LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • my stori 49
  • Achub Pobl Gibeon

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Achub Pobl Gibeon
  • Storïau o’r Beibl
  • Erthyglau Tebyg
  • Trigolion Doeth Gibeon
    Storïau o’r Beibl
  • Ymddiried yn Ein Harweinydd Gweithgar—Crist
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2018
Storïau o’r Beibl
my stori 49
Josua yn gorchymyn yr haul i aros yn llonydd

STORI 49

Achub Pobl Gibeon

EDRYCHA ar Josua. Mae’n dweud: ‘Haul, aros yn llonydd!’ Ac arhosodd yr haul yn llonydd. Arhosodd yn yr awyr drwy’r dydd. Jehofa oedd yn gyfrifol am hyn! Ond, gad inni weld pam nad oedd Josua yn dymuno gweld yr haul yn machlud.

Pan aeth pum brenin Canaan â’u byddinoedd i ymosod ar Gibeon, anfonodd pobl Gibeon negesydd at Josua i ofyn am help. ‘Dewch yn gyflym i’n hachub ni!’ meddai. ‘Mae’r brenhinoedd o’r bryniau wedi ymuno â’i gilydd i ymosod arnon ni.’

Felly, dyma Josua a’i fyddin gyfan yn cychwyn am Gibeon. Fe wnaethon nhw ymdeithio drwy’r nos. Pan gyrhaeddon nhw Gibeon, cafodd milwyr y brenhinoedd eraill gymaint o fraw nes eu bod nhw’n rhedeg i ffwrdd. Yna, fe wnaeth Jehofa iddi fwrw cenllysg enfawr arnyn nhw. Roedd y cenllysg yn lladd mwy o ddynion nag oedd milwyr Josua yn eu lladd.

Ond, sylweddolodd Josua nad oedd digon o amser i ennill y frwydr cyn iddi dywyllu. Byddai llawer o filwyr y brenhinoedd drwg yn dianc. Felly, dyma Josua yn gweddïo ar Jehofa ac yna yn dweud: ‘Haul, aros yn llonydd!’ Arhosodd yr haul yn ei unfan ac roedd yr Israeliaid yn gallu ennill y frwydr.

Roedd llawer mwy o frenhinoedd drwg yn casáu pobl Dduw. Cymerodd tua chwe blynedd i Josua a’i fyddin drechu 31 o frenhinoedd yng ngwlad Canaan. Ar ôl hynny, fe rannodd Josua wlad Canaan rhwng y llwythau a oedd angen tir.

Aeth y blynyddoedd heibio, ac yn 110 mlwydd oed, bu farw Josua. Tra bu Josua a’i ffrindiau’n fyw, roedd y bobl yn ufudd i Jehofa. Ond pan fu farw’r dynion da hyn, roedd y bobl yn dechrau gwneud pethau drwg ac yn mynd i helynt. Roedd wir angen help Duw arnyn nhw.

Josua 10:6-15; 12:7-24; 14:1-5; Barnwyr 2:8-13.

Cwestiynau ar Gyfer Astudio

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu