Cân 131
Jehofa, Ein Gwaredydd
1. Gwaredydd mawr dy bobl wyt Jehofa Iôr.
Fe draetha’r sêr uwchben, a gorddyfnderoedd môr
Aruthrol ddwyfol allu. Ti biau’r clod ’r Uchaf Fod.
Cerdd foliant seiniwch gôr:
(CYTGAN)
Jehofa, gwaredu wna’i weision teyrngar.
Gweithreda fel Craig pan ddaw tyngedfennus ddydd.
Dyrchafedig yw enw ein Duw; I’r afael â
I ddarparu dihangfa ddi-ffael. Ein gwared wna.
2. Pan ddaw hi’n gyfyng arnaf, a gofidiau’n llu,
Erfyniaf ar fy Nhad; i’w glyw fe gwyd fy nghri:
‘Fy Nghaer a’m gwir ymwared, O tyrd yn glou, ’n ddiymdroi.
Arglwydd, rho nerth i mi.’
(CYTGAN)
Jehofa, gwaredu wna’i weision teyrngar.
Gweithreda fel Craig pan ddaw tyngedfennus ddydd.
Dyrchafedig yw enw ein Duw; I’r afael â
I ddarparu dihangfa ddi-ffael. Ein gwared wna.
3. Mewn arswyd clywed wna y gelyn nerthol lef—
Uwch stŵr y fyddin gref tarana’r Iôr o’r nef;
Yn ôl ’r hyn sydd ei angen, gweithredu wna’r
Arglwydd Jah.Tarian a Thŵr yw Ef.
(CYTGAN)
Jehofa, gwaredu wna’i weision teyrngar.
Gweithreda fel Craig pan ddaw tyngedfennus ddydd.
Dyrchafedig yw enw ein Duw; I’r afael â
I ddarparu dihangfa ddi-ffael. Ein gwared wna.
(Gweler hefyd Salm 18:1, 2; 144:1, 2.)