LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • td tt. 3-15
  • Testunau Trafod o’r Beibl

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Testunau Trafod o’r Beibl
  • Testunau Trafod o’r Beibl
  • Isbenawdau
  • 1. Addoli Cyndadau
  • 2. Addoli Gyda Phobl o Grefyddau Eraill
  • 3. Addoli Mair
  • 4. Armagedon
  • 5. Atgyfodiad
  • 6. Bedydd
  • 7. Beibl
  • 8. Bywyd
  • 9. Coffadwriaeth, Offeren
  • 10. Creadigaeth
  • 11. Crefydd
  • 12. Cronoleg
  • 13. Delwau
  • 14. Drygioni, Gofid y Byd
  • 15. Dychweliad Crist
  • 16. Dyddiau Diwethaf
  • 17. Enaid
  • 18. Ffawd, Rhagarfaeth
  • 19. Gau Broffwydi
  • 20. Gwaed
  • 21. Gweddi
  • 22. Gweinidog
  • 23. Gwrthwynebiad, Erledigaeth
  • 24. Gwyliau, Pen Blwydd
  • 25. Iacháu, Tafodau
  • 26. Iachawdwriaeth
  • 27. Iesu
  • 28. Jehofah, Duw
  • 29. Marwolaeth
  • 30. Nefoedd
  • 31. Pechod
  • 32. Priodas
  • 33. Saboth
  • 34. Tystiolaethu
  • 35. Tystion Jehofah
  • 36. Uffern (Hades, Sheol)
  • 37. Y Deyrnas
  • 38. Y Diafol, Cythreuliaid
  • 39. Y Drindod
  • 40. Y Ddaear
  • 41. Y Groes
  • 42. Y Pridwerth
  • 43. Yr Eglwys
  • 44. Ysbryd, Ysbrydegaeth
Testunau Trafod o’r Beibl
td tt. 3-15

Testunau Trafod o’r Beibl

1. Addoli Cyndadau

A. Mae addoli cyndadau yn ofer

Mae ein cyndadau wedi marw, yn anymwybodol. Pre 9:5, 10

Nid yw ein cyndadau gwreiddiol yn haeddu addoliad. Rhu 5:12, 14; 1Ti 2:14

Mae Duw yn gwahardd addoliad o’r fath. Ex 34:14, 15; Mth 4:10

B. Gallwn anrhydeddu pobl, ond dylem addoli Duw yn unig

Dylai pobl ifanc barchu pobl hŷn. 1Ti 5:1, 2, 17; Eff 6:1-3

Dylem addoli Duw yn unig. Act 10:25, 26; Dat 22:8, 9

2. Addoli Gyda Phobl o Grefyddau Eraill

A. Nid ffordd Dduw yw ymuno â chrefyddau eraill

Un ffordd yn unig, mae’n gul, ychydig sy’n ei darganfod. Eff 4:4-6; Mth 7:13, 14

Rhybudd bod gau ddysgeidiaeth yn llygru. Mth 16:6, 12; Ga 5:9

Gorchymyn i fod ar wahân. 2Ti 3:5; 2Co 6:14-17; Dat 18:4

B. Nid oes da ym mhob crefydd

Mae rhai yn selog ond nid yn unol â Duw. Rhu 10:2, 3

Mae drwg yn difetha’r hyn sy’n dda. 1Co 5:6; Mth 7:15-17

Mae gau athrawon yn dod â dinistr. 2Pe 2:1; Mth 12:30; 15:14

Mae addoliad pur yn gofyn am ymgysegriad llwyr. De 6:5, 14, 15

3. Addoli Mair

A. Mair mam Iesu, nid “mam Duw”

Nid oedd gan Dduw ddechreuad. Sal 90:2; 1Ti 1:17

Roedd Mair yn fam i Fab Duw, yn ei gyflwr dynol. Lc 1:35

B. Nid oedd Mair yn wyryf am byth

Priododd hi Joseff. Mth 1:19, 20, 24, 25

Roedd ganddi blant eraill heblaw am Iesu. Mth 13:55, 56; Lc 8:19-21

Nid oeddent yn frodyr ysbrydol iddo eto. In 7:3, 5

4. Armagedon

A. Rhyfel Duw i roi terfyn ar ddrygioni

Casglu’r cenhedloedd ynghyd i Armagedon. Dat 16:14, 16

Duw yn ymladd, gan ddefnyddio’i Fab a’r angylion. 2The 1:6-9; Dat 19:11-16

Sut gallwn ni oroesi? Seff 2:2, 3; Dat 7:14

B. Nid yw cariad Duw yn cael ei halogi

Mae’r byd wedi ei lygru i’r eithaf. 2Ti 3:1-5

Mae Duw yn amyneddgar ond mae ei gyfiawnder yn gofyn am weithred. 2Pe 3:9, 15; Lc 18:7, 8

Er mwyn i’r cyfiawn lwyddo, rhaid cael gwared â’r drygionus. Dia 21:18; Dat 11:18

5. Atgyfodiad

A. Gobaith ar gyfer y meirw

Pawb yn y bedd yn cael eu hatgyfodi. In 5:28, 29

Atgyfodiad Iesu yn sicrhau’r addewid. 1Co 15:20-22; Act 17:31

Dim atgyfodiad i’r rhai sy’n pechu yn erbyn yr ysbryd. Mth 12:31, 32

Gobaith y rhai sy’n dangos ffydd yn cael ei sicrhau. In 11:25

B. Atgyfodiad naill ai i’r nef neu i’r ddaear

Trwy Adda mae pawb yn marw; trwy Iesu mae pawb yn fyw. 1Co 15:20-22; Rhu 5:19

Cyrff ysbrydol i’r rhai sy’n cael eu hatgyfodi i’r nef. 1Co 15:40, 42, 44

Bydd y rhai gyda Iesu yn debyg iddo. 1Co 15:49; Php 3:20, 21

Bydd y rhai na fydd yn teyrnasu yn byw ar y ddaear. Dat 20:4b, 5, 13; 21:3, 4

6. Bedydd

A. Gofyniad i Gristnogion

Gosododd Iesu esiampl. Mth 3:13-15; Heb 10:7

Symbol o ymgysegru neu ymwadu. Mth 16:24; 1Pe 3:21

Dim ond i’r rhai sy’n ddigon hen i ddysgu. Mth 28:19, 20; Act 2:41

Trochiad mewn dŵr yw’r ffordd gywir. Act 8:38, 39; In 3:23

B. Nid yw’n glanhau pechodau

Ni chafodd Iesu ei fedyddio i’w lanhau o bechod. 1Pe 2:22; 3:18

Gwaed Iesu sy’n glanhau pob pechod. 1In 1:7

7. Beibl

A. Mae Gair Duw wedi ei ysbrydoli

Cafodd dynion eu hysgogi gan ysbryd Duw i ysgrifennu. 2Pe 1:20, 21

Mae’n cynnwys proffwydoliaethau: Da 8:5, 6, 20-22; Lc 21:5, 6, 20-22; Esei 45:1-4

Mae’r Beibl cyfan wedi ei ysbrydoli ac yn fuddiol. 2Ti 3:16, 17; Rhu 15:4

B. Mae’n rhoi arweiniad ymarferol inni heddiw

Mae anwybyddu egwyddorion y Beibl yn farwol. Rhu 1:28-32

Nid yw doethineb dyn cystal â doethineb y Beibl. 1Co 1:21, 25; 1Ti 6:20

Mae’n ein hamddiffyn rhag y gelyn cryfach. Eff 6:11, 12, 17

Yn arwain dyn ar hyd y ffordd iawn. Sal 119:105; 2Pe 1:19; Dia 3:5, 6

C. Wedi ei ysgrifennu ar gyfer pob cenedl a hil

Dechreuwyd ysgrifennu’r Beibl yn y Dwyrain. Ex 17:14; 24:12, 16; 34:27

Nid ar gyfer Ewropeaid yn unig yw’r ddarpariaeth hon o Dduw. Rhu 10:11-13; Ga 3:28

Mae Duw yn derbyn pobl o bob cenedl. Act 10:34, 35; Rhu 5:18; Dat 7:9, 10

8. Bywyd

A. Bywyd tragwyddol yn sicr i’r ufudd

Duw wedi addo bywyd; nid yw’n gallu dweud celwydd. Tit 1:2; In 10:27, 28

Bywyd tragwyddol yn sicr i’r rhai sy’n ymarfer eu ffydd. In 11:25, 26

Bydd marwolaeth yn cael ei dileu. 1Co 15:26; Dat 21:4; 20:14; Esei 25:8

B. Bywyd nefol dim ond i’r rhai yng nghorff Crist

Duw yn dewis yr aelodau yn ôl ei ddymuniad ef. Mth 20:23; 1Co 12:18

144,000 yn unig yn mynd o’r ddaear. Dat 14:1, 4; 7:2-4; 5:9, 10

Ni fydd hyd yn oed Ioan Fedyddiwr yn y Deyrnas nefol. Mth 11:11

C. Bywyd ar y ddaear i “ddefaid eraill” di-rif

Rhif cyfyngedig yn y nefoedd gyda Iesu. Dat 14:1, 4; 7:2-4

Nid yw’r ‘defaid eraill’ yn frodyr Crist. In 10:16; Mth 25:32, 40

Nifer mawr yn cael eu casglu heddiw i fyw ar y ddaear. Dat 7:9, 15-17

Bydd eraill yn cael eu hatgyfodi i’r ddaear. Dat 20:12; 21:4

9. Coffadwriaeth, Offeren

A. Coffáu Swper yr Arglwydd

I’w gynnal unwaith y flwyddyn ar ddyddiad y Pasg. Lc 22:1, 17-20; Ex 12:14

Coffadwriaeth marwolaeth aberthol Crist. 1Co 11:26; Mth 26:28

Y rhai gyda gobaith nefol sy’n bwyta’r bara ac yfed y gwin. Lc 22:29, 30; 12:32, 37

Sut mae rhywun yn gwybod bod ganddo’r gobaith hwnnw? Rhu 8:15-17

B. Offeren yn anysgrythurol

Nid oes maddeuant pechodau heb dywallt gwaed. Heb 9:22

Crist yw unig Gyfryngwr y cyfamod newydd. 1Ti 2:5, 6; In 14:6

Mae Crist yn y nefoedd; mae’n amhosibl i’w gorff a’i waed fod yn llythrennol yn y bara a’r gwin. Act 3:20, 21

Nid oes angen ailoffrymu aberth Crist. Heb 9:24-26; 10:11-14

10. Creadigaeth

A. Yn cytuno â gwyddoniaeth; yn gwrthbrofi esblygiad

Mae gwyddoniaeth yn cytuno â threfn y greadigaeth. Ge 1:11, 12, 21, 24, 25

Mae deddf Duw “yn ôl eu rhywogaeth” yn wir. Ge 1:11, 12; Iag 3:12

B. Nid dyddiau o 24 awr oedd dyddiau’r greadigaeth

Gall “dydd” fod yn gyfnod o amser. Ge 2:4

Gall un dydd yng ngolwg Duw fod yn amser hir. Sal 90:4; 2Pe 3:8

11. Crefydd

A. Dim ond un wir grefydd

Un gobaith, un ffydd, un bedydd. Eff 4:5, 13

Gorchymyn i wneud disgyblion. Mth 28:19; Act 8:12; 14:21

Adnabod wrth ei ffrwyth. Mth 7:19, 20; Lc 6:43, 44; In 15:8

Cariad ac undod ymysg ei gilydd. In 13:35; 1Co 1:10; 1In 4:20

B. Mae gau ddysgeidiaethau yn cael eu condemnio

Iesu yn condemnio gau ddysgeidiaeth. Mth 23:15, 23, 24; 15:4-9

Gwnaeth hyn i amddiffyn y dall. Mth 15:14

Y gwir yn eu rhyddhau nhw i fod yn ddisgyblion Iesu. In 8:31, 32

C. Angenrheidiol i newid crefydd pe bai wedi ei phrofi’n anghywir

Y gwir yn rhyddhau; yn profi llawer yn anghywir. In 8:31, 32

Gadawodd Israeliaid ac eraill eu crefyddau gynt. Jos 24:15; 2Br 5:17

Newidiodd Cristnogion cynnar eu safbwynt. Ga 1:13, 14; Act 3:17, 19

Newidiodd Paul ei grefydd. Act 26:4-6

Yr holl fyd wedi cael ei dwyllo; rhaid adnewyddu eich meddwl. Dat 12:9; Rhu 12:2

CH. Dydy “da ym mhob crefydd” ddim yn sicrhau ffafr Duw

Mae Duw yn gosod safon addoliad. In 4:23, 24; Iag 1:27

Nid yw’n dda os nad yw yn ôl ewyllys Duw. Rhu 10:2, 3

Gall “gweithredoedd da” gael eu gwrthod. Mth 7:21-23

Adnabod wrth eu ffrwythau. Mth 7:20

12. Cronoleg

A. Amser y Cenhedloedd yn gorffen ym 1914 OG

Toriad yn llinell frenhinol y deyrnas, 607 COG. Esec 21:25-27

Bydd “saith cyfnod” neu “saith amser” yn mynd heibio tan adfer y deyrnas. Da 4:32, 16, 17, Y Beibl Cysegr-lân

