Rhodio yn ôl Ffydd, Nid yn ôl Golwg
Ychydig cyn i’r Rhufeiniaid warchae ar Jerwsalem a’i dinistrio, ysgrifennodd yr apostol Paul y dylai Cristnogion, fel milwyr da i Grist, ddisgwyl caledi a pheidio â rhoi eu sefyllfa gysurus a’u pleser eu hunain yn gyntaf. (2 Tim. 2:3, 4) Gyda thrychineb ar fin taro’r byd annuwiol hwn, mae angen ffydd gref arnon ni i ganolbwyntio ar bethau ysbrydol. (2 Cor. 4:18; 5:7) Gwyliwch y fideo ‘Walk by Faith, Not by Sight.’ (Edrychwch o dan PUBLICATIONS > VIDEOS ar adran Saesneg jw.org.) Sylwch ar sut daeth gorhoffter o bethau materol yn fagl farwol i Naham ac Abital. Wedyn, adolygwch y cwestiynau canlynol.
(1) Beth oedd “y ffieiddbeth diffeithiol . . . yn sefyll yn y lle sanctaidd” yn y ganrif gyntaf, a beth oedd Cristnogion Jerwsalem angen ei wneud ar unwaith? (Math. 24:15, 16) (2) Pam roedd angen ffydd i ffoi o’r ddinas? (3) Pa aberth oedd ynghlwm wrth ffoi? (4) Pam gwnaeth Naham ac Abital oedi? (Math. 24:17, 18) (5) Pa brawf ychwanegol ar ei ffydd wynebodd Rachel wrth iddi ymadael â Jerwsalem? (Math. 10:34-37; Marc 10:29, 30) (6) Sut gosododd Ethan esiampl dda o ffydd ac ymddiriedaeth yn Jehofa? (7) Pa galedi wynebodd Cristnogion Pela? (8) Sut gwanhaodd ffydd Naham yn raddol? (9) Sut gofalodd Jehofa am Gristnogion Pela? (Math. 6:33; 1 Tim. 6:6-8) (10) Wrth inni wynebu diwedd y drefn bresennol, sut gallwn ni efelychu Abraham a Sara? (Heb. 11:8-10) (11) Sut gwnaeth Naham ac Abital benderfynu dychwelyd i Jerwsalem, a pham roedd eu penderfyniad yn ddiffygiol? (Luc 21:21) (12) Ond ar ôl i Naham ac Abital dychwelyd i Jerwsalem, beth oedd gwir sefyllfa bywyd yno? (13) Pam dylen ni gryfhau ein ffydd nawr, cyn daw diwedd y drefn bresennol?—Luc 17:31, 32; 21:34-36.
Ystyr rhodio drwy ffydd yw (1) ymddiried yng nghyfarwyddyd Jehofa, (2) gadael i’w gyfarwyddyd arwain ein camau, a (3) dangos ein bod yn gwerthfawrogi pethau ysbrydol yn fwy na phethau materol. Gadewch inni fod yn gwbl benderfynol i rodio drwy ffydd, gan ddeall fod y “byd a’i drachwant yn mynd heibio, ond y mae’r sawl sy’n gwneud ewyllys Duw yn aros am byth.”—1 Ioan 2:17.