Cân 134
Eich Gweld Eich Hun yn y Byd Newydd
1. Angerddol ddydd! Rhyddhad a gawn;
Dae’r newydd-wedd yn ei llawnder fwynhawn.
Amgylchedd glân heb arf na chledd
A rydd i’r ddaear goronog hedd.
Fe’ch gwelir chi, fe’m gwelir i,
Ac eraill yno yn dyrfa gu.
Ein hadfer a gawn, bydd pob calon yn llon;
Entrychion y nef a glyw fawl y ddaear gron:
(CYTGAN)
‘Jehofa ein Duw, rhyfeddol diau
Yw’r ddaear newydd, aneddle di-wae.
Teyrnasu mae dy Fab; dynolryw lawenha.
Moliannus boed enw ein Iôr. Halelwjah!’
2. ‘Preswylfa Duw sydd gyda dyn;’
Cyfiawnder, hedd, wrth ddynoliaeth a lŷn.
Pryderon gynt, dod ’n ôl ni wnânt;
Yn llwyr ddiogel y bydd ein plant.
Eich gweled wnawn, fe’m gwelwch i,
Nyni a’n câr—daear newydd sy’.
Y meirwon o’u hirgwsg, eu deffro Duw wna;
Caneuon gorfoledd a glywir: ‘Mawr yw Jah!’
(CYTGAN)
‘Jehofa ein Duw, rhyfeddol diau
Yw’r ddaear newydd, aneddle di-wae.
Teyrnasu mae dy Fab; dynolryw lawenha.
Moliannus boed enw ein Iôr. Halelwjah!’
(Gweler hefyd Salm 37:10, 11; Esei. 65:17; Ioan 5:28; 2 Pedr 3:13.)