LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • hf rhan 7 tt. 22-25
  • Sut i Ddysgu Eich Plentyn

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Sut i Ddysgu Eich Plentyn
  • Sut i Gael Teulu Hapus
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • 1 GWNEWCH HI’N HAWDD I’CH PLANT DDOD ATOCH I SIARAD
  • 2 CEISIWCH DDEALL BETH MAEN NHW’N EI WIR FEDDWL
  • 3 GWEITHREDWCH YN UNOL
  • 4 GWNEWCH GYNLLUN
  • Sut Gallwch Chi Gael Teulu Hapus?​—Rhan 2
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Rieni—Helpwch Eich Plant i Garu Jehofa
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2022
Sut i Gael Teulu Hapus
hf rhan 7 tt. 22-25
Tad a mab yn gweithio gyda’i gilydd i drwsio beic

RHAN 7

Sut i Ddysgu Eich Plentyn

“Mae’r geiriau hyn yr wyf yn eu gorchymyn iti heddiw i fod yn dy galon. Yr wyt i’w hadrodd i’th blant.”—Deuteronomium 6:6, 7

Pan greodd Jehofa y teulu, rhoddodd awdurdod i rieni dros eu plant. (Colosiaid 3:20) Eich cyfrifoldeb chi, fel rhieni, yw dysgu eich plentyn sut i garu Jehofa a sut i ddod yn oedolyn cyfrifol. (2 Timotheus 1:5; 3:15) Mae’n rhaid ichi hefyd ddod i wybod beth sydd yng nghalon eich mab neu’ch merch. Wrth gwrs, mae eich esiampl chi yn hynod o bwysig. Y ffordd orau i ddysgu eich plant am Air Jehofa yw drwy ei roi yn eich calon eich hunan yn gyntaf.—Salm 40:8.

1 GWNEWCH HI’N HAWDD I’CH PLANT DDOD ATOCH I SIARAD

MAE’R BEIBL YN DWEUD: ‘Byddwch yn gyflym i wrando, ond yn araf i lefaru.’ (Iago 1:19) Rydych eisiau i’ch plant deimlo’n hapus i siarad yn agored â chi. Mae’n rhaid iddyn nhw wybod eich bod chi’n barod i wrando arnyn nhw pan fydden nhw eisiau siarad. Ceisiwch greu awyrgylch heddychlon er mwyn iddyn nhw allu mynegi eu hunain yn hawdd. (Iago 3:18) Petaen nhw’n meddwl y byddwch yn llym neu yn eu barnu, efallai na fydden nhw’n hollol agored gyda chi. Byddwch yn amyneddgar gyda’ch plant, a’u hatgoffa o’ch cariad yn aml.—Mathew 3:17; 1 Corinthiaid 8:1.

BETH GALLWCH CHI EI WNEUD?

  • Byddwch ar gael pan fydd eich plant eisiau siarad

  • Sgwrsiwch â’ch plant yn aml, nid yn unig pan fydd problemau’n codi

2 CEISIWCH DDEALL BETH MAEN NHW’N EI WIR FEDDWL

MAE’R BEIBL YN DWEUD: “Y mae pawb call yn gweithredu’n ddeallus.” (Diarhebion 13:16) Ar adegau, bydd rhaid i chi edrych y tu hwnt i eiriau eich plant er mwyn deall eu gwir deimladau. Mae’n gyffredin i bobl ifanc orliwio pethau, neu ddweud pethau nad ydyn nhw yn eu gwir feddwl. “Mae’r un sy’n ateb cyn gwrando yn dangos ffolineb.” (Diarhebion 18:13) Peidiwch â bod yn rhy gyflym i ddigio.—Diarhebion 19:11.

Mam yn gorymateb i eiriau ei merch

BETH GALLWCH CHI EI WNEUD?

  • Byddwch yn benderfynol o beidio â thorri ar draws neu orymateb, beth bynnag mae eich plant yn ei ddweud

  • Cofiwch sut roeddech chi’n teimlo pan oeddech chi eu hoed nhw, a beth roeddech chi yn ei weld yn bwysig

3 GWEITHREDWCH YN UNOL

MAE’R BEIBL YN DWEUD: “Fy mab, gwrando ar addysg dy dad, paid â gwrthod cyfarwyddyd dy fam.” (Diarhebion 1:8) Rhoddodd Jehofa awdurdod i’r fam ac i’r tad dros y plant. Mae’n rhaid ichi ddysgu eich plant i fod yn ufudd ac i’ch parchu. (Effesiaid 6:1-3) Mae plant yn gwybod os nad ydy eu rhieni ‘wedi eu cyfannu yn yr un meddwl a’r un farn.’ (1 Corinthiaid 1:10) Petaech chi’n anghytuno â’ch cymar am rywbeth, peidiwch â thrafod hyn o flaen y plant oherwydd gall gwneud hynny danseilio eu parch nhw tuag atoch fel rhieni.

Tad yn disgyblu ei fab ar ei ben ei hun tra bod y fam a’i frawd mewn ystafell arall

BETH GALLWCH CHI EI WNEUD?

  • Trafodwch a chytunwch ar sut y byddwch yn disgyblu eich plant

  • Petai chi’n anghytuno ar sut i hyfforddi eich plant, ceisiwch weld pethau o safbwynt eich cymar

4 GWNEWCH GYNLLUN

MAE’R BEIBL YN DWEUD: ‘Meithrin eich plant yn nisgyblaeth a hyfforddiant yr Arglwydd.’ (Effesiaid 6:4) Nid yw llwyddiant addysg eich plant yn digwydd ar hap. Rhaid ichi gynllunio hyfforddiant eich plant, gan gynnwys sut i’w disgyblu. (Salm 127:4; Diarhebion 29:17) Mae disgyblu yn cynnwys mwy na chosb, mae hefyd yn golygu helpu eich plant i ddeall y rhesymau y tu ôl i’r rheolau. (Diarhebion 28:7) Hefyd, dysgwch iddyn nhw sut i garu Gair Jehofa ac i ganfod ei egwyddorion. (