LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • Cwestiwn 13: Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Weithio?
    Cyflwyniad i Air Duw
    • CWESTIWN 13

      Beth mae’r Beibl yn ei ddweud am weithio?

      “Pan weli di rywun sy’n fedrus yn ei waith—bydd hwnnw’n gwasanaethu brenhinoedd, nid pobl does neb wedi clywed amdanyn nhw.”

      Diarhebion 22:29

      Saer yn gweithio’n galed

      “Rhaid i’r person oedd yn arfer bod yn lleidr stopio dwyn. Dylai weithio, ac ennill bywoliaeth, fel bod ganddo rywbeth i’w rannu gyda phobl mewn angen.”

      Effesiaid 4:28

      “Rhodd Duw i bawb ydy iddyn nhw fwyta ac yfed a mwynhau eu holl weithgareddau.”

      Pregethwr 3:13

  • Cwestiwn 14: Sut Gallwch Chi Reoli Eich Arian?
    Cyflwyniad i Air Duw
    • CWESTIWN 14

      Sut gallwch chi reoli eich arian?

      “Bydd y sawl sydd ddim ond eisiau bywyd o bleser yn cael ei hun yn dlawd; dydy gwin a bywyd moethus ddim yn gwneud rhywun yn gyfoethog.”

      Diarhebion 21:17

      “Fel mae’r cyfoethog yn rheoli’r tlawd, mae’r un sydd mewn dyled yn gaethwas i’r benthyciwr.”

      Diarhebion 22:7

      “Does neb yn mynd ati i adeiladu adeilad mawr heb eistedd i lawr yn gyntaf i amcangyfri’r gost a gwneud yn siŵr fod ganddo ddigon o arian i orffen y gwaith. Does dim pwynt iddo fynd ati i osod y sylfeini ac wedyn darganfod ei fod yn methu ei orffen. Byddai pawb yn gwneud hwyl ar ei ben, ac yn dweud, ‘Edrychwch, dyna’r dyn ddechreuodd y gwaith ar yr adeilad acw a methu ei orffen!’”

      Luc 14:28-30

      “Ar ôl i bawb gael llond eu boliau, dwedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, ‘Casglwch y tameidiau sydd dros ben. Peidiwch gwastraffu dim.’”

      Ioan 6:12

  • Cwestiwn 15: Sut Gallwn Ni Fod yn Hapus?
    Cyflwyniad i Air Duw
    • CWESTIWN 15

      Sut gallwn ni fod yn hapus?

      Merch annwyl yn rhoi llun i’w thad

      “Mae platiaid o lysiau lle mae cariad yn well na gwledd o gig eidion â chasineb.”

      Diarhebion 15:17

      “Fi ydy’r ARGLWYDD dy Dduw, sy’n dy ddysgu di er dy les, ac yn dy arwain di ar hyd y ffordd y dylet ti fynd.”

      Eseia 48:17

      “Atebodd Iesu, ‘Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud mai “Nid bwyd ydy’r unig beth mae pobl ei angen i fyw, ond popeth mae Duw yn ei ddweud.”’”

      Mathew 4:4

      “Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti’n dy garu dy hun.”

      Mathew 22:39

      “Dylech chi drin pobl eraill fel byddech chi’n hoffi iddyn nhw’ch trin chi.”

      Luc 6:31

      “Mae’r rhai sy’n gwrando ar neges Duw ac yn ufuddhau iddo wedi’u bendithio’n fwy!”

      Luc 11:28

      “Dim faint o bethau sydd gynnoch chi sy’n rhoi bywyd go iawn i chi.”

      Luc 12:15

      “Felly os oes gynnon ni fwyd a dillad, gadewch i ni fod yn fodlon gyda hynny.”

      1 Timotheus 6:8

      “Mae rhoi yn llawer gwell na derbyn.”

      Actau 20:35

  • Cwestiwn 16: Sut Gallwn Ni Ymdopi â Phryderon?
    Cyflwyniad i Air Duw
    • CWESTIWN 16

      Sut gallwn ni ymdopi â phryderon?

      “Rho dy feichiau trwm i’r ARGLWYDD; bydd e’n edrych ar dy ôl di. Wnaiff e ddim gadael i’r cyfiawn syrthio.”

      Salm 55:22

      “Mae llwyddiant yn dod o gynllunio gofalus a gwaith caled; ond dydy brys gwyllt ddim ond yn arwain i dlodi.”

      Diarhebion 21:5

      “Paid bod ag ofn, achos dw i gyda ti. Paid dychryn—fi ydy dy Dduw di! Dw i’n dy nerthu di ac yn dy helpu di, dw i’n dy gynnal di ac yn dy achub di hefo fy llaw dde.”

      Eseia 41:10

      “Allwch chi ddim hyd yn oed gwneud eich bywyd eiliad yn hirach drwy boeni!”

      Mathew 6:27

      “Felly, peidiwch poeni am fory, cewch groesi’r bont honno pan ddaw. Mae’n well wynebu problemau un dydd ar y tro.”

      Mathew 6:34

      “Dw i eisiau i chi ddewis y peth gorau i’w wneud bob amser.”

      Philipiaid 1:10

      Mam yn gweddïo gyda’i merch cyn dechrau’u pryd o fwyd

      “Peidiwch gadael i ddim byd eich poeni chi. Gweddïwch, a gofyn i Dduw am bopeth sydd arnoch ei angen, a byddwch yn ddiolchgar bob amser. Byddwch chi’n profi’r heddwch perffaith mae Duw’n ei roi—y daioni sydd tu hwnt i bob dychymyg—yn gwarchod eich calonnau a’ch meddyliau wrth i chi ddilyn y Meseia Iesu.”

      Philipiaid 4:6, 7

  • Cwestiwn 17: Sut Gall y Beibl Helpu Eich Teulu?
    Cyflwyniad i Air Duw
    • CWESTIWN 17

      Sut gall y Beibl helpu eich teulu?

      GWŶR/TADAU

      “Dyna sut ddylai gwŷr garu eu gwrageddfel eu cyrff eu hunain! Mae’r gŵr sy’n caru ei wraig yn ei garu ei hun! Dydy pobl ddim yn casáu eu cyrff eu hunain—maen nhw’n eu bwydo nhw a gofalu amdanyn nhw . . . Dyna ddylai pob un ohonoch chi ei wneud—caru ei wraig fel mae’n ei garu ei hun.”

      Effesiaid 5:28, 29, 33

      “Chi’r tadau, peidiwch trin eich plant mewn ffordd sy’n eu gwylltio nhw. Dylech eu magu a’u dysgu nhw i wneud beth mae’r Arglwydd yn ei ddweud.”

      Effesiaid 6:4

      GWRAGEDD

      “Dyna ddylai pob un ohonoch chi ei wneud . . . fel bod y wraig wedyn yn parchu ei gŵr.”

      Effesiaid 5:33

      “Rhaid i chi’r gwragedd fod yn atebol i’ch gwŷr—dyna’r peth iawn i bobl yr Arglwydd ei wneud.”

      Colosiaid 3:18

      PLANT

      “Dylech chi’r plant sy’n perthyn i’r Arglwydd fod yn ufudd i’ch rhieni, am mai dyna’r peth iawn i’w wneud. Y gorchymyn cyntaf sydd ag addewid ynghlwm wrtho ydy: Gofala am dy dad a dy fam, a bydd pethau’n mynd yn dda i ti, a chei fyw’n hir.”

      Effesiaid 6:1-3

      “Rhaid i chi’r plant fod yn ufudd i’ch rhieni bob amser, am fod hynny’n plesio’r Arglwydd.”

      Colosiaid 3:20

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu