LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • fg gwers 7 cwes. 1-5
  • Beth Yw Teyrnas Dduw?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Beth Yw Teyrnas Dduw?
  • Newyddion Da Oddi Wrth Dduw!
  • Erthyglau Tebyg
  • Beth Yw Teyrnas Dduw?
    Beth Mae Duw yn ei Ofyn Gennym Ni?
  • Beth Yw Teyrnas Dduw?
    Beth Allwn Ni ei Ddysgu o’r Beibl?
  • Beth Yw Teyrnas Dduw?
    Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?
  • Mae Teyrnas Dduw yn Llywodraethu
    Gwybodaeth Sy’n Arwain i Fywyd Tragwyddol
Gweld Mwy
Newyddion Da Oddi Wrth Dduw!
fg gwers 7 cwes. 1-5

GWERS 7

Beth Yw Teyrnas Dduw?

1. Beth yw Teyrnas Dduw?

1. Teyrnas Dduw yn y nefoedd; 2. Iesu yn iacháu dyn gwahanglwyfus

Pam mae Iesu’n Frenin delfrydol? —MARC 1:40-42.

Llywodraeth nefol yw Teyrnas Dduw. Bydd y Deyrnas honno’n disodli pob llywodraeth arall ac yn sicrhau y bydd ewyllys Duw yn cael ei gwneud yn y nefoedd ac ar y ddaear. Mae hyn yn newyddion da. Teyrnas Dduw fydd y llywodraeth gyfiawn y mae dynolryw wedi bod yn dyheu amdani. Fe fydd yn uno pawb ar y ddaear.​—Darllenwch Daniel 2:44; Mathew 6:9, 10; 24:14.

Mae Jehofah wedi penodi ei Fab, Iesu Grist, i fod yn frenin ar Ei Deyrnas.​—Darllenwch Datguddiad 11:15.

Gwyliwch y fideo Beth Yw Teyrnas Dduw?

2. Pam mae Iesu’n Frenin delfrydol?

Mae Mab Duw yn Frenin delfrydol oherwydd ei fod yn garedig ac yn ddigyfaddawd yn achos cyfiawnder. (Mathew 11:28-30) Ac yntau’n Frenin a fydd yn teyrnasu o’r nefoedd, y mae’n ddigon grymus i helpu pobl. Ar ôl iddo gael ei atgyfodi, fe esgynnodd i’r nefoedd i eistedd ar ddeheulaw Duw. (Hebreaid 10:12, 13) Ymhen amser, rhoddodd Duw’r awdurdod iddo ddechrau teyrnasu.​—Darllenwch Daniel 7:13, 14.

3. Pwy fydd yn teyrnasu gyda Iesu?

Bydd grŵp a elwir yn “bobl saint” yn teyrnasu gyda Iesu yn y nefoedd. (Daniel 7:27) Y bobl saint gyntaf i gael eu dewis oedd apostolion ffyddlon Iesu. Mae Jehofah wedi bod yn dewis pobl ffyddlon i fod yn rhan o’r grŵp hwn hyd heddiw. Fel Iesu, maen nhw’n cael corff ysbrydol ar adeg eu hatgyfodiad.​—Darllenwch Ioan 14:1-3; 1 Corinthiaid 15:42-44.

Faint o bobl sy’n mynd i’r nefoedd? Fe wnaeth Iesu eu galw nhw’n ‘braidd bychan.’ (Luc 12:32) Yn y pen draw, bydd 144,000 yn teyrnasu dros y ddaear gyda Iesu.​—Darllenwch Datguddiad 14:1.

4. Beth ddigwyddodd pan ddechreuodd Iesu deyrnasu?

Astudiaeth Feiblaidd

Dechreuodd Iesu deyrnasu fel Brenin Teyrnas Dduw ym 1914.a Y peth cyntaf a wnaeth oedd bwrw Satan a’i gythreuliaid i’r ddaear. Roedd Satan yn gynddeiriog ac aeth ati i greu helyntion o bob math drwy’r byd. (Datguddiad 12:7-10, 12) Ers hynny, mae problemau’r byd wedi cynyddu’n aruthrol. Mae’r rhyfeloedd, y newyn, y clefydau epidemig, a’r daeargrynfeydd a welir heddiw i gyd yn rhan o’r “arwydd” sy’n dangos bod y Deyrnas ar fin rheoli popeth ar y ddaear.​—Darllenwch Luc 21:7, 10, 11, 31.

5. Beth mae Teyrnas Dduw yn ei gyflawni?

Mae Teyrnas Dduw yn cael ei phregethu drwy’r byd i gyd ac mae hyn eisoes yn uno miliynau o bobl o bob cenedl. Mae tyrfa fawr o bobl ostyngedig yn dod yn ddeiliaid i Iesu. Bydd Teyrnas Dduw yn eu hamddiffyn pan fydd Iesu yn dinistrio’r drefn ddrygionus sydd ohoni. Felly, mae’n bwysig fod pawb sydd eisiau byw o dan y Deyrnas yn dysgu bod yn ufudd i Iesu.​—Darllenwch Datguddiad 7:9, 14, 16, 17.

Pobl ym Mharadwys ar y ddaear o dan Deyrnas Dduw

Dros gyfnod o fil o flynyddoedd, bydd y Deyrnas yn cyflawni bwriad gwreiddiol Duw ar gyfer dynolryw. Bydd yr holl ddaear yn dod yn baradwys. Yna, bydd Iesu’n trosglwyddo’r Deyrnas yn ôl i’w Dad. (1 Corinthiaid 15:24-26) Ydych chi’n adnabod rhywun a fyddai’n hoffi clywed am Deyrnas Dduw?​—Darllenwch Salm 37:10, 11, 29.

Am fwy o wybodaeth, gweler penodau 8 a 9 yn y llyfr Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?

a Am fanylion ynglŷn â’r flwyddyn 1914 ym mhroffwydoliaethau’r Beibl, gweler tudalennau 215-218 o’r llyfr Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu