Cân 89
Anogaeth Wresog Jehofa: “Fy Mab, Bydd Ddoeth”
(Diarhebion 27:11)
1. Fy mab gwiw, fy ngeneth,
eich calon imi rhowch,
Â’ch nerth a’ch ieuenctid
i’r sanctaidd waith ymrowch.
Gwêl eraill mai f’eiddo
personol ydych chi;
Daw hyn â hyfrydwch
a leinw ’nghalon i.
(CYTGAN)
F’anwylaf fab, fy ngeneth werthfawr,
Eich camau doeth a rynga ’modd.
Daw’ch clod a’ch ymroddiad o’ch gwirfodd;
Eich mawl fy nghalon a gyffrôdd.
2. Myfi yw’ch gorfoledd,
fy nghymorth cyson gewch;
Ac er ichwi syrthio,
cyfodi’n gryfach wnewch.
Er gwaethaf pob rhwystr
a siom all ddod i’ch rhan
Yn annwyl im fyddwch,
fy mab a’m geneth lân.
(CYTGAN)
F’anwylaf fab, fy ngeneth werthfawr,
Eich camau doeth a rynga ’modd.
Daw’ch clod a’ch ymroddiad o’ch gwirfodd;
Eich mawl fy nghalon a gyffrôdd.
(Gweler hefyd Deut. 6:5; Preg. 11:9; Esei. 41:13.)