Cân 133
Ceisiwch Dduw i’ch Gwaredu
(Seffaneia 2:3)
1. Gwelwch frenhinoedd dae’r,
Gwrthsefyll wnânt ‘Fab y Saer.’
Eu hawr teyrnasu ddaeth i ben.
Eu dryllio gânt, medd y Gair.
Gwae leinw’r byd, a brad;
Ond buan daw dydd rhyddhad.
Marchoga Crist; syrthia’r gelyn lu!
Atseinio wna maes y gad.
(CYTGAN)
Am waredigaeth trowch at Dduw;
Rhowch hyder ynddo, ddynolryw.
Ei gyfiawnder gwnewch,
Yn y ffydd parhewch.
Molwch benarglwyddiaeth Iôr Jah.
Ffyddloniaid, cuddfan ganddo gewch;
Eich gwaredu wna.
2. Dewis fydd rhaid i’r byd
Ai’r Gair dwyfol gaiff ei fryd.
Efengyl lân drwy’r ddaear aeth;
Pam oedi wnewch chi cyhyd?
Aml dreialon ddaw,
Ond sefyll wnawn ni’n ddi-fraw.
Gofala Duw am ei deyrngar rai;
Ein gwaedd a glyw, mae gerllaw.
(CYTGAN)
Am waredigaeth trowch at Dduw;
Rhowch hyder ynddo, ddynolryw.
Ei gyfiawnder gwnewch,
Yn y ffydd parhewch.
Molwch benarglwyddiaeth Iôr Jah.
Ffyddloniaid, cuddfan ganddo gewch;
Eich gwaredu wna.
(Gweler hefyd 1 Sam. 2:9; Salm 2:2, 3, 9; Diar. 2:8; Math. 6:33.)