Testunau Trafod o’r Beibl
1. Addoli Cyndadau
A. Mae addoli cyndadau yn ofer
Mae ein cyndadau wedi marw, yn anymwybodol. Pre 9:5, 10
Nid yw ein cyndadau gwreiddiol yn haeddu addoliad. Rhu 5:12, 14; 1Ti 2:14
Mae Duw yn gwahardd addoliad o’r fath. Ex 34:14, 15; Mth 4:10
B. Gallwn anrhydeddu pobl, ond dylem addoli Duw yn unig
Dylai pobl ifanc barchu pobl hŷn. 1Ti 5:1, 2, 17; Eff 6:1-3
Dylem addoli Duw yn unig. Act 10:25, 26; Dat 22:8, 9
2. Addoli Gyda Phobl o Grefyddau Eraill
A. Nid ffordd Dduw yw ymuno â chrefyddau eraill
Un ffordd yn unig, mae’n gul, ychydig sy’n ei darganfod. Eff 4:4-6; Mth 7:13, 14
Rhybudd bod gau ddysgeidiaeth yn llygru. Mth 16:6, 12; Ga 5:9
Gorchymyn i fod ar wahân. 2Ti 3:5; 2Co 6:14-17; Dat 18:4
B. Nid oes da ym mhob crefydd
Mae rhai yn selog ond nid yn unol â Duw. Rhu 10:2, 3
Mae drwg yn difetha’r hyn sy’n dda. 1Co 5:6; Mth 7:15-17
Mae gau athrawon yn dod â dinistr. 2Pe 2:1; Mth 12:30; 15:14
Mae addoliad pur yn gofyn am ymgysegriad llwyr. De 6:5, 14, 15
3. Addoli Mair
A. Mair mam Iesu, nid “mam Duw”
Nid oedd gan Dduw ddechreuad. Sal 90:2; 1Ti 1:17
Roedd Mair yn fam i Fab Duw, yn ei gyflwr dynol. Lc 1:35
B. Nid oedd Mair yn wyryf am byth
Priododd hi Joseff. Mth 1:19, 20, 24, 25
Roedd ganddi blant eraill heblaw am Iesu. Mth 13:55, 56; Lc 8:19-21
Nid oeddent yn frodyr ysbrydol iddo eto. In 7:3, 5
4. Armagedon
A. Rhyfel Duw i roi terfyn ar ddrygioni
Casglu’r cenhedloedd ynghyd i Armagedon. Dat 16:14, 16
Duw yn ymladd, gan ddefnyddio’i Fab a’r angylion. 2The 1:6-9; Dat 19:11-16
Sut gallwn ni oroesi? Seff 2:2, 3; Dat 7:14
B. Nid yw cariad Duw yn cael ei halogi
Mae’r byd wedi ei lygru i’r eithaf. 2Ti 3:1-5
Mae Duw yn amyneddgar ond mae ei gyfiawnder yn gofyn am weithred. 2Pe 3:9, 15; Lc 18:7, 8
Er mwyn i’r cyfiawn lwyddo, rhaid cael gwared â’r drygionus. Dia 21:18; Dat 11:18
5. Atgyfodiad
A. Gobaith ar gyfer y meirw
Pawb yn y bedd yn cael eu hatgyfodi. In 5:28, 29
Atgyfodiad Iesu yn sicrhau’r addewid. 1Co 15:20-22; Act 17:31
Dim atgyfodiad i’r rhai sy’n pechu yn erbyn yr ysbryd. Mth 12:31, 32
Gobaith y rhai sy’n dangos ffydd yn cael ei sicrhau. In 11:25
B. Atgyfodiad naill ai i’r nef neu i’r ddaear
Trwy Adda mae pawb yn marw; trwy Iesu mae pawb yn fyw. 1Co 15:20-22; Rhu 5:19
Cyrff ysbrydol i’r rhai sy’n cael eu hatgyfodi i’r nef. 1Co 15:40, 42, 44
Bydd y rhai gyda Iesu yn debyg iddo. 1Co 15:49; Php 3:20, 21
Bydd y rhai na fydd yn teyrnasu yn byw ar y ddaear. Dat 20:4b, 5, 13; 21:3, 4
6. Bedydd
A. Gofyniad i Gristnogion
Gosododd Iesu esiampl. Mth 3:13-15; Heb 10:7
Symbol o ymgysegru neu ymwadu. Mth 16:24; 1Pe 3:21
Dim ond i’r rhai sy’n ddigon hen i ddysgu. Mth 28:19, 20; Act 2:41
Trochiad mewn dŵr yw’r ffordd gywir. Act 8:38, 39; In 3:23
B. Nid yw’n glanhau pechodau
Ni chafodd Iesu ei fedyddio i’w lanhau o bechod. 1Pe 2:22; 3:18
Gwaed Iesu sy’n glanhau pob pechod. 1In 1:7
7. Beibl
A. Mae Gair Duw wedi ei ysbrydoli
Cafodd dynion eu hysgogi gan ysbryd Duw i ysgrifennu. 2Pe 1:20, 21
Mae’n cynnwys proffwydoliaethau: Da 8:5, 6, 20-22; Lc 21:5, 6, 20-22; Esei 45:1-4
Mae’r Beibl cyfan wedi ei ysbrydoli ac yn fuddiol. 2Ti 3:16, 17; Rhu 15:4
B. Mae’n rhoi arweiniad ymarferol inni heddiw
Mae anwybyddu egwyddorion y Beibl yn farwol. Rhu 1:28-32
Nid yw doethineb dyn cystal â doethineb y Beibl. 1Co 1:21, 25; 1Ti 6:20
Mae’n ein hamddiffyn rhag y gelyn cryfach. Eff 6:11, 12, 17
Yn arwain dyn ar hyd y ffordd iawn. Sal 119:105; 2Pe 1:19; Dia 3:5, 6
C. Wedi ei ysgrifennu ar gyfer pob cenedl a hil
Dechreuwyd ysgrifennu’r Beibl yn y Dwyrain. Ex 17:14; 24:12, 16; 34:27
Nid ar gyfer Ewropeaid yn unig yw’r ddarpariaeth hon o Dduw. Rhu 10:11-13; Ga 3:28
Mae Duw yn derbyn pobl o bob cenedl. Act 10:34, 35; Rhu 5:18; Dat 7:9, 10
8. Bywyd
A. Bywyd tragwyddol yn sicr i’r ufudd
Duw wedi addo bywyd; nid yw’n gallu dweud celwydd. Tit 1:2; In 10:27, 28
Bywyd tragwyddol yn sicr i’r rhai sy’n ymarfer eu ffydd. In 11:25, 26
Bydd marwolaeth yn cael ei dileu. 1Co 15:26; Dat 21:4; 20:14; Esei 25:8
B. Bywyd nefol dim ond i’r rhai yng nghorff Crist
Duw yn dewis yr aelodau yn ôl ei ddymuniad ef. Mth 20:23; 1Co 12:18
144,000 yn unig yn mynd o’r ddaear. Dat 14:1, 4; 7:2-4; 5:9, 10
Ni fydd hyd yn oed Ioan Fedyddiwr yn y Deyrnas nefol. Mth 11:11
C. Bywyd ar y ddaear i “ddefaid eraill” di-rif
Rhif cyfyngedig yn y nefoedd gyda Iesu. Dat 14:1, 4; 7:2-4
Nid yw’r ‘defaid eraill’ yn frodyr Crist. In 10:16; Mth 25:32, 40
Nifer mawr yn cael eu casglu heddiw i fyw ar y ddaear. Dat 7:9, 15-17
Bydd eraill yn cael eu hatgyfodi i’r ddaear. Dat 20:12; 21:4
9. Coffadwriaeth, Offeren
A. Coffáu Swper yr Arglwydd
I’w gynnal unwaith y flwyddyn ar ddyddiad y Pasg. Lc 22:1, 17-20; Ex 12:14
Coffadwriaeth marwolaeth aberthol Crist. 1Co 11:26; Mth 26:28
Y rhai gyda gobaith nefol sy’n bwyta’r bara ac yfed y gwin. Lc 22:29, 30; 12:32, 37
Sut mae rhywun yn gwybod bod ganddo’r gobaith hwnnw? Rhu 8:15-17
B. Offeren yn anysgrythurol
Nid oes maddeuant pechodau heb dywallt gwaed. Heb 9:22
Crist yw unig Gyfryngwr y cyfamod newydd. 1Ti 2:5, 6; In 14:6
Mae Crist yn y nefoedd; mae’n amhosibl i’w gorff a’i waed fod yn llythrennol yn y bara a’r gwin. Act 3:20, 21
Nid oes angen ailoffrymu aberth Crist. Heb 9:24-26; 10:11-14
10. Creadigaeth
A. Yn cytuno â gwyddoniaeth; yn gwrthbrofi esblygiad
Mae gwyddoniaeth yn cytuno â threfn y greadigaeth. Ge 1:11, 12, 21, 24, 25
Mae deddf Duw “yn ôl eu rhywogaeth” yn wir. Ge 1:11, 12; Iag 3:12
B. Nid dyddiau o 24 awr oedd dyddiau’r greadigaeth
Gall “dydd” fod yn gyfnod o amser. Ge 2:4
Gall un dydd yng ngolwg Duw fod yn amser hir. Sal 90:4; 2Pe 3:8
11. Crefydd
A. Dim ond un wir grefydd
Un gobaith, un ffydd, un bedydd. Eff 4:5, 13
Gorchymyn i wneud disgyblion. Mth 28:19; Act 8:12; 14:21
Adnabod wrth ei ffrwyth. Mth 7:19, 20; Lc 6:43, 44; In 15:8
Cariad ac undod ymysg ei gilydd. In 13:35; 1Co 1:10; 1In 4:20
B. Mae gau ddysgeidiaethau yn cael eu condemnio
Iesu yn condemnio gau ddysgeidiaeth. Mth 23:15, 23, 24; 15:4-9
Gwnaeth hyn i amddiffyn y dall. Mth 15:14
Y gwir yn eu rhyddhau nhw i fod yn ddisgyblion Iesu. In 8:31, 32
C. Angenrheidiol i newid crefydd pe bai wedi ei phrofi’n anghywir
Y gwir yn rhyddhau; yn profi llawer yn anghywir. In 8:31, 32
Gadawodd Israeliaid ac eraill eu crefyddau gynt. Jos 24:15; 2Br 5:17
Newidiodd Cristnogion cynnar eu safbwynt. Ga 1:13, 14; Act 3:17, 19
Newidiodd Paul ei grefydd. Act 26:4-6
Yr holl fyd wedi cael ei dwyllo; rhaid adnewyddu eich meddwl. Dat 12:9; Rhu 12:2
CH. Dydy “da ym mhob crefydd” ddim yn sicrhau ffafr Duw
Mae Duw yn gosod safon addoliad. In 4:23, 24; Iag 1:27
Nid yw’n dda os nad yw yn ôl ewyllys Duw. Rhu 10:2, 3
Gall “gweithredoedd da” gael eu gwrthod. Mth 7:21-23
Adnabod wrth eu ffrwythau. Mth 7:20
12. Cronoleg
A. Amser y Cenhedloedd yn gorffen ym 1914 OG
Toriad yn llinell frenhinol y deyrnas, 607 COG. Esec 21:25-27
Bydd “saith cyfnod” neu “saith amser” yn mynd heibio tan adfer y deyrnas. Da 4:32, 16, 17, Y Beibl Cysegr-lân
Saith = 2 × 3 1/2 amser, neu 2 × 1,260 o ddyddiau. Dat 12:6, 14; 11:2, 3
Blwyddyn am bob diwrnod. [Sef 2,520 o flynyddoedd] Esec 4:6; Nu 14:34
Yr amser yn para tan sefydlu’r Deyrnas. Lc 21:24; Da 7:13, 14
13. Delwau
A. Mae defnyddio delwau neu eilunod i addoli Duw yn amharchus iawn iddo
Mae’n amhosibl i rywun greu delw o Dduw. 1In 4:12; Esei 40:18; 46:5; Act 17:29
Mae Cristnogion yn cael eu rhybuddio rhag defnyddio eilunod. 1Co 10:14; 1In 5:21
Rhaid addoli Duw mewn ysbryd a gwirionedd. In 4:24
B. Roedd eilunaddoliaeth yn farwol i’r Israeliaid
Roedd yn erbyn y Gyfraith i’r Iddewon addoli eilunod. Ex 20:4, 5
Nid ydynt yn clywed na siarad; bydd eu cynhyrchwyr yn mynd yn debyg iddynt. Sal 115:4-8
Roedd yn fagl i’r addolwyr, yn arwain at eu dinistr. Sal 106:36, 40-42; Jer 22:8, 9
C. Mae addoli cynrychiolwyr Duw yn anghyfreithlon
Nid oedd Duw yn caniatáu i bobl ei addoli drwy gynrychiolydd. Esei 42:8
Duw yw’r unig un “sy’n gwrando gweddi.” Sal 65:1, 2
14. Drygioni, Gofid y Byd
A. Yr un sy’n gyfrifol am ofid y byd
Gofid heddiw oherwydd rheolaeth ddrwg. Dia 29:2; 28:28
Tywysog y byd yn elyn i Dduw. 2Co 4:4; 1In 5:19; In 12:31
Y Diafol sy’n gyfrifol am y gwae; ei amser yn fyr. Dat 12:9, 12
Heddwch yn dod ar ôl i’r Diafol gael ei rwymo. Dat 20:1-3; 21:3, 4
B. Rheswm dros ganiatáu drygioni
Diafol yn herio ffyddlondeb creaduriaid Duw. Job 1:11, 12
Cyfle i wir addolwyr ddangos eu ffyddlondeb. Rhu 9:17; Dia 27:11
Y ddadl yn cael ei hateb; profi’r Diafol yn gelwyddwr. In 12:31
Gwobrwyo’r ffyddlon â bywyd tragwyddol. Rhu 2:6, 7; Dat 21:3-5
C. Darpariaeth garedig yw amser y diwedd
Yn debyg i adeg Noa mae’n cymryd amser i rybuddio. Mth 24:14, 37-39
Nid yw Duw yn araf ond yn drugarog. 2Pe 3:9; Esei 30:18
Y Beibl yn ein helpu ni i gadw’n effro. Lc 21:36; 1The 5:4
Ceisiwch ddarpariaeth Duw heddiw i gael eich amddiffyn. Esei 2:2-4; Seff 2:3
CH. Ni fydd dynion yn datrys gofid y byd
Pobl yn ofnus, mewn penbleth. Lc 21:10, 11; 2Ti 3:1-5
Nid dynion ond Teyrnas Dduw a fydd yn llwyddo. Da 2:44; Mth 6:10
Er mwyn byw, ceisiwch heddwch â’r Brenin heddiw. Sal 2:9, 11, 12
15. Dychweliad Crist
A. Anweledig i ddynion
Dywedodd wrth ei ddisgyblion na fydd y byd yn ei weld byth eto. In 14:19
Dim ond ei ddisgyblion a welodd ei esgyniad; bydd ei ddychweliad yn debyg. Act 1:6, 10, 11
Yn y nefoedd, yn ysbryd anweledig. 1Ti 6:14-16; Heb 1:3
Yn dod gydag awdurdod nefol. Da 7:13, 14
B. Adnabod drwy arwyddion gweladwy
Gofynnodd y disgyblion am arwydd o’i bresenoldeb. Mth 24:3
Cristnogion yn “gweld” ei bresenoldeb drwy ddeall. Eff 1:18
Sawl digwyddiad yn profi ei bresenoldeb. Lc 21:10, 11
Gelynion yn “gweld” cyn cael eu dinistrio. Dat 1:7
16. Dyddiau Diwethaf
A. Ystyr ‘diwedd y byd’ (BC)
Diwedd y drefn bresennol. Mth 24:3; 2Pe 3:5-7; Mc 13:4
Nid diwedd y ddaear, ond i’r byd drwg. 1In 2:17
Amser y diwedd cyn dinistr. Mth 24:14
Cyfiawn yn ddiogel; byd newydd yn dilyn. 2Pe 2:9; Dat 7:14-17
B. Angen adnabod arwyddion y dyddiau diwethaf
Rhoddodd Duw arwyddion i’n harwain ni. 2Ti 3:1-5; 1The 5:1-4
Byd yn methu deall y sefyllfa ddifrifol. 2Pe 3:3, 4, 7; Mth 24:39
Nid yw Duw yn oedi, ond yn rhybuddio. 2Pe 3:9
Gwobr i’r effro, y pryderus. Lc 21:34-36
17. Enaid
A. Does dim byd anfarwol o fewn dyn
Does dim enaid anfarwol gan ddyn. Ge 3:19
Does dim byd yn goroesi ar ôl marw. Sal 115:17; Pre 9:5, 10
Doedd gweision Duw ddim yn credu bod rhywbeth yn goroesi ar ôl marw. Sal 6:4, 5; Esei 38:18; In 11:11-14
18. Ffawd, Rhagarfaeth
A. Nid yw bywyd pobl wedi ei ragordeinio
Pwrpas Duw yn sicr. Esei 55:11; Ge 1:28
Dewis gan bob un i wasanaethu Duw. In 3:16; Php 2:12
19. Gau Broffwydi
A. Rhagfynegwyd gau broffwydi; yn bodoli adeg yr apostolion
Rheol i adnabod gau broffwydi. De 18:20-22; Lc 6:26
Rhagfynegwyd; adnabod wrth eu ffrwythau. Mth 24:23-26; 7:15-23
20. Gwaed
A. Mae trallwysiadau yn torri egwyddor sancteiddrwydd gwaed
Dywedwyd wrth Noa fod gwaed yn sanctaidd, ei fod yn fywyd. Ge 9:4, 16
Roedd cyfamod y Gyfraith yn gwahardd bwyta gwaed. Le 17:14; 7:26, 27
Ailadroddwyd y gyfraith i Gristnogion. Act 15:28, 29; 21:25
B. Nid yw achub bywyd yn cyfiawnhau torri cyfraith Duw
Mae’n well bod yn ufudd na rhoi aberth. 1Sa 15:22; Mc 12:33
Mae’n farwol i flaenoriaethu bywyd yn hytrach na chyfraith Duw. Mc 8:35, 36
21. Gweddi
A. Gweddïau mae Duw yn eu clywed
Duw yn gwrando ar weddïau pobl. Sal 145:18; 1Pe 3:12
Nid yw’n gwrando ar yr anghyfiawn oni bai eu bod yn newid. Esei 1:15-17
Rhaid gweddïo yn enw Iesu. In 14:13, 14; 2Co 1:20
Rhaid gweddïo yn unol ag ewyllys Duw. 1In 5:14, 15
Ffydd yn angenrheidiol. Iag 1:6-8
B. Nid yw gweddïo ar Mair neu’r “saint” yn ddilys, ailadrodd yn ofer
Rhaid gweddïo ar Dduw yn enw Iesu. In 14:6, 14; 16:23, 24
Doedd Iesu ddim yn ailadrodd yr un geiriau yn ei weddïau. Cymharwch Mth 6:9-13 â Lc 11:2-4
22. Gweinidog
A. Rhaid i bob Cristion fod yn weinidog
Roedd Iesu yn weinidog Duw. Rhu 15:8, 9, BC; Mth 20:28
Cristnogion yn dilyn ei esiampl. 1Pe 2:21; 1Co 11:1
Rhaid pregethu i gyflawni’r weinidogaeth. 2Ti 4:2, 5; 1Co 9:16
B. Gofynion ar gyfer y weinidogaeth
Ysbryd Duw a gwybod ei Air. 2Ti 2:15; Esei 61:1-3
Dilyn patrwm Crist o bregethu. 1Pe 2:21; 2Ti 4:2, 5
Mae Duw yn defnyddio’i ysbryd a’i gyfundrefn i hyfforddi. In 14:26; 2Co 3:1-3
23. Gwrthwynebiad, Erledigaeth
A. Rheswm dros wrthwynebiad yn erbyn Cristnogion
Roedd pobl yn casáu Iesu; rhagfynegodd Iesu erledigaeth. In 15:18-20; Mth 10:22
Mae cadw at egwyddorion cyfiawn yn cyhuddo’r byd. 1Pe 4:1, 4, 12, 13
Satan yw duw y drefn bresennol, yn gwrthwynebu’r Deyrnas. 2Co 4:4; 1Pe 5:8
Nid yw Cristion yn ofni erledigaeth, Duw sy’n cynnal. Rhu 8:38, 39; Iag 4:8
B. Ni ddylai gwraig ganiatáu i’w gŵr ei gwahanu hi oddi wrth Dduw
Rhybudd; efallai bod eraill wedi camarwain ei gŵr. Mth 10:34-38; Act 28:22
Rhaid iddi ymddiried yn Nuw ac yng Nghrist. In 6:68; 17:3
Trwy ei ffyddlondeb hi, efallai caiff ef ei achub. 1Co 7:16; 1Pe 3:1-6
Pen y teulu yw’r gŵr, ond ni ddylai orfodi addoliad. 1Co 11:3; Act 5:29
C. Ni ddylai gŵr ganiatáu i’w wraig ei rwystro rhag gwasanaethu Duw
Rhaid iddo garu ei wraig a’i deulu, yn dymuno iddynt fyw. 1Co 7:16
Yn gyfrifol i ddarparu ac i wneud penderfyniadau. 1Co 11:3; 1Ti 5:8
Mae Duw yn caru’r dyn sy’n dal ei dir am y gwir. Iag 1:12; 5:10, 11
Mae rhywun sy’n cyfaddawdu er mwyn heddwch yn colli ffafr Duw. Heb 10:38
Arwain y teulu at hapusrwydd yn y byd newydd. Dat 21:3, 4
24. Gwyliau, Pen Blwydd
A. Pen Blwydd, Nadolig, nid oedd Cristnogion cynnar yn eu dathlu
Roedd anghredinwyr yn eu dathlu. Ge 40:20; Mth 14:6
Dylid coffáu dydd marwolaeth Iesu. Lc 22:19, 20; 1Co 11:25, 26
Mae partïon gwyllt yn anweddus. Rhu 13:13; Ga 5:21; 1Pe 4:3
25. Iacháu, Tafodau
A. Mae buddion iacháu ysbrydol yn barhaol
Mae salwch ysbrydol yn niweidiol. Esei 1:4-6; 6:10; Ho 4:6
Prif ofyniad yw iacháu’n ysbrydol. In 6:63; Lc 4:18
Mae’n dileu pechod; yn rhoi hapusrwydd a bywyd. Iag 5:19, 20; Dat 7:14-17
B. Bydd Teyrnas Dduw yn cael gwared ar afiechydon corfforol am byth
Iachaodd Iesu bob afiechyd, pregethodd am fendithion y Deyrnas. Mth 4:23
Yn y tymor hir, yr ateb yw’r Deyrnas. Mth 6:10; Esei 9:7
Bydd hyd yn oed diwedd ar farwolaeth. 1Co 15:25, 26; Dat 21:4; 20:14
C. Yn yr oes hon, nid yw iacháu drwy ffydd yn dystiolaeth o gymeradwyaeth ddwyfol
Nid oedd y disgyblion yn defnyddio gwyrthiau i’w hiacháu eu hunain. 2Co 12:7-9; 1Ti 5:23
Daeth terfyn i’r doniau gwyrthiol ar ôl oes yr apostolion. 1Co 13:8-11
Nid yw iacháu yn dystiolaeth bendant o ffafr Duw. Mth 7:22, 23; 2The 2:9-11
CH. Darpariaeth dros dro yn unig oedd siarad mewn tafodau
Arwydd oedd honno; mae yna ddoniau gwell i’w ceisio. 1Co 14:22; 12:30, 31
Dywedwyd o flaen llaw y byddai’r doniau gwyrthiol yn dod i ben. 1Co 13:8-10
Nid yw eu harwyddion mawr yn profi bod ganddyn nhw ffafr Duw. Mth 7:22, 23; 24:24
26. Iachawdwriaeth
A. Daw iachawdwriaeth gan Dduw drwy bridwerth Iesu
Mae bywyd yn rhodd gan Dduw drwy ei Fab. 1In 4:9, 14; Rhu 6:23
Dim ond drwy aberth Iesu y daw iachawdwriaeth. Act 4:12
Nid oes gweithredoedd mewn “cyffes gwely angau.” Iag 2:14, 26
Rhaid ymdrechu i gael eich achub. Lc 13:23, 24; 1Ti 4:10
B. Nid yw iachawdwriaeth yn ganiataol
Gall yr eneiniog gwympo’n ysbrydol. Heb 6:4, 6; 1Co 9:27
Cafodd llawer o’r Israeliaid eu dinistrio ar ôl cael eu hachub o’r Aifft. Jwd 5
Mae’n rhaid dyfalbarhau hyd at y diwedd. Php 2:12; 3:12-14; Mth 10:22
Ar ôl dod i adnabod Duw, mae’r rhai sy’n cefnu arno yn waeth nag ar y dechrau. 2Pe 2:20, 21
C. Ni fydd pawb yn cael eu hachub
Mae’n amhosibl i rai edifarhau. Heb 6:4-6
Dydy Duw ddim yn ymhyfrydu ym marwolaeth y drwg. Esec 33:11; 18:32
Ond dydy cariad ddim yn esgusodi anghyfiawnder. Heb 1:9
Bydd y drwg yn cael eu dinistrio. Heb 10:26-29; Dat 20:7-15
27. Iesu
A. Iesu yn Fab Duw ac yn Frenin penodedig
Drwy Iesu, y cyntaf-anedig, creodd Duw bopeth arall. Dat 3:14; Col 1:15-17
Cafodd ei eni o wraig ac yn is na’r angylion. Ga 4:4; Heb 2:9
Cafodd ei eni o ysbryd Duw, ei ddyfodol yn y nefoedd. Mth 3:16, 17
Cafodd ei ddyrchafu yn uwch na chyn iddo ddod i’r ddaear. Php 2:9, 10
B. Credu yn Iesu yn hanfodol er mwyn cael iachawdwriaeth
Crist yw Had addawedig Abraham. Ge 22:18; Ga 3:16
Iesu yw’r unig Archoffeiriad, pridwerth. 1In 2:1, 2; Heb 7:25, 26; Mth 20:28
Bywyd trwy adnabod Duw a Christ, a bod yn ufudd. In 17:3; Act 4:12
C. Nid yw credu yn Iesu yn ddigon
Angen gweithredoedd yn ogystal â ffydd. Iag 2:17-26; 1:22-25
Rhaid cadw gorchmynion, efelychu ei weithredoedd. In 14:12, 15; 1In 2:3
Nid pawb sy’n defnyddio enw’r Arglwydd fydd yn mynd i mewn i’r Deyrnas. Mth 7:21-23
28. Jehofah, Duw
A. Enw Duw
Mae “Duw” yn deitl amhersonol; mae gan ein Harglwydd enw personol. 1Co 8:5, 6
Gweddïwn arno i sancteiddio’i enw. Mth 6:9, 10
Jehofah yw enw Duw. Gweler BCND, “Rhagarweiniad i’r Hen Destament,” tudalen xxix, paragraff tri. Sal 83:18; Ex 6:2, 3; 3:15; Esei 42:8
Enw yn BC. Ex 6:3; Sal 83:18
Hysbysebodd Iesu enw Duw. In 17:6, 26; 5:43; 12:12, 13, 28
B. Bodolaeth Duw
Mae’n amhosibl gweld Duw a byw. Ex 33:20; In 1:18; 1In 4:12
Nid oes rhaid gweld Duw i gredu. Heb 11:1; Rhu 8:24, 25; 10:17
Mae’n bosibl dod i adnabod Duw drwy ei weithredoedd gweladwy. Rhu 1:20; Sal 19:1, 2
Mae cyflawniad proffwydoliaeth yn profi bodolaeth Duw. Esei 46:8-11
C. Rhinweddau Duw
Cariad yw Duw. 1In 4:8, 16; Ex 34:6; 2Co 13:11; Mich 7:18
Yn rhagori mewn doethineb. Job 12:13; Rhu 11:33; 1Co 2:7
Yn gyfiawn. De 32:4; Sal 37:28
Yn hollalluog, y mwyaf nerthol. Job 37:23; Dat 7:12; 4:11
CH. Nid yw pawb yn gwasanaethu’r un Duw
Nid yw pob ffordd sy’n ymddangos yn dda yn gyfiawn. Dia 16:25; Mth 7:21
Dim ond un o’r ddwy ffordd yn arwain at fywyd. Mth 7:13, 14; De 30:19
Llawer o dduwiau, dim ond un gwir Dduw. 1Co 8:5, 6; Sal 82:1
Adnabod y gwir Dduw yn hanfodol er mwyn byw. In 17:3; 1In 5:20
29. Marwolaeth
A. Y rheswm dros farwolaeth
Roedd gan ddyn ddechreuad perffaith, y gobaith o fyw am byth. Ge 1:28, 31
Daeth marwolaeth oherwydd anufudd-dod. Ge 2:16, 17; 3:17, 19
Mae pob un o blant Adda wedi etifeddu pechod a marwolaeth. Rhu 5:12
B. Cyflwr y meirw
Crëwyd Adda i fod yn enaid, ni roddwyd enaid iddo. Ge 2:7, BC; 1Co 15:45, BC
Y dyn, yr enaid sy’n marw. Esec 18:4; Act 3:23; Iag 5:20
Mae’r meirw yn anymwybodol, yn gwybod dim. Pre 9:5, 10; Sal 146:3, 4
Y meirw yn cysgu, yn aros am atgyfodiad. In 11:11-14, 23-26; Act 7:60
C. Mae’n amhosibl siarad â’r meirw
Nid ysbrydion yw’r meirw yn byw gyda Duw. Sal 115:17; Esei 38:18
Rhybudd yn erbyn ceisio siarad â’r meirw. Esei 8:19; Le 19:31
Condemnir cyfryngwyr ysbrydion, a phobl sy’n dweud ffortiwn. De 18:10-12; Ga 5:19-21
30. Nefoedd
A. Dim ond 144,000 yn mynd i’r nefoedd
Rhif penodedig; yn teyrnasu gyda Christ. Dat 5:9, 10; 20:4
Iesu oedd ar y blaen; eraill yn cael eu dewis ers hynny. Col 1:18; 1Pe 2:21
Bydd llawer mwy yn byw ar y ddaear. Sal 72:8; Dat 21:3, 4
Mae’r 144,000 mewn safle unigryw. Dat 14:1, 3; 7:4, 9
31. Pechod
A. Ystyr pechod
Torri cyfraith Duw, ei safon berffaith. 1In 3:4; 5:17
