Cân 120
Bendith Gwrando, a Rhoi’r Gair ar Waith
1. Myfyrio wnawn ar holl eiriau yr Iesu,
A’u rhoi ar waith yn ein bywyd bob dydd.
Goleuo’n llwybr a wna’i gyfarwyddyd;
Ufudd-dod llawen cryfhau wna ein ffydd.
(CYTGAN)
Gwrando, gweithredu a wnawn,
Glynwn wrth ffordd Iôn uniawn.
Bendith a ddaw os yn ufudd parhawn—
Rhannu gorffwysfa Duw gawn.
2. Ar graig tŵr cadarn a saif nid ar dywod.
Ein ffordd o fyw, cadarn fydd yn ddi-ffael,
Gan brofi’n sicr dragwyddol breswylfod
Os geiriau Crist fydd i’n gyrfa yn sail.
(CYTGAN)
Gwrando, gweithredu a wnawn,
Glynwn wrth ffordd Iôn uniawn.
Bendith a ddaw os yn ufudd parhawn—
Rhannu gorffwysfa Duw gawn.
3. Fel pren a blannwyd ar lannau y dyfroedd,
A’i gynnyrch cyson yn rhoi mawr lesâd,
Ufudd-dod sydd ag addewid dyfodol
A ddaw â bendith o fythol barhad.
(CYTGAN)
Gwrando, gweithredu a wnawn,
Glynwn wrth ffordd Iôn uniawn.
Bendith a ddaw os yn ufudd parhawn—
Rhannu gorffwysfa Duw gawn.
(Gweler hefyd Deut. 28:2; Salm 1:3; Diar. 10:22; Math. 7:24-27.)