Cân 111
Geilw Ef
(Job 14:13-15)
1. Bregus fel tarth yw bywyd yn ddiau,
Fe erys am ychydig;
Yna dihoenwn, henaint ddaw â’i wae,
Ac awn yn ddarfodedig.
Pa ddyfodol sydd? Duw in obaith rydd,
Llw a wnaed sy’n sail i’n ffydd:
(CYTGAN)
Geilw Ef; Fe glyw y meirw—
’Nabod wnânt yr hyfryd lais.
Derbyniant gan Dduw cariad
Fywyd fydd yn ir barhaus.
D’wedodd Iesu, ‘Na ryfeddwch.’
Addo wnaeth mai sefyll wnawn
Ar ddaear llawn molawdau;
’Mlodau’n dyddiau y parhawn.
2. Gobaith y sawl sy’n huno’n ffyddlon, triw,
Yw derbyn atgyfodiad.
O’i hirgwsg deffro wna, ar ddae’r i fyw—
Angerddol rym yw cariad!
Gorfoleddu wnawn: cwmni’n câr fwynhawn—
At ein Iôr geirwir nes awn.
(CYTGAN)
Geilw Ef; Fe glyw y meirw—
’Nabod wnânt yr hyfryd lais.
Derbyniant gan Dduw cariad
Fywyd fydd yn ir barhaus.
D’wedodd Iesu, ‘Na ryfeddwch.’
Addo wnaeth mai sefyll wnawn
Ar ddaear llawn molawdau;
’Mlodau’n dyddiau y parhawn.
(Gweler hefyd Ioan 6:40; 11:11, 43; Iago 4:14.)