Pobl yn atebol i Dduw, eu Creawdwr. Rhu 14:12; 2:12-15
Pobl yn ymwybodol o bechod drwy’r Gyfraith. Ga 3:19; Rhu 3:20
Pawb yn pechu, methu safon berffaith Duw. Rhu 3:23; Sal 51:5
B. Sut mae pechod Adda yn effeithio ar bawb
Trosglwyddodd Adda bechod a marwolaeth i bawb. Rhu 5:12, 18
Duw yn amyneddgar wrth bobl amherffaith. Sal 103:8, 10, 14, 17
Aberth Iesu yn gymod dros bechodau. 1In 2:2
Iesu i ddileu pechod a phob gweithred y Diafol. 1In 3:8
C. Nid rhyw, ond anufudd-dod oedd bwyta ffrwyth y goeden
Y gorchymyn ynglŷn â’r goeden cyn creadigaeth Efa. Ge 2:17, 18
Pwrpas Duw oedd i Adda ac Efa gael plant. Ge 1:28
Nid canlyniad pechod yw plant ond bendith oddi wrth Dduw. Sal 127:3-5
Pechodd Efa pan oedd ar ei phen ei hun; yn annibynnol. Ge 3:6; 1Ti 2:11-14
Gwrthryfelodd Adda, pen y teulu, yn erbyn cyfraith Duw. Rhu 5:12, 19
CH. Ystyr pechu yn erbyn yr ysbryd glân (Mth 12:32; Mc 3:28, 29)
Nid yw’r un fath â phechod etifeddol. Rhu 5:8, 12, 18; 1In 5:17
Posibl i adfer un sy’n tristáu’r ysbryd. Eff 4:30; Iag 5:19, 20
Mae dal ati i bechu’n fwriadol yn arwain at farwolaeth. 1In 3:6-9
Duw yn barnu’r rhain, yn dal ei ysbryd yn ôl oddi wrthynt. Heb 6:4-8
Ni ddylem weddïo dros bobl ddiedifar. 1In 5:16, 17
32. Priodas
A. Rhaid i briodas fod yn barchus
I’w chymharu â Christ a’i briodferch. Eff 5:22, 23
Rhaid i briodas fod yn ddihalog. Heb 13:4
Cyngor i beidio ag ymwahanu. 1Co 7:10-16
Porneia yw’r unig sail Ysgrythurol dros ysgaru. Mth 19:9
B. Rhaid i Gristnogion barchu egwyddor penteuluaeth
Dylai’r gŵr, y pen, garu a gofalu am ei deulu. Eff 5:23-31
Mae’r wraig yn ymostyngar i’w gŵr, yn ei garu, ac yn ufudd iddo. 1Pe 3:1-7; Eff 5:22
Rhaid i’r plant fod yn ufudd. Eff 6:1-3; Col 3:20
C. Cyfrifoldeb rhieni Cristnogol i’w plant
Rhaid rhoi sylw ac amser i’w plant, a’u caru. Tit 2:4
Paid â gwylltio plant. Col 3:21
Darparu, gan gynnwys pethau ysbrydol. 2Co 12:14; 1Ti 5:8
Hyfforddi ar gyfer bywyd. Eff 6:4; Dia 22:6, 15; 23:13, 14
CH. Dylai Cristnogion briodi Cristnogion eraill yn unig
Priodi “yn yr Arglwydd” yn unig. 1Co 7:39; De 7:3, 4; Ne 13:26
D. Mae bod yn briod â mwy nag un wraig ar yr un pryd yn anysgrythurol
Un wraig yn unig oedd gan y dyn cyntaf. Ge 2:18, 22-25
Adferodd Iesu’r safon ar gyfer Cristnogion. Mth 19:3-9
Nid oedd y Cristnogion cynnar yn priodi mwy nag un wraig. 1Co 7:2, 12-16; Eff 5:28-31
33. Saboth
A. Nid yw’n hanfodol i Gristnogion gadw’r Saboth
Cafodd y Gyfraith ei dileu ar sail marwolaeth Iesu. Eff 2:15
Nid yw’n hanfodol i Gristnogion gadw’r Saboth. Col 2:16, 17; Rhu 14:5, 10
Cerydd am gadw’r Saboth. Ga 4:9-11; Rhu 10:2-4
Rhannu gorffwysfa Duw drwy ffydd ac ufudd-dod. Heb 4:9-11
B. Dim ond yr Israeliaid gynt oedd yn gorfod cadw’r Saboth
Saboth cyntaf ar ôl ymadael â’r Aifft. Ex 16:26, 27, 29, 30
Yn arwydd, gyda phobl Israel yn unig. Ex 31:16, 17; Sal 147:19, 20
O dan y Gyfraith, roedd rhaid cadw blynyddoedd Saboth. Ex 23:10, 11; Le 25:3, 4
Nid yw’r Saboth yn hanfodol ar gyfer Cristnogion. Rhu 14:5, 10; Ga 4:9-11
C. Gorffwysfa Duw ar y Saboth (7fed dydd “wythnos” y creu)
Dechreuodd ar ôl creu popeth ar y ddaear. Ge 2:2, 3; Heb 4:3-5
Parhaodd ar ôl i Iesu fod ar y ddaear. Heb 4:6-8; Sal 95:7-9, 11
Mae Cristnogion yn gorffwys o weithredoedd hunanol. Heb 4:9, 10
Yn gorffen ar ôl i’r Deyrnas gwblhau ei phwrpas ar gyfer y ddaear. 1Co 15:24, 28
34. Tystiolaethu
A. Rhaid i bob Cristion tystiolaethu, pregethu’r newyddion da
Er mwyn cael ein cymeradwyo, rhaid cydnabod Iesu gerbron pobl. Mth 10:32
Rhaid dangos ffydd, rhoi Gair Duw ar waith. Iag 1:22-24; 2:24
Dylai rhai newydd hefyd fod yn athrawon. Mth 28:19, 20
Daw iachawdwriaeth drwy siarad am ein ffydd. Rhu 10:10
B. Angen i alw dro ar ôl tro, tystiolaethu parhaol
Rhaid rhoi rhybudd am ddiwedd y drefn hon. Mth 24:14
Cyhoeddodd Jeremeia ddiwedd Jerwsalem am flynyddoedd. Jer 25:3
Ni allwn beidio â thystiolaethu, fel y Cristnogion cynnar. Act 4:18-20; 5:28, 29
C. Rhaid tystiolaethu i fod yn rhydd o fod yn waed-euog
Rhaid rhybuddio am y diwedd. Esec 33:7; Mth 24:14
Methiant yn gwneud un yn waed-euog. Esec 33:8, 9; 3:18, 19
Drwy beidio â dal yn ôl, roedd Paul yn rhydd o fod yn waed-euog. Act 20:26, 27; 1Co 9:16
Yn achub y tyst a’r gwrandawr. 1Ti 4:16; 1Co 9:22
35. Tystion Jehofah
A. Hanes Tystion Jehofah
Jehofah ei hun sy’n enwi ei dystion. Esei 43:10-12; Jer 15:16
Y tyst cyntaf oedd Abel. Heb 11:4, 39; 12:1
Iesu yn dyst ffyddlon a gwir. In 18:37; Dat 1:5; 3:14
36. Uffern (Hades, Sheol)
A. Nid yw’n lle tanllyd llythrennol er mwyn poenydio
Gweddïodd Job druan i fynd yno. Job 14:13
Man segur. Sal 6:5; Pre 9:10; Esei 38:18, 19
Cafodd Iesu ei godi o’r bedd, uffern. Act 2:27, 31, 32; Sal 16:10, BC
Ar ôl gollwng y meirw, bydd uffern yn cael ei dinistrio. Dat 20:13, 14, BC
B. Mae tân yn symbol o lwyr ddinistriad
Mae cosb o farwolaeth yn cael ei chynrychioli gan dân. Mth 25:41, 46; 13:30
Bydd y diedifar yn cael eu dinistrio am byth fel petai gan dân. Heb 10:26, 27
Mae Satan yn wynebu “poenydio” tanllyd, sef marwolaeth am byth. Dat 20:10, 14, 15
C. Nid yw’r ddameg ynglŷn â Lasarus a’r dyn cyfoethog yn profi poenydio am byth
Dydy’r tân ddim yn llythrennol, fel nad yw bod wrth ochr Abraham yn llythrennol. Lc 16:22-24
Gwahaniaeth rhwng ffafr Abraham a’r tywyllwch. Mth 8:11, 12
Disgrifir dinistr Babilon fel poenedigaeth danllyd. Dat 18:8-10, 21
37. Y Deyrnas
A. Yr hyn bydd Teyrnas Dduw yn ei gwneud ar gyfer dynolryw
Cyflawni ewyllys Duw. Mth 6:9, 10; Sal 45:6; Dat 4:11
Llywodraeth â brenin a chyfraith. Esei 9:6, 7; 2:3; Sal 72:1, 8
Dileu drwg, teyrnasu’r holl ddaear. Da 2:44; Sal 72:8
1,000 o flynyddoedd i adfer dynolryw, Paradwys. Dat 21:2-4; 20:6
B. Dechrau teyrnasu tra bod gelynion Crist yn bodoli
Disgwyliodd Crist am hir ar ôl ei atgyfodiad. Sal 110:1; Heb 10:12, 13
Derbyn awdurdod, rhyfela yn erbyn Satan. Sal 110:2; Dat 12:7-9; Lc 10:18
Daeth gwae ar y ddaear ar ôl i’r Deyrnas gael ei sefydlu. Dat 12:10, 12
Amser heddiw, ymysg yr helynt, i sefyll o blaid y Deyrnas. Dat 11:15-18
C. Nid yng nghalonnau, nid trwy ymdrechion dynion
Y Deyrnas yn y nefoedd, nid ar y ddaear. 2Ti 4:18; 1Co 15:50; Sal 11:4
Nid yng nghalonnau; roedd Iesu’n siarad â’r Phariseaid. Lc 17:20, 21
Nid yw’n rhan o’r byd hwn. In 18:36; Lc 4:5-8; Da 2:44
Disodli llywodraethau a safonau’r byd. Da 2:44
38. Y Diafol, Cythreuliaid
A. Mae’r Diafol yn ysbryd
Nid yw’n ddrwg y tu mewn i rywun, ond yn fod, yn ysbryd. 2Ti 2:26
Mae’r Diafol yn berson, fel mae’r angylion. Mth 4:1, 11; Job 1:6
Gwnaeth ei hun yn Ddiafol oherwydd chwant drwg. Iag 1:13-15
B. Y Diafol yw rheolwr anweledig y byd
Mae’n dduw dros y byd sydd o dan ei reolaeth. 2Co 4:4; 1In 5:19; Dat 12:9
Mae Duw’n caniatáu iddo aros nes i’r ddadl cael ei datrys. Ex 9:16; In 12:31
I’w garcharu, yna’i ddinistrio. Dat 20:2, 3, 10
C. Mae’r cythreuliaid yn angylion gwrthryfelgar
Ymunodd y cythreuliaid â Satan cyn y Dilyw. Ge 6:1, 2; 1Pe 3:19, 20
Wedi’u torri ymaith o oleuni Duw, a’u diraddio. 2Pe 2:4; Jwd 6
Yn ymladd yn erbyn Duw, yn gormesu’r ddynolryw. Lc 8:27-29; Dat 16:13, 14
I’w dinistrio gyda Satan. Mth 25:41; Lc 8:31; Dat 20:2, 3, 10
39. Y Drindod
A. Duw, y Tad, un Person, mwyaf yn y bydysawd
Un yw Duw nid tri. De 6:4; Mal 2:10; Mc 10:18; Rhu 3:29, 30
Duw ar ei ben ei hun cyn creu ei Fab. Dat 3:14; Col 1:15; Esei 44:6
Duw yn teyrnasu’r bydysawd drwy’r amser. Php 2:5, 6; Da 4:35
Dylai Duw gael ei ddyrchafu dros bopeth a phawb. Php 2:10, 11
B. Mab yn is na’r Tad cyn iddo ddod i’r ddaear, ac ar ôl iddo ddychwelyd i’r nefoedd
Mab yn ufudd yn y nefoedd, cafodd ei anfon gan y Tad. In 8:42; 12:49
Yn ufudd ar y ddaear, y Tad yn fwy. In 14:28; 5:19; Heb 5:8
Er iddo gael ei ddyrchafu yn y nefoedd, dal o dan reolaeth y Tad. Php 2:9; 1Co 15:28; Mth 20:23
Jehofah yn Dduw i Grist ac yn ben arno. 1Co 11:3; In 20:17; Dat 1:6
C. Undod Duw a Christ
Wastad yn gytûn â’i gilydd. In 8:28, 29; 14:10
Undod yn debyg i ŵr a gwraig. In 10:30; Mth 19:4-6
Dylai addolwyr hefyd fod yn un, fel y nhw. In 17:20-22; 1Co 1:10
Dim ond Jehofah fydd yn cael ei addoli mewn ysbryd a gwirionedd am byth. In 4:23, 24
CH. Ysbryd glân Duw yn rym gweithredol
Yn rym, nid yn berson. Mth 3:16; In 20:22; Act 2:4, 17, 33
Nid yw’n berson yn y nef gyda Duw a Christ. Act 7:55, 56; Dat 7:10
Yn cael ei anfon gan Dduw i gyflawni Ei bwrpas. Sal 104:30, BC; 1Co 12:4-11
Addolwyr Duw yn derbyn yr ysbryd ac yn cael eu harwain ganddo. 1Co 2:12, 13; Ga 5:16
40. Y Ddaear
A. Pwrpas Duw ar gyfer y ddaear
Paradwys ar y ddaear ar gyfer pobl berffaith. Ge 1:28; 2:8-15
Pwrpas Duw yn bendant. Esei 55:11; 46:10, 11
Bydd y ddaear yn llawn pobl berffaith heddychol. Sal 72:7; Esei 45:18; 9:6, 7
Y Deyrnas a fydd yn adfer y Baradwys. Mth 6:9, 10; Dat 21:3-5
B. Ni fydd yn cael ei dinistrio na’i diboblogi
Mae’r ddaear yn aros am byth. Pre 1:4; Sal 104:5
Dynolryw adeg Noa a gafodd ei dinistrio, nid y ddaear. 2Pe 3:5-7; Ge 7:23
Mae’r hanes yn rhoi gobaith o oroesi yn ein hadeg ni. Mth 24:37-39
Dinistrio’r drygionus; y “dyrfa fawr” yn goroesi. 2The 1:6-9; Dat 7:9, 14
41. Y Groes
A. Hoeliwyd Iesu ar bren artaith fel gwarth
Cafodd Iesu ei hoelio ar bren artaith neu goeden. Act 5:30; 10:39; Ga 3:13
Rhaid i Gristnogion ddioddef gwarth hefyd. In 15:20; 1Pe 2:20, 21
B. Ni ddylem addoli’r groes
Gwarth yw pren artaith Iesu. Heb 6:6; Mth 27:41, 42
Mae defnyddio’r groes i addoli yn eilunaddoliaeth. Ex 20:4, 5; Jer 10:3-5
Mae Iesu nawr yn ysbryd, nid yw’n crogi ar bren. 1Ti 3:16; 1Pe 3:18
42. Y Pridwerth
A. Bywyd dynol Iesu yn “bridwerth dros lawer”
Rhoddodd Iesu ei fywyd yn bridwerth. Mth 20:28
Maddeuant pechod drwy werth gwaed Iesu. Heb 9:14, 22
Un aberth oedd yn ddigon am byth. Rhu 6:10; Heb 9:26
Bendithion ddim yn ganiataol; rhaid credu. In 3:16
B. Pris cyfatebol
Cafodd Adda ei greu yn berffaith. De 32:4; Pre 7:29; Ge 1:31
Collodd berffeithrwydd iddo’i hun a’i blant. Rhu 5:12, 18
Plant yn ddi-help; angen rhywun cyfartal ag Adda. Sal 49:7; De 19:21
Bywyd dynol perffaith Iesu yn bridwerth. 1Ti 2:5, 6; 1Pe 1:18, 19
43. Yr Eglwys
A. Mae’r eglwys yn ysbrydol, y sylfaen yw Crist
Nid yw Duw yn preswylio mewn temlau o waith llaw dynion. Act 17:24, 25; 7:48
Teml ysbrydol wedi’i gwneud o feini byw yw’r gwir eglwys. 1Pe 2:5, 6
Crist yw’r conglfaen, yr apostolion yn ail sylfaen. Eff 2:20
Rhaid addoli Duw mewn ysbryd a gwirionedd. In 4:24
B. Nid adeiladwyd yr eglwys ar Pedr
Ni ddywedodd Iesu mai Pedr oedd sylfaen yr eglwys. Mth 16:18
Iesu yw “y graig honno.” 1Co 10:4
Dywedodd Pedr mai Iesu yw’r sylfaen. 1Pe 2:4, 6-8; Act 4:8-12
44. Ysbryd, Ysbrydegaeth
A. Ystyr ysbryd glân
Nid yw grym gweithredol Duw yn berson. Act 2:2, 3, 33; In 14:17
Cafodd ei ddefnyddio yn ystod y creu ac i ysbrydoli’r Beibl. Ge 1:2; Esec 11:5
Yn eneinio brodyr Crist. In 3:5-8; 2Co 1:21, 22
Yn arwain, yn atgyfnerthu pobl Dduw heddiw. Ga 5:16, 18
B. Grym bywyd yn cael ei alw’n ysbryd
Grym bywyd yn cael ei gynnal gan anadlu. Job 27:3
Duw sy’n rheoli grym bywyd. Sech 12:1
Grym bywyd anifeiliaid a dynion yn perthyn i Dduw. Pre 3:19-21
Ysbryd yng ngofal Duw; gobaith o atgyfodiad. Lc 23:46
C. Rhaid gwrthod ysbrydegaeth, gwaith y cythreuliaid
Gair Duw yn ei gwahardd. Esei 8:19, 20; Le 19:31; 20:6, 27
Dweud ffortiwn yn ysbrydegaeth; fe’i condemnir. Act 16:16-18
Arwain at ddinistr. Ga 5:19-21; Dat 21:8; 22:15
Gwahardd sêr-ddewiniaeth. De 18:10-12; Jer 10:2