LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • fg gwers 6 cwes. 1-5
  • Beth Yw Gobaith y Meirw?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Beth Yw Gobaith y Meirw?
  • Newyddion Da Oddi Wrth Dduw!
  • Erthyglau Tebyg
  • Be’ Sy’n Digwydd i’n Hanwyliaid Marw?
    Gwybodaeth Sy’n Arwain i Fywyd Tragwyddol
  • Gobaith Sicr ar Gyfer Eich Anwyliaid Sydd Wedi Marw
    Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?
  • Beth Sy’n Digwydd ar ôl Inni Farw?
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Bydd Atgyfodiad!
    Beth Allwn Ni ei Ddysgu o’r Beibl?
Gweld Mwy
Newyddion Da Oddi Wrth Dduw!
fg gwers 6 cwes. 1-5

GWERS 6

Beth Yw Gobaith y Meirw?

1. Beth yw’r newyddion da ynglŷn â’r meirw?

Martha a Mair yn croesawu eu brawd Lasarus ar ôl iddo gael ei atgyfodi

Roedd Lasarus wedi marw ers pedwar diwrnod pan gyrhaeddodd Iesu bentref Bethania ger Jerwsalem. Aeth Iesu at y bedd gyda Martha a Mair, chwiorydd Lasarus. Cyn bo hir, roedd tyrfa wedi casglu o’u cwmpas. Allwch chi ddychmygu pa mor hapus oedd Martha a Mair o weld eu brawd yn cael ei atgyfodi gan Iesu?​—Darllenwch Ioan 11:21-24, 38-44.

Roedd Martha eisoes yn gwybod am y newyddion da ynglŷn â gobaith y meirw. Roedd hi’n gwybod bod Jehofah yn mynd i atgyfodi’r meirw i fywyd ar y ddaear.​—Darllenwch Job 14:14, 15.

2. Beth yw cyflwr y meirw?

Adda yn cael ei greu, ac yna ei farwolaeth

Dywedodd Duw wrth Adda: “Llwch wyt ti, ac i’r llwch y dychweli.”—GENESIS 3:19.

Mae bodau dynol wedi eu gwneud o lwch. (Genesis 2:7; 3:19) Nid ysbrydion sy’n byw mewn cyrff o gnawd mohonon ni. Creaduriaid o gig a gwaed ydyn ni, felly does dim un rhan ohonon ni yn dal i fyw ar ôl inni farw. Pan fyddwn ni’n marw, mae ein hymennydd yn marw a’n cynlluniau a’n deall yn darfod. Nid yw’r meirw yn gwybod dim, a dyna pam na ddywedodd Lasarus yr un gair am ei brofiad o farwolaeth.​—Darllenwch Salm 146:4; Pregethwr 9:5, 6, 10.

A yw Duw yn poenydio pobl mewn tân ar ôl iddyn nhw farw? Mae’r Beibl yn dangos nad yw’r meirw yn gwybod dim, ac felly mae’n amlwg fod y ddysgeidiaeth am uffern yn gelwyddog ac yn pardduo enw Duw. Mae hyd yn oed y syniad o arteithio pobl mewn tân yn wrthun i Dduw.​—Darllenwch Jeremeia 7:31.

Gwyliwch y fideo Beth Yw Cyflwr y Meirw?

3. Ydy’r meirw yn gallu siarad â ni?

Dydy’r meirw ddim yn gallu siarad na chlywed. (Salm 115:17) Ond weithiau, mae angylion drwg yn siarad â phobl, gan honni mai ysbrydion y meirw ydyn nhw. (2 Pedr 2:4) Mae Jehofah yn ein gwahardd ni rhag ceisio siarad â’r meirw.​—Darllenwch Deuteronomium 18:10, 11.

4. Pwy fydd yn cael ei atgyfodi?

Dyn yn dysgu am Dduw ar ôl iddo gael ei atgyfodi mewn Paradwys. Yna, mae’r dyn yn dysgu eraill sydd wedi cael eu hatgyfodi.

Bydd miliynau o bobl yn cael eu hatgyfodi i fyw ar y ddaear. Bydd hyd yn oed y rhai nad oedden nhw’n adnabod Duw nac yn byw bywydau da yn cael eu hatgyfodi.​—Darllenwch Actau 24:15.

Bydd y rhai sy’n cael eu hatgyfodi yn cael y cyfle i ddysgu’r gwir am Dduw, i roi eu ffydd yn Iesu, ac i ufuddhau iddo. (Datguddiad 20:11-13) Bydd y rhai sy’n dod yn ôl yn fyw ac sy’n gwneud pethau da yn gallu byw am byth ar y ddaear.​—Darllenwch Ioan 5:28, 29.

5. Beth mae’r atgyfodiad yn ei ddweud am Jehofah?

Duw yw’r un sydd wedi gwneud yr atgyfodiad yn bosibl drwy anfon ei Fab i farw droston ni. Felly, mae’r atgyfodiad yn dystiolaeth o gariad a charedigrwydd Jehofah. Pan ddaw’r meirw yn ôl yn fyw, pwy fyddwch chi’n awyddus i’w weld?​—Darllenwch Ioan 3:16; Rhufeiniaid 6:23.

Am fwy o wybodaeth, gweler penodau 6, 7, a 10 yn y llyfr Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu