TRYSORAU O AIR DUW | JOB 11-15
Ffydd Job yn yr Atgyfodiad
Job yn sôn am ei ffydd yng ngallu Duw i’w atgyfodi
14:7-9, 13-15
Soniodd Job am ei hyder yn yr atgyfodiad drwy gyfeirio at goeden—o bosibl coeden olewydd
Oherwydd ei system gwreiddiau eang, mae’r olewydden yn gallu adfywio ei hun, hyd yn oed ar ôl i’r boncyff gael ei ddinistrio. Cyn belled bod y gwreiddiau dal yn fyw, bydd y goeden yn tyfu unwaith eto
Pan ddaw’r glaw ar ôl cyfnod o sychder, gall boncyff sych yr olewydden ddechrau blaguro unwaith eto o’r gwreiddiau, “fel planhigyn ifanc”