Saith = 2 × 3 1/2 amser, neu 2 × 1,260 o ddyddiau. Dat 12:6, 14; 11:2, 3

Blwyddyn am bob diwrnod. [Sef 2,520 o flynyddoedd] Esec 4:6; Nu 14:34

Yr amser yn para tan sefydlu’r Deyrnas. Lc 21:24; Da 7:13, 14

13. Delwau

A. Mae defnyddio delwau neu eilunod i addoli Duw yn amharchus iawn iddo

Mae’n amhosibl i rywun greu delw o Dduw. 1In 4:12; Esei 40:18; 46:5; Act 17:29

Mae Cristnogion yn cael eu rhybuddio rhag defnyddio eilunod. 1Co 10:14; 1In 5:21

Rhaid addoli Duw mewn ysbryd a gwirionedd. In 4:24

B. Roedd eilunaddoliaeth yn farwol i’r Israeliaid

Roedd yn erbyn y Gyfraith i’r Iddewon addoli eilunod. Ex 20:4, 5

Nid ydynt yn clywed na siarad; bydd eu cynhyrchwyr yn mynd yn debyg iddynt. Sal 115:4-8

Roedd yn fagl i’r addolwyr, yn arwain at eu dinistr. Sal 106:36, 40-42; Jer 22:8, 9

C. Mae addoli cynrychiolwyr Duw yn anghyfreithlon

Nid oedd Duw yn caniatáu i bobl ei addoli drwy gynrychiolydd. Esei 42:8

Duw yw’r unig un “sy’n gwrando gweddi.” Sal 65:1, 2

14. Drygioni, Gofid y Byd

A. Yr un sy’n gyfrifol am ofid y byd

Gofid heddiw oherwydd rheolaeth ddrwg. Dia 29:2; 28:28

Tywysog y byd yn elyn i Dduw. 2Co 4:4; 1In 5:19; In 12:31

Y Diafol sy’n gyfrifol am y gwae; ei amser yn fyr. Dat 12:9, 12

Heddwch yn dod ar ôl i’r Diafol gael ei rwymo. Dat 20:1-3; 21:3, 4

B. Rheswm dros ganiatáu drygioni

Diafol yn herio ffyddlondeb creaduriaid Duw. Job 1:11, 12

Cyfle i wir addolwyr ddangos eu ffyddlondeb. Rhu 9:17; Dia 27:11

Y ddadl yn cael ei hateb; profi’r Diafol yn gelwyddwr. In 12:31

Gwobrwyo’r ffyddlon â bywyd tragwyddol. Rhu 2:6, 7; Dat 21:3-5

C. Darpariaeth garedig yw amser y diwedd

Yn debyg i adeg Noa mae’n cymryd amser i rybuddio. Mth 24:14, 37-39

Nid yw Duw yn araf ond yn drugarog. 2Pe 3:9; Esei 30:18

Y Beibl yn ein helpu ni i gadw’n effro. Lc 21:36; 1The 5:4

Ceisiwch ddarpariaeth Duw heddiw i gael eich amddiffyn. Esei 2:2-4; Seff 2:3

CH. Ni fydd dynion yn datrys gofid y byd

Pobl yn ofnus, mewn penbleth. Lc 21:10, 11; 2Ti 3:1-5

Nid dynion ond Teyrnas Dduw a fydd yn llwyddo. Da 2:44; Mth 6:10

Er mwyn byw, ceisiwch heddwch â’r Brenin heddiw. Sal 2:9, 11, 12

15. Dychweliad Crist

A. Anweledig i ddynion

Dywedodd wrth ei ddisgyblion na fydd y byd yn ei weld byth eto. In 14:19

Dim ond ei ddisgyblion a welodd ei esgyniad; bydd ei ddychweliad yn debyg. Act 1:6, 10, 11

Yn y nefoedd, yn ysbryd anweledig. 1Ti 6:14-16; Heb 1:3

Yn dod gydag awdurdod nefol. Da 7:13, 14

B. Adnabod drwy arwyddion gweladwy

Gofynnodd y disgyblion am arwydd o’i bresenoldeb. Mth 24:3

Cristnogion yn “gweld” ei bresenoldeb drwy ddeall. Eff 1:18

Sawl digwyddiad yn profi ei bresenoldeb. Lc 21:10, 11

Gelynion yn “gweld” cyn cael eu dinistrio. Dat 1:7

16. Dyddiau Diwethaf

A. Ystyr ‘diwedd y byd’ (BC)

Diwedd y drefn bresennol. Mth 24:3; 2Pe 3:5-7; Mc 13:4

Nid diwedd y ddaear, ond i’r byd drwg. 1In 2:17

Amser y diwedd cyn dinistr. Mth 24:14

Cyfiawn yn ddiogel; byd newydd yn dilyn. 2Pe 2:9; Dat 7:14-17

B. Angen adnabod arwyddion y dyddiau diwethaf

Rhoddodd Duw arwyddion i’n harwain ni. 2Ti 3:1-5; 1The 5:1-4

Byd yn methu deall y sefyllfa ddifrifol. 2Pe 3:3, 4, 7; Mth 24:39

Nid yw Duw yn oedi, ond yn rhybuddio. 2Pe 3:9

Gwobr i’r effro, y pryderus. Lc 21:34-36

17. Enaid

A. Does dim byd anfarwol o fewn dyn

Does dim enaid anfarwol gan ddyn. Ge 3:19

Does dim byd yn goroesi ar ôl marw. Sal 115:17; Pre 9:5, 10

Doedd gweision Duw ddim yn credu bod rhywbeth yn goroesi ar ôl marw. Sal 6:4, 5; Esei 38:18; In 11:11-14

18. Ffawd, Rhagarfaeth

A. Nid yw bywyd pobl wedi ei ragordeinio

Pwrpas Duw yn sicr. Esei 55:11; Ge 1:28

Dewis gan bob un i wasanaethu Duw. In 3:16; Php 2:12

19. Gau Broffwydi

A. Rhagfynegwyd gau broffwydi; yn bodoli adeg yr apostolion

Rheol i adnabod gau broffwydi. De 18:20-22; Lc 6:26

Rhagfynegwyd; adnabod wrth eu ffrwythau. Mth 24:23-26; 7:15-23

20. Gwaed

A. Mae trallwysiadau yn torri egwyddor sancteiddrwydd gwaed

Dywedwyd wrth Noa fod gwaed yn sanctaidd, ei fod yn fywyd. Ge 9:4, 16

Roedd cyfamod y Gyfraith yn gwahardd bwyta gwaed. Le 17:14; 7:26, 27

Ailadroddwyd y gyfraith i Gristnogion. Act 15:28, 29; 21:25

B. Nid yw achub bywyd yn cyfiawnhau torri cyfraith Duw

Mae’n well bod yn ufudd na rhoi aberth. 1Sa 15:22; Mc 12:33

Mae’n farwol i flaenoriaethu bywyd yn hytrach na chyfraith Duw. Mc 8:35, 36

21. Gweddi

A. Gweddïau mae Duw yn eu clywed

Duw yn gwrando ar weddïau pobl. Sal 145:18; 1Pe 3:12

Nid yw’n gwrando ar yr anghyfiawn oni bai eu bod yn newid. Esei 1:15-17

Rhaid gweddïo yn enw Iesu. In 14:13, 14; 2Co 1:20

Rhaid gweddïo yn unol ag ewyllys Duw. 1In 5:14, 15

Ffydd yn angenrheidiol. Iag 1:6-8

B. Nid yw gweddïo ar Mair neu’r “saint” yn ddilys, ailadrodd yn ofer

Rhaid gweddïo ar Dduw yn enw Iesu. In 14:6, 14; 16:23, 24

Doedd Iesu ddim yn ailadrodd yr un geiriau yn ei weddïau. Cymharwch Mth 6:9-13 â Lc 11:2-4

22. Gweinidog

A. Rhaid i bob Cristion fod yn weinidog

Roedd Iesu yn weinidog Duw. Rhu 15:8, 9, BC; Mth 20:28

Cristnogion yn dilyn ei esiampl. 1Pe 2:21; 1Co 11:1

Rhaid pregethu i gyflawni’r weinidogaeth. 2Ti 4:2, 5; 1Co 9:16

B. Gofynion ar gyfer y weinidogaeth

Ysbryd Duw a gwybod ei Air. 2Ti 2:15; Esei 61:1-3

Dilyn patrwm Crist o bregethu. 1Pe 2:21; 2Ti 4:2, 5

Mae Duw yn defnyddio’i ysbryd a’i gyfundrefn i hyfforddi. In 14:26; 2Co 3:1-3

23. Gwrthwynebiad, Erledigaeth

A. Rheswm dros wrthwynebiad yn erbyn Cristnogion

Roedd pobl yn casáu Iesu; rhagfynegodd Iesu erledigaeth. In 15:18-20; Mth 10:22

Mae cadw at egwyddorion cyfiawn yn cyhuddo’r byd. 1Pe 4:1, 4, 12, 13

Satan yw duw y drefn bresennol, yn gwrthwynebu’r Deyrnas. 2Co 4:4; 1Pe 5:8

Nid yw Cristion yn ofni erledigaeth, Duw sy’n cynnal. Rhu 8:38, 39; Iag 4:8

B. Ni ddylai gwraig ganiatáu i’w gŵr ei gwahanu hi oddi wrth Dduw

Rhybudd; efallai bod eraill wedi camarwain ei gŵr. Mth 10:34-38; Act 28:22

Rhaid iddi ymddiried yn Nuw ac yng Nghrist. In 6:68; 17:3

Trwy ei ffyddlondeb hi, efallai caiff ef ei achub. 1Co 7:16; 1Pe 3:1-6

Pen y teulu yw’r gŵr, ond ni ddylai orfodi addoliad. 1Co 11:3; Act 5:29

C. Ni ddylai gŵr ganiatáu i’w wraig ei rwystro rhag gwasanaethu Duw

Rhaid iddo garu ei wraig a’i deulu, yn dymuno iddynt fyw. 1Co 7:16

Yn gyfrifol i ddarparu ac i wneud penderfyniadau. 1Co 11:3; 1Ti 5:8

Mae Duw yn caru’r dyn sy’n dal ei dir am y gwir. Iag 1:12; 5:10, 11

Mae rhywun sy’n cyfaddawdu er mwyn heddwch yn colli ffafr Duw. Heb 10:38

Arwain y teulu at hapusrwydd yn y byd newydd. Dat 21:3, 4

24. Gwyliau, Pen Blwydd

A. Pen Blwydd, Nadolig, nid oedd Cristnogion cynnar yn eu dathlu

Roedd anghredinwyr yn eu dathlu. Ge 40:20; Mth 14:6

Dylid coffáu dydd marwolaeth Iesu. Lc 22:19, 20; 1Co 11:25, 26

Mae partïon gwyllt yn anweddus. Rhu 13:13; Ga 5:21; 1Pe 4:3

25. Iacháu, Tafodau

A. Mae buddion iacháu ysbrydol yn barhaol

Mae salwch ysbrydol yn niweidiol. Esei 1:4-6; 6:10; Ho 4:6

Prif ofyniad yw iacháu’n ysbrydol. In 6:63; Lc 4:18

Mae’n dileu pechod; yn rhoi hapusrwydd a bywyd. Iag 5:19, 20; Dat 7:14-17

B. Bydd Teyrnas Dduw yn cael gwared ar afiechydon corfforol am byth

Iachaodd Iesu bob afiechyd, pregethodd am fendithion y Deyrnas. Mth 4:23

Yn y tymor hir, yr ateb yw’r Deyrnas. Mth 6:10; Esei 9:7

Bydd hyd yn oed diwedd ar farwolaeth. 1Co 15:25, 26; Dat 21:4; 20:14

C. Yn yr oes hon, nid yw iacháu drwy ffydd yn dystiolaeth o gymeradwyaeth ddwyfol

Nid oedd y disgyblion yn defnyddio gwyrthiau i’w hiacháu eu hunain. 2Co 12:7-9; 1Ti 5:23

