Cân 67
Gweddïwn ar Jehofa Bob Dydd
Fersiwn Printiedig
1. Tirion Jehofa ein gweddi a glyw,
Parod i wrando—un felly yw Duw.
Megis wrth gyfaill trugarog a mwyn,
D’wedwn y cyfan, ein pryder a’n cwyn.
Ar Dduw gweddïwn bob dydd.
2. Iddo mynegwn ein diolch o’n bron,
Beiau cyffeswn pan ddown ger ei fron.
Ymbil a wnawn am faddeuant ein Tad,
Gŵyr ef ein gwendid; daw inni lesâd.
Ar Dduw gweddïwn bob dydd.
3. Anodd yw’n dyddiau, llawn gofid a gwae;
Cariad Jehofa a bery’n ddi-drai.
Ato am gymorth heb oedi yr awn,
Ofnus na fyddwn; â hyder nesawn.
Ar Dduw gweddïwn bob dydd.
(Gweler hefyd Math. 6:9-13; 26:41; Luc 18:1.)