LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • my stori 16
  • Gwraig Dda i Isaac

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Gwraig Dda i Isaac
  • Storïau o’r Beibl
  • Erthyglau Tebyg
  • Roedd Rebeca Eisiau Gwneud Jehofa yn Hapus
    Dysgu Eich Plant
  • Profi Ffydd Abraham
    Storïau o’r Beibl
  • Jacob ac Esau
    Storïau o’r Beibl
Storïau o’r Beibl
my stori 16
Isaac yn gweld Rebeca am y tro cyntaf

STORI 16

Gwraig Dda i Isaac

A WYT ti’n adnabod y ferch yn y llun? Ei henw yw Rebeca. A’r dyn mae hi’n cerdded tuag ato yw Isaac. Mae hi’n mynd i briodi Isaac. Sut digwyddodd hyn?

Roedd Abraham, tad Isaac, eisiau i’w fab gael gwraig dda. Doedd Abraham ddim yn dymuno gweld Isaac yn priodi merch o wlad Canaan, oherwydd roedd pobl Canaan yn addoli gau dduwiau. Felly, dywedodd Abraham wrth ei was: ‘Rwyf am i ti fynd yn ôl i wlad fy mhobl yn Haran i ddod o hyd i wraig ar gyfer fy mab Isaac.’

Cymerodd gwas Abraham ddeg o gamelod a chychwyn yn syth ar ei daith hir. Wrth iddo nesáu at hen gartref Abraham, stopiodd wrth ymyl ffynnon. Gan ei bod hi bellach yn hwyr yn y prynhawn, roedd llawer o ferched wedi dod o’r ddinas i godi dŵr. Felly, gweddïodd gwas Abraham ar Jehofa, gan ofyn: ‘Y ferch a fydd yn dod i godi dŵr i mi a’r camelod, boed iti ddewis honno yn wraig i Isaac.’

Yn fuan wedyn, daeth Rebeca at y ffynnon i godi dŵr. Gofynnodd y gwas iddi am ddiod. ‘Yfa di,’ meddai hi, ‘ac mi af i godi dŵr i’r camelod hefyd.’ Roedd yn rhaid i Rebeca weithio’n galed iawn oherwydd mae camelod yn yfed llawer o ddŵr.

Ar ôl iddi orffen, gofynnodd gwas Abraham iddi am enw ei thad. Gofynnodd hefyd a fyddai’n gallu aros yn eu cartref dros nos. Dywedodd Rebeca: ‘Enw fy nhad yw Bethuel, ac mae digon o le iti aros gyda ni.’ Gwyddai gwas Abraham fod Bethuel yn fab i Nachor, brawd Abraham. Aeth ar ei bennau-gliniau i ddiolch i Jehofa am ei arwain at deulu ei feistr.

Y noson honno, siaradodd gwas Abraham gyda theulu Rebeca ac egluro pam yr oedd wedi dod mor bell. Cytunodd Bethuel a Laban, brawd Rebeca, y dylai hi fynd yn ôl gyda’r gwas a phriodi Isaac. Pan ofynnon nhw i Rebeca a oedd hi’n fodlon, dywedodd hi ei bod hi eisiau mynd. Drannoeth, dringon nhw ar gefnau’r camelod a chychwyn ar y daith hir yn ôl i wlad Canaan.

Yr oedd hi’n fin nos pan gyrhaeddon nhw. Edrychodd Rebeca a gweld dyn yn cerdded yn y caeau. Isaac oedd y dyn hwnnw. Roedd Isaac wrth ei fodd yn gweld Rebeca. Roedd ei fam, Sara, wedi marw dair blynedd ynghynt, ac roedd Isaac yn dal i deimlo ei cholled i’r byw. Ond daeth Isaac i garu Rebeca’n fawr iawn, ac roedd yn hapus unwaith eto.

Genesis 24:1-67.

Cwestiynau ar Gyfer Astudio

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu