Cân 118
Rhowch Groeso i’ch Gilydd
Fersiwn Printiedig
1. Croeso i bawb sydd wedi dod ynghyd,
Cewch yma loches rhag pwysau’r byd.
Wrth wirioneddau Duw ein calon lŷn;
Hyfrydwch yw ymgynnull yn gwmni cytûn.
2. Teg yw’n brawdoliaeth, diolch rhown i Dduw;
Cyfarchion cynnes amgylcha’n clyw.
Cwmni y cedyrn ffyddlon a fwynhawn.
Mawr groeso i’n hymwelwyr; mewn cytgord parhawn.
3. Dymuna Duw i lwythau daear fyrdd
Gael profi lles ei ddaionus ffyrdd.
Trwy Grist ein denu gawsom at y Tad.
O’n calon d’wedwn ‘Croeso!’ â gwres diymwad.
(Gweler hefyd Ioan 6:44; Phil. 2:29; Dat. 22:17.)