol fod yn lân yng ngolwg Duw a bod yn rhan o’r cyfamod newydd gyda Jehofa. (Hebreaid 9:14; 10:16, 17) Mae’r cyfamod neu’r cytundeb hwn yn caniatáu i 144,000 o Gristnogion ffyddlon fynd i’r nefoedd. Yno, byddan nhw’n gwasanaethu fel brenhinoedd ac offeiriaid er lles yr holl ddynolryw.—⁠Genesis 22:18; Jeremeia 31:31-33; 1 Pedr 2:9; Datguddiad 5:9, 10; 14:1-3.

      Pwy ddylai gyfranogi o elfennau’r Goffadwriaeth? Yn rhesymegol, dim ond y rhai sydd yn y cyfamod newydd—y rhai sydd â’r gobaith o fynd i’r nefoedd—⁠ddylai gyfranogi o’r bara a’r gwin. Mae ysbryd glân Duw yn argyhoeddi’r rhai hyn eu bod nhw wedi eu dethol i fod yn frenhinoedd yn y nef. (Rhufeiniaid 8:16) Maen nhw hefyd yn rhan o gyfamod y Deyrnas gyda Iesu.—⁠Luc 22:29.

      Beth am y rhai sydd â’r gobaith o fyw am byth ym Mharadwys ar y ddaear? Maen nhw’n ufuddhau i orchymyn Iesu ac yn mynychu Swper yr Arglwydd, ond dod o ran parch y maen nhw, i wylio a gwrando yn hytrach na chyfranogi. Unwaith y flwyddyn ar Nisan 14, wedi machlud yr haul, mae Tystion Jehofa yn dathlu Swper yr Arglwydd. Er nad oes ond ychydig filoedd trwy’r byd i gyd sy’n arddel y gobaith o fynd i’r nefoedd, mae’r dathliad yn bwysig i bob Cristion. Dyma achlysur i bawb fyfyrio ar gariad tra rhagorol Jehofa Dduw a Iesu Grist.—⁠Ioan 3:16.

  • “Enaid” ac “Ysbryd”—Beth Yw Gwir Ystyr y Termau Hyn?
    Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?
    • ATODIAD

      “Enaid” ac “Ysbryd”—Beth Yw Gwir Ystyr y Termau Hyn?

      PAN glywch chi’r geiriau “enaid” ac “ysbryd,” beth sy’n dod i’ch meddwl? Mae llawer yn credu bod y geiriau hyn yn golygu rhywbeth anweledig ac anfarwol sy’n bodoli y tu mewn inni. Maen nhw’n meddwl bod y rhan anweledig hon yn gadael y corff pan fo rhywun yn marw ac yn parhau i fyw. Gan fod y gred hon mor gyffredin, mae’n syndod i lawer sylweddoli bod y Beibl yn dysgu rhywbeth hollol wahanol. Beth, felly, yw’r enaid, a beth yw’r ysbryd, yn ôl Gair Duw?

      Y GAIR “ENAID” YN Y BEIBL

      Yn gyntaf, ystyriwch yr enaid. Cofiwch fod y rhan fwyaf o’r Beibl wedi ei ysgrifennu’n wreiddiol yn Hebraeg a Groeg. Wrth ysgrifennu am yr enaid, roedd ysgrifenwyr y Beibl yn defnyddio gwahanol ffurfiau ar y gair Hebraeg neʹphesh a’r gair Groeg psu·cheʹ. Mae’r ddau air hyn yn digwydd fwy na 800 o weithiau yn yr Ysgrythurau. Gan amlaf, mae’r Beibl Cysegr-lân yn trosi’r geiriau hyn â’r gair “enaid,” tra bod Y Beibl Cymraeg Newydd Argraffiad Diwygiedig yn eu cyfieithu yn ôl y cyd-destun â geiriau fel “enaid,” “creadur,” “einioes,” “bod,” “bywyd,” “corff,” a “dyn.” Pan edrychwch yn fanwl ar y modd y mae’r Beibl yn defnyddio neʹphesh neu psu·cheʹ, mae’n dod yn amlwg fod y geiriau hyn, yn y bôn, yn cyfeirio at (1) pobl, (2) anifeiliaid, neu (3) y bywyd

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu