Cân 63
Yn Fythol Deyrngar
(Salm 18:25)
1. Byddwn deyrngar i Jehofa,
Caru ’rydym Iôn uniawn.
Ni, ei bobl gysegredig,
Yn ei ddeddfau llawenhawn.
Anffaeledig yw ei gyngor,
Byddwn ufudd, rhown fawrhad.
Ymddiriedwn yn ei farnau,
Sicr ydynt, llawn llesâd.
2. Byddwn deyrngar i’r frawdoliaeth;
Pan ddaw angen, cymorth rown.
Lletygarwch gwirfoddolwn,
Lluniaeth parod baratown.
Anrhydeddu wnawn ein brodyr,
Cydnabyddwn ffyddlon wŷr;
Dwysach fydd y rhwymau rhyngom,
Teg gymdeithas gawn, a phur.
3. Sylw haedda’r rhai sy’n arwain;
Teyrngar fôm, gochelwn gam.
Gwrando wnawn eu cyfarwyddyd,
Ceisiwn gadw yn ddi-nam.
Ein bendithio wna Jehofa,
Ffyddlon rai a rynga’i fodd.
Ein hymdrechion a’n teyrngarwch
Calon dyner Duw gyffrôdd.
(Gweler hefyd Salm 149:1; 1 Tim. 2:8; Heb. 13:17.)