Daeth terfyn i’r doniau gwyrthiol ar ôl oes yr apostolion. 1Co 13:8-11

Nid yw iacháu yn dystiolaeth bendant o ffafr Duw. Mth 7:22, 23; 2The 2:9-11

CH. Darpariaeth dros dro yn unig oedd siarad mewn tafodau

Arwydd oedd honno; mae yna ddoniau gwell i’w ceisio. 1Co 14:22; 12:30, 31

Dywedwyd o flaen llaw y byddai’r doniau gwyrthiol yn dod i ben. 1Co 13:8-10

Nid yw eu harwyddion mawr yn profi bod ganddyn nhw ffafr Duw. Mth 7:22, 23; 24:24

26. Iachawdwriaeth

A. Daw iachawdwriaeth gan Dduw drwy bridwerth Iesu

Mae bywyd yn rhodd gan Dduw drwy ei Fab. 1In 4:9, 14; Rhu 6:23

Dim ond drwy aberth Iesu y daw iachawdwriaeth. Act 4:12

Nid oes gweithredoedd mewn “cyffes gwely angau.” Iag 2:14, 26

Rhaid ymdrechu i gael eich achub. Lc 13:23, 24; 1Ti 4:10

B. Nid yw iachawdwriaeth yn ganiataol

Gall yr eneiniog gwympo’n ysbrydol. Heb 6:4, 6; 1Co 9:27

Cafodd llawer o’r Israeliaid eu dinistrio ar ôl cael eu hachub o’r Aifft. Jwd 5

Mae’n rhaid dyfalbarhau hyd at y diwedd. Php 2:12; 3:12-14; Mth 10:22

Ar ôl dod i adnabod Duw, mae’r rhai sy’n cefnu arno yn waeth nag ar y dechrau. 2Pe 2:20, 21

C. Ni fydd pawb yn cael eu hachub

Mae’n amhosibl i rai edifarhau. Heb 6:4-6

Dydy Duw ddim yn ymhyfrydu ym marwolaeth y drwg. Esec 33:11; 18:32

Ond dydy cariad ddim yn esgusodi anghyfiawnder. Heb 1:9

Bydd y drwg yn cael eu dinistrio. Heb 10:26-29; Dat 20:7-15

27. Iesu

A. Iesu yn Fab Duw ac yn Frenin penodedig

Drwy Iesu, y cyntaf-anedig, creodd Duw bopeth arall. Dat 3:14; Col 1:15-17

Cafodd ei eni o wraig ac yn is na’r angylion. Ga 4:4; Heb 2:9

Cafodd ei eni o ysbryd Duw, ei ddyfodol yn y nefoedd. Mth 3:16, 17

Cafodd ei ddyrchafu yn uwch na chyn iddo ddod i’r ddaear. Php 2:9, 10

B. Credu yn Iesu yn hanfodol er mwyn cael iachawdwriaeth

Crist yw Had addawedig Abraham. Ge 22:18; Ga 3:16

Iesu yw’r unig Archoffeiriad, pridwerth. 1In 2:1, 2; Heb 7:25, 26; Mth 20:28

Bywyd trwy adnabod Duw a Christ, a bod yn ufudd. In 17:3; Act 4:12

C. Nid yw credu yn Iesu yn ddigon

Angen gweithredoedd yn ogystal â ffydd. Iag 2:17-26; 1:22-25

Rhaid cadw gorchmynion, efelychu ei weithredoedd. In 14:12, 15; 1In 2:3

Nid pawb sy’n defnyddio enw’r Arglwydd fydd yn mynd i mewn i’r Deyrnas. Mth 7:21-23

28. Jehofah, Duw

A. Enw Duw

Mae “Duw” yn deitl amhersonol; mae gan ein Harglwydd enw personol. 1Co 8:5, 6

Gweddïwn arno i sancteiddio’i enw. Mth 6:9, 10

Jehofah yw enw Duw. Gweler BCND, “Rhagarweiniad i’r Hen Destament,” tudalen xxix, paragraff tri. Sal 83:18; Ex 6:2, 3; 3:15; Esei 42:8

Enw yn BC. Ex 6:3; Sal 83:18

Hysbysebodd Iesu enw Duw. In 17:6, 26; 5:43; 12:12, 13, 28

B. Bodolaeth Duw

Mae’n amhosibl gweld Duw a byw. Ex 33:20; In 1:18; 1In 4:12

Nid oes rhaid gweld Duw i gredu. Heb 11:1; Rhu 8:24, 25; 10:17

Mae’n bosibl dod i adnabod Duw drwy ei weithredoedd gweladwy. Rhu 1:20; Sal 19:1, 2

Mae cyflawniad proffwydoliaeth yn profi bodolaeth Duw. Esei 46:8-11

C. Rhinweddau Duw

Cariad yw Duw. 1In 4:8, 16; Ex 34:6; 2Co 13:11; Mich 7:18

Yn rhagori mewn doethineb. Job 12:13; Rhu 11:33; 1Co 2:7

Yn gyfiawn. De 32:4; Sal 37:28

Yn hollalluog, y mwyaf nerthol. Job 37:23; Dat 7:12; 4:11

CH. Nid yw pawb yn gwasanaethu’r un Duw

Nid yw pob ffordd sy’n ymddangos yn dda yn gyfiawn. Dia 16:25; Mth 7:21

Dim ond un o’r ddwy ffordd yn arwain at fywyd. Mth 7:13, 14; De 30:19

Llawer o dduwiau, dim ond un gwir Dduw. 1Co 8:5, 6; Sal 82:1

Adnabod y gwir Dduw yn hanfodol er mwyn byw. In 17:3; 1In 5:20

29. Marwolaeth

A. Y rheswm dros farwolaeth

Roedd gan ddyn ddechreuad perffaith, y gobaith o fyw am byth. Ge 1:28, 31

Daeth marwolaeth oherwydd anufudd-dod. Ge 2:16, 17; 3:17, 19

Mae pob un o blant Adda wedi etifeddu pechod a marwolaeth. Rhu 5:12

B. Cyflwr y meirw

Crëwyd Adda i fod yn enaid, ni roddwyd enaid iddo. Ge 2:7, BC; 1Co 15:45, BC

Y dyn, yr enaid sy’n marw. Esec 18:4; Act 3:23; Iag 5:20

Mae’r meirw yn anymwybodol, yn gwybod dim. Pre 9:5, 10; Sal 146:3, 4

Y meirw yn cysgu, yn aros am atgyfodiad. In 11:11-14, 23-26; Act 7:60

C. Mae’n amhosibl siarad â’r meirw

Nid ysbrydion yw’r meirw yn byw gyda Duw. Sal 115:17; Esei 38:18

Rhybudd yn erbyn ceisio siarad â’r meirw. Esei 8:19; Le 19:31

Condemnir cyfryngwyr ysbrydion, a phobl sy’n dweud ffortiwn. De 18:10-12; Ga 5:19-21

