Cân 57
Myfyrdod Fy Nghalon
Fersiwn Printiedig
(Salm 19:14)
1. Jehofa, boed fy nghalon i
Yn gymeradwy gennyt ti;
Derbyniol bydded ger dy fron
Fy myfyrdodau lleddf neu lon.
Liw nos, pryderon trymion ddaw
A phwyso arnaf ar bob llaw;
Ond cofio bywiol Air a wnaf;
Daw llesol gwsg, a gorffwys gaf.
2. Beth bynnag sydd yn hawddgar, pur,
Yn anrhydeddus ac yn wir;
Pob peth sydd â daionus nod,
Pob rhinwedd glân a haedda glod,
Myfyriaf ar y pethau hyn—
Tangnefedd Duw wrth f’enaid lŷn.
Ym mhethau Jah ymaflyd rhaid
I gael ysbrydol dwf di-baid.
(Gweler hefyd Salm 49:3; 63:6; 139:17, 23; Phil. 4:7, 8; 1 Tim. 4:15.)