-
Swper yr Arglwydd—Dathliad Sy’n Anrhydeddu DuwBeth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?
-
-
Beth am y rhai sydd â’r gobaith o fyw am byth ym Mharadwys ar y ddaear? Maen nhw’n ufuddhau i orchymyn Iesu ac yn mynychu Swper yr Arglwydd, ond dod o ran parch y maen nhw, i wylio a gwrando yn hytrach na chyfranogi. Unwaith y flwyddyn ar Nisan 14, wedi machlud yr haul, mae Tystion Jehofa yn dathlu Swper yr Arglwydd. Er nad oes ond ychydig filoedd trwy’r byd i gyd sy’n arddel y gobaith o fynd i’r nefoedd, mae’r dathliad yn bwysig i bob Cristion. Dyma achlysur i bawb fyfyrio ar gariad tra rhagorol Jehofa Dduw a Iesu Grist.—Ioan 3:16.
-
-
“Enaid” ac “Ysbryd”—Beth Yw Gwir Ystyr y Termau Hyn?Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?
-
-
ATODIAD
“Enaid” ac “Ysbryd”—Beth Yw Gwir Ystyr y Termau Hyn?
PAN glywch chi’r geiriau “enaid” ac “ysbryd,” beth sy’n dod i’ch meddwl? Mae llawer yn credu bod y geiriau hyn yn golygu rhywbeth anweledig ac anfarwol sy’n bodoli y tu mewn inni. Maen nhw’n meddwl bod y rhan anweledig hon yn gadael y corff pan fo rhywun yn marw ac yn parhau i fyw. Gan fod y gred hon mor gyffredin, mae’n syndod i lawer sylweddoli bod y Beibl yn dysgu rhywbeth hollol wahanol. Beth, felly, yw’r enaid, a beth yw’r ysbryd, yn ôl Gair Duw?
Y GAIR “ENAID” YN Y BEIBL
Yn gyntaf, ystyriwch yr enaid. Cofiwch fod y rhan fwyaf o’r Beibl wedi ei ysgrifennu’n wreiddiol yn Hebraeg a Groeg. Wrth ysgrifennu am yr enaid, roedd ysgrifenwyr y Beibl yn defnyddio gwahanol ffurfiau ar y gair Hebraeg neʹphesh a’r gair Groeg psu·cheʹ. Mae’r ddau air hyn yn digwydd fwy na 800 o weithiau yn yr Ysgrythurau. Gan amlaf, mae’r Beibl Cysegr-lân yn trosi’r geiriau hyn â’r gair “enaid,” tra bod Y Beibl Cymraeg Newydd Argraffiad Diwygiedig yn eu cyfieithu yn ôl y cyd-destun â geiriau fel “enaid,” “creadur,” “einioes,” “bod,” “bywyd,” “corff,” a “dyn.” Pan edrychwch yn fanwl ar y modd y mae’r Beibl yn defnyddio neʹphesh neu psu·cheʹ, mae’n dod yn amlwg fod y geiriau hyn, yn y bôn, yn cyfeirio at (1) pobl, (2) anifeiliaid, neu (3) y bywyd
-