30. Nefoedd

A. Dim ond 144,000 yn mynd i’r nefoedd

Rhif penodedig; yn teyrnasu gyda Christ. Dat 5:9, 10; 20:4

Iesu oedd ar y blaen; eraill yn cael eu dewis ers hynny. Col 1:18; 1Pe 2:21

Bydd llawer mwy yn byw ar y ddaear. Sal 72:8; Dat 21:3, 4

Mae’r 144,000 mewn safle unigryw. Dat 14:1, 3; 7:4, 9

31. Pechod

A. Ystyr pechod

Torri cyfraith Duw, ei safon berffaith. 1In 3:4; 5:17

Pobl yn atebol i Dduw, eu Creawdwr. Rhu 14:12; 2:12-15

Pobl yn ymwybodol o bechod drwy’r Gyfraith. Ga 3:19; Rhu 3:20

Pawb yn pechu, methu safon berffaith Duw. Rhu 3:23; Sal 51:5

B. Sut mae pechod Adda yn effeithio ar bawb

Trosglwyddodd Adda bechod a marwolaeth i bawb. Rhu 5:12, 18

Duw yn amyneddgar wrth bobl amherffaith. Sal 103:8, 10, 14, 17

Aberth Iesu yn gymod dros bechodau. 1In 2:2

Iesu i ddileu pechod a phob gweithred y Diafol. 1In 3:8

C. Nid rhyw, ond anufudd-dod oedd bwyta ffrwyth y goeden

Y gorchymyn ynglŷn â’r goeden cyn creadigaeth Efa. Ge 2:17, 18

Pwrpas Duw oedd i Adda ac Efa gael plant. Ge 1:28

Nid canlyniad pechod yw plant ond bendith oddi wrth Dduw. Sal 127:3-5

Pechodd Efa pan oedd ar ei phen ei hun; yn annibynnol. Ge 3:6; 1Ti 2:11-14

Gwrthryfelodd Adda, pen y teulu, yn erbyn cyfraith Duw. Rhu 5:12, 19

CH. Ystyr pechu yn erbyn yr ysbryd glân (Mth 12:32; Mc 3:28, 29)

Nid yw’r un fath â phechod etifeddol. Rhu 5:8, 12, 18; 1In 5:17

Posibl i adfer un sy’n tristáu’r ysbryd. Eff 4:30; Iag 5:19, 20

Mae dal ati i bechu’n fwriadol yn arwain at farwolaeth. 1In 3:6-9

Duw yn barnu’r rhain, yn dal ei ysbryd yn ôl oddi wrthynt. Heb 6:4-8

Ni ddylem weddïo dros bobl ddiedifar. 1In 5:16, 17

32. Priodas

A. Rhaid i briodas fod yn barchus

I’w chymharu â Christ a’i briodferch. Eff 5:22, 23

Rhaid i briodas fod yn ddihalog. Heb 13:4

Cyngor i beidio ag ymwahanu. 1Co 7:10-16

Porneia yw’r unig sail Ysgrythurol dros ysgaru. Mth 19:9

B. Rhaid i Gristnogion barchu egwyddor penteuluaeth

Dylai’r gŵr, y pen, garu a gofalu am ei deulu. Eff 5:23-31

Mae’r wraig yn ymostyngar i’w gŵr, yn ei garu, ac yn ufudd iddo. 1Pe 3:1-7; Eff 5:22

Rhaid i’r plant fod yn ufudd. Eff 6:1-3; Col 3:20

C. Cyfrifoldeb rhieni Cristnogol i’w plant

Rhaid rhoi sylw ac amser i’w plant, a’u caru. Tit 2:4

Paid â gwylltio plant. Col 3:21

Darparu, gan gynnwys pethau ysbrydol. 2Co 12:14; 1Ti 5:8

Hyfforddi ar gyfer bywyd. Eff 6:4; Dia 22:6, 15; 23:13, 14

CH. Dylai Cristnogion briodi Cristnogion eraill yn unig

Priodi “yn yr Arglwydd” yn unig. 1Co 7:39; De 7:3, 4; Ne 13:26

D. Mae bod yn briod â mwy nag un wraig ar yr un pryd yn anysgrythurol

Un wraig yn unig oedd gan y dyn cyntaf. Ge 2:18, 22-25

Adferodd Iesu’r safon ar gyfer Cristnogion. Mth 19:3-9

Nid oedd y Cristnogion cynnar yn priodi mwy nag un wraig. 1Co 7:2, 12-16; Eff 5:28-31

33. Saboth

A. Nid yw’n hanfodol i Gristnogion gadw’r Saboth

Cafodd y Gyfraith ei dileu ar sail marwolaeth Iesu. Eff 2:15

Nid yw’n hanfodol i Gristnogion gadw’r Saboth. Col 2:16, 17; Rhu 14:5, 10

Cerydd am gadw’r Saboth. Ga 4:9-11; Rhu 10:2-4

Rhannu gorffwysfa Duw drwy ffydd ac ufudd-dod. Heb 4:9-11

B. Dim ond yr Israeliaid gynt oedd yn gorfod cadw’r Saboth

Saboth cyntaf ar ôl ymadael â’r Aifft. Ex 16:26, 27, 29, 30

Yn arwydd, gyda phobl Israel yn unig. Ex 31:16, 17; Sal 147:19, 20

O dan y Gyfraith, roedd rhaid cadw blynyddoedd Saboth. Ex 23:10, 11; Le 25:3, 4

Nid yw’r Saboth yn hanfodol ar gyfer Cristnogion. Rhu 14:5, 10; Ga 4:9-11

C. Gorffwysfa Duw ar y Saboth (7fed dydd “wythnos” y creu)

Dechreuodd ar ôl creu popeth ar y ddaear. Ge 2:2, 3; Heb 4:3-5

Parhaodd ar ôl i Iesu fod ar y ddaear. Heb 4:6-8; Sal 95:7-9, 11

Mae Cristnogion yn gorffwys o weithredoedd hunanol. Heb 4:9, 10

Yn gorffen ar ôl i’r Deyrnas gwblhau ei phwrpas ar gyfer y ddaear. 1Co 15:24, 28

34. Tystiolaethu

A. Rhaid i bob Cristion tystiolaethu, pregethu’r newyddion da

Er mwyn cael ein cymeradwyo, rhaid cydnabod Iesu gerbron pobl. Mth 10:32

Rhaid dangos ffydd, rhoi Gair Duw ar waith. Iag 1:22-24; 2:24

Dylai rhai newydd hefyd fod yn athrawon. Mth 28:19, 20

Daw iachawdwriaeth drwy siarad am ein ffydd. Rhu 10:10

B. Angen i alw dro ar ôl tro, tystiolaethu parhaol

Rhaid rhoi rhybudd am ddiwedd y drefn hon. Mth 24:14

Cyhoeddodd Jeremeia ddiwedd Jerwsalem am flynyddoedd. Jer 25:3

Ni allwn beidio â thystiolaethu, fel y Cristnogion cynnar. Act 4:18-20; 5:28, 29

C. Rhaid tystiolaethu i fod yn rhydd o fod yn waed-euog

Rhaid rhybuddio am y diwedd. Esec 33:7; Mth 24:14

Methiant yn gwneud un yn waed-euog. Esec 33:8, 9; 3:18, 19

Drwy beidio â dal yn ôl, roedd Paul yn rhydd o fod yn waed-euog. Act 20:26, 27; 1Co 9:16

Yn achub y tyst a’r gwrandawr. 1Ti 4:16; 1Co 9:22

35. Tystion Jehofah

A. Hanes Tystion Jehofah

Jehofah ei hun sy’n enwi ei dystion. Esei 43:10-12; Jer 15:16

Y tyst cyntaf oedd Abel. Heb 11:4, 39; 12:1

Iesu yn dyst ffyddlon a gwir. In 18:37; Dat 1:5; 3:14

36. Uffern (Hades, Sheol)

A. Nid yw’n lle tanllyd llythrennol er mwyn poenydio

Gweddïodd Job druan i fynd yno. Job 14:13

Man segur. Sal 6:5; Pre 9:10; Esei 38:18, 19

Cafodd Iesu ei godi o’r bedd, uffern. Act 2:27, 31, 32; Sal 16:10, BC

Ar ôl gollwng y meirw, bydd uffern yn cael ei dinistrio. Dat 20:13, 14, BC

B. Mae tân yn symbol o lwyr ddinistriad

Mae cosb o farwolaeth yn cael ei chynrychioli gan dân. Mth 25:41, 46; 13:30

Bydd y diedifar yn cael eu dinistrio am byth fel petai gan dân. Heb 10:26, 27

Mae Satan yn wynebu “poenydio” tanllyd, sef marwolaeth am byth. Dat 20:10, 14, 15

C. Nid yw’r ddameg ynglŷn â Lasarus a’r dyn cyfoethog yn profi poenydio am byth

Dydy’r tân ddim yn llythrennol, fel nad yw bod wrth ochr Abraham yn llythrennol. Lc 16:22-24

Gwahaniaeth rhwng ffafr Abraham a’r tywyllwch. Mth 8:11, 12

Disgrifir dinistr Babilon fel poenedigaeth danllyd. Dat 18:8-10, 21

37. Y Deyrnas

A. Yr hyn bydd Teyrnas Dduw yn ei gwneud ar gyfer dynolryw

Cyflawni ewyllys Duw. Mth 6:9, 10; Sal 45:6; Dat 4:11

Llywodraeth â brenin a chyfraith. Esei 9:6, 7; 2:3; Sal 72:1, 8

Dileu drwg, teyrnasu’r holl ddaear. Da 2:44; Sal 72:8

1,000 o flynyddoedd i adfer dynolryw, Paradwys. Dat 21:2-4; 20:6

B. Dechrau teyrnasu tra bod gelynion Crist yn bodoli

Disgwyliodd Crist am hir ar ôl ei atgyfodiad. Sal 110:1; Heb 10:12, 13

Derbyn awdurdod, rhyfela yn erbyn Satan. Sal 110:2; Dat 12:7-9; Lc 10:18

Daeth gwae ar y ddaear ar ôl i’r Deyrnas gael ei sefydlu. Dat 12:10, 12

Amser heddiw, ymysg yr helynt, i sefyll o blaid y Deyrnas. Dat 11:15-18

C. Nid yng nghalonnau, nid trwy ymdrechion dynion

Y Deyrnas yn y nefoedd, nid ar y ddaear. 2Ti 4:18; 1Co 15:50; Sal 11:4

Nid yng nghalonnau; roedd Iesu’n siarad â’r Phariseaid. Lc 17:20, 21

Nid yw’n rhan o’r byd hwn. In 18:36; Lc 4:5-8; Da 2:44

Disodli llywodraethau a safonau’r byd. Da 2:44

38. Y Diafol, Cythreuliaid

A. Mae’r Diafol yn ysbryd

Nid yw’n ddrwg y tu mewn i rywun, ond yn fod, yn ysbryd. 2Ti 2:26

Mae’r Diafol yn berson, fel mae’r angylion. Mth 4:1, 11; Job 1:6

Gwnaeth ei hun yn Ddiafol oherwydd chwant drwg. Iag 1:13-15

B. Y Diafol yw rheolwr anweledig y byd

Mae’n dduw dros y byd sydd o dan ei reolaeth. 2Co 4:4; 1In 5:19; Dat 12:9

Mae Duw’n caniatáu iddo aros nes i’r ddadl cael ei datrys. Ex 9:16; In 12:31

I’w garcharu, yna’i ddinistrio. Dat 20:2, 3, 10

C. Mae’r cythreuliaid yn angylion gwrthryfelgar

Ymunodd y cythreuliaid â Satan cyn y Dilyw. Ge 6:1, 2; 1Pe 3:19, 20

Wedi’u torri ymaith o oleuni Duw, a’u diraddio. 2Pe 2:4; Jwd 6

Yn ymladd yn erbyn Duw, yn gormesu’r ddynolryw. Lc 8:27-29; Dat 16:13, 14

I’w dinistrio gyda Satan. Mth 25:41; Lc 8:31; Dat 20:2, 3, 10

39. Y Drindod

A. Duw, y Tad, un Person, mwyaf yn y bydysawd

Un yw Duw nid tri. De 6:4; Mal 2:10; Mc 10:18; Rhu 3:29, 30

Duw ar ei ben ei hun cyn creu ei Fab. Dat 3:14; Col 1:15; Esei 44:6

Duw yn teyrnasu’r bydysawd drwy’r amser. Php 2:5, 6; Da 4:35

Dylai Duw gael ei ddyrchafu dros bopeth a phawb. Php 2:10, 11

B. Mab yn is na’r Tad cyn iddo ddod i’r ddaear, ac ar ôl iddo ddychwelyd i’r nefoedd

Mab yn ufudd yn y nefoedd, cafodd ei anfon gan y Tad. In 8:42; 12:49

Yn ufudd ar y ddaear, y Tad yn fwy. In 14:28; 5:19; Heb 5:8

Er iddo gael ei ddyrchafu yn y nefoedd, dal o dan reolaeth y Tad. Php 2:9; 1Co 15:28; Mth 20:23

Jehofah yn Dduw i Grist ac yn ben arno. 1Co 11:3; In 20:17; Dat 1:6

C. Undod Duw a Christ

Wastad yn gytûn â’i gilydd. In 8:28, 29; 14:10

Undod yn debyg i ŵr a gwraig. In 10:30; Mth 19:4-6

Dylai addolwyr hefyd fod yn un, fel y nhw. In 17:20-22; 1Co 1:10

Dim ond Jehofah fydd yn cael ei addoli mewn ysbryd a gwirionedd am byth. In 4:23, 24

CH. Ysbryd glân Duw yn rym gweithredol

Yn rym, nid yn berson. Mth 3:16; In 20:22; Act 2:4, 17, 33

Nid yw’n berson yn y nef gyda Duw a Christ. Act 7:55, 56; Dat 7:10

Yn cael ei anfon gan Dduw i gyflawni Ei bwrpas. Sal 104:30, BC; 1Co 12:4-11

Addolwyr Duw yn derbyn yr ysbryd ac yn cael eu harwain ganddo. 1Co 2:12, 13; Ga 5:16

40. Y Ddaear

A. Pwrpas Duw ar gyfer y ddaear

Paradwys ar y ddaear ar gyfer pobl berffaith. Ge 1:28; 2:8-15

Pwrpas Duw yn bendant. Esei 55:11; 46:10, 11

Bydd y ddaear yn llawn pobl berffaith heddychol. Sal 72:7; Esei 45:18; 9:6, 7

Y Deyrnas a fydd yn adfer y Baradwys. Mth 6:9, 10; Dat 21:3-5

B. Ni fydd yn cael ei dinistrio na’i diboblogi

Mae’r ddaear yn aros am byth. Pre 1:4; Sal 104:5

Dynolryw adeg Noa a gafodd ei dinistrio, nid y ddaear. 2Pe 3:5-7; Ge 7:23

Mae’r hanes yn rhoi gobaith o oroesi yn ein hadeg ni. Mth 24:37-39

Dinistrio’r drygionus; y “dyrfa fawr” yn goroesi. 2The 1:6-9; Dat 7:9, 14

41. Y Groes

A. Hoeliwyd Iesu ar bren artaith fel gwarth

Cafodd Iesu ei hoelio ar bren artaith neu goeden. Act 5:30; 10:39; Ga 3:13

Rhaid i Gristnogion ddioddef gwarth hefyd. In 15:20; 1Pe 2:20, 21

B. Ni ddylem addoli’r groes

Gwarth yw pren artaith Iesu. Heb 6:6; Mth 27:41, 42

Mae defnyddio’r groes i addoli yn eilunaddoliaeth. Ex 20:4, 5; Jer 10:3-5

Mae Iesu nawr yn ysbryd, nid yw’n crogi ar bren. 1Ti 3:16; 1Pe 3:18

42. Y Pridwerth

A. Bywyd dynol Iesu yn “bridwerth dros lawer”

Rhoddodd Iesu ei fywyd yn bridwerth. Mth 20:28

Maddeuant pechod drwy werth gwaed Iesu. Heb 9:14, 22

Un aberth oedd yn ddigon am byth. Rhu 6:10; Heb 9:26

Bendithion ddim yn ganiataol; rhaid credu. In 3:16

B. Pris cyfatebol

Cafodd Adda ei greu yn berffaith. De 32:4; Pre 7:29; Ge 1:31

Collodd berffeithrwydd iddo’i hun a’i blant. Rhu 5:12, 18

Plant yn ddi-help; angen rhywun cyfartal ag Adda. Sal 49:7; De 19:21

Bywyd dynol perffaith Iesu yn bridwerth. 1Ti 2:5, 6; 1Pe 1:18, 19

43. Yr Eglwys

A. Mae’r eglwys yn ysbrydol, y sylfaen yw Crist

Nid yw Duw yn preswylio mewn temlau o waith llaw dynion. Act 17:24, 25; 7:48

Teml ysbrydol wedi’i gwneud o feini byw yw’r gwir eglwys. 1Pe 2:5, 6

Crist yw’r conglfaen, yr apostolion yn ail sylfaen. Eff 2:20

Rhaid addoli Duw mewn ysbryd a gwirionedd. In 4:24

B. Nid adeiladwyd yr eglwys ar Pedr

Ni ddywedodd Iesu mai Pedr oedd sylfaen yr eglwys. Mth 16:18

Iesu yw “y graig honno.” 1Co 10:4

Dywedodd Pedr mai Iesu yw’r sylfaen. 1Pe 2:4, 6-8; Act 4:8-12

44. Ysbryd, Ysbrydegaeth

A. Ystyr ysbryd glân

Nid yw grym gweithredol Duw yn berson. Act 2:2, 3, 33; In 14:17

Cafodd ei ddefnyddio yn ystod y creu ac i ysbrydoli’r Beibl. Ge 1:2; Esec 11:5

Yn eneinio brodyr Crist. In 3:5-8; 2Co 1:21, 22

Yn arwain, yn atgyfnerthu pobl Dduw heddiw. Ga 5:16, 18

B. Grym bywyd yn cael ei alw’n ysbryd

Grym bywyd yn cael ei gynnal gan anadlu. Job 27:3

Duw sy’n rheoli grym bywyd. Sech 12:1

Grym bywyd anifeiliaid a dynion yn perthyn i Dduw. Pre 3:19-21

Ysbryd yng ngofal Duw; gobaith o atgyfodiad. Lc 23:46

C. Rhaid gwrthod ysbrydegaeth, gwaith y cythreuliaid

Gair Duw yn ei gwahardd. Esei 8:19, 20; Le 19:31; 20:6, 27

Dweud ffortiwn yn ysbrydegaeth; fe’i condemnir. Act 16:16-18

Arwain at ddinistr. Ga 5:19-21; Dat 21:8; 22:15

Gwahardd sêr-ddewiniaeth. De 18:10-12; Jer 10:2

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu