LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • my stori 91
  • Y Bregeth ar y Mynydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Y Bregeth ar y Mynydd
  • Storïau o’r Beibl
Storïau o’r Beibl
my stori 91
Iesu yn dysgu pobl wrth bregethu ar y mynydd

STORI 91

Y Bregeth ar y Mynydd

A WYT ti’n gweld Iesu yn eistedd yma? Y mae’n eistedd ar lethrau mynydd yng Ngalilea ac yn dysgu’r bobl. Y dynion sy’n eistedd wrth ei ymyl yw ei ddisgyblion. Roedd Iesu wedi dewis 12 ohonyn nhw i fod yn apostolion. Yr apostolion oedd disgyblion arbennig Iesu. Wyt ti’n gwybod eu henwau?

Roedd yna Simon Pedr ac Andreas ei frawd. Yna, roedd Ioan ac Iago a oedd hefyd yn frodyr. Roedd apostol arall o’r enw Iago, ac un arall o’r enw Simon. Roedd dau apostol o’r enw Jwdas. Jwdas Iscariot oedd un, a Jwdas a elwir Thadeus oedd y llall. Yna, roedd Philip a Nathanael, a elwir hefyd yn Bartholomeus, a Mathew a Thomas.

Ar ôl i Iesu ddychwelyd o Samaria, dechreuodd bregethu: ‘Mae Teyrnas y nefoedd wedi dod yn agos.’ Wyt ti’n gwybod beth yw’r Deyrnas? Llywodraeth Duw yw’r Deyrnas, a Iesu yw’r brenin arni. Bydd Iesu yn teyrnasu o’r nefoedd ac yn dod â heddwch i’r ddaear. Bydd Teyrnas Dduw yn troi’r holl ddaear yn baradwys.

Wyt ti’n gweld Iesu yn dysgu’r bobl am y Deyrnas? ‘Dyma’r ffordd y dylech chi weddïo,’ esboniodd Iesu. ‘Ein Tad yn y nefoedd, sancteiddier dy enw. Deled dy Deyrnas. Gwneler dy ewyllys ar y ddaear fel yn y nef.’ Mae llawer o bobl yn galw’r weddi hon yn ‘Weddi’r Arglwydd’ neu’r ‘Pader.’ Elli di adrodd y weddi gyfan ar dy gof?

Tyrfa o bobl yn gwrando i bregeth Iesu ar y mynydd

Dywedodd Iesu hefyd: ‘Dylech chi drin pobl eraill fel y byddech chi’n hoffi cael eich trin.’ Wyt ti’n hoffi cael dy drin yn garedig? Roedd Iesu yn dweud y dylen ni fod yn garedig wrth bobl eraill. Oni fydd hi’n braf yn y baradwys pan fydd pawb yn garedig?

Mathew penodau 5 i 7; 10:1-4.

Cwestiynau ar Gyfer Astudio

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu