Cân 88
Ymddiriedaeth gan Jehofa Yw Plant
(Salm 127:3-5)
1. Yn ei fywyd fe ddaw amser
Pan ddaw dyn i fod yn ŵr ac yn dad,
Ac fe ddaw merch yn fam i blentyn;
Doeth cofio gair o atgoffâd—
Fod gan Jehofa hawl i’r plentyn;
Ffynhonnell bywyd, Tad cariadus yw.
Rhydd i rieni gyfarwyddyd,
Ei ddilyn gwnewch bob un dydd yn driw.
(CYTGAN)
Sanct ymddiriedaeth sy’n eich meddiant;
Rhodd amhrisiadwy ddaeth i chi.
I’ch plentyn rhowch y cychwyn gore;
Canllawiau Jah yw’r doethaf sy’.
2. ‘Boed i eiriau glân Jehofa
Lenwi’th galon a’i chyffroi,’ medd y Gair.
‘Amdanynt sgwrsio wnei â’th blantos,
Hyn ymddiriedaeth yw. Gwna’n daer.
Gweithredoedd Jah adrodda iddynt,
I’w lân orchmynion dirfawr werth y sy’.’
Pan â dy blant yn hŷn, diolchant.
Boed bendith Duw ar dy deulu cu.
(CYTGAN)
Sanct ymddiriedaeth sy’n eich meddiant;
Rhodd amhrisiadwy ddaeth i chi.
I’ch plentyn rhowch y cychwyn gore;
Canllawiau Jah yw’r doethaf sy’.
(Gweler hefyd Deut. 6:6, 7; Eff. 6:4; 1 Tim. 4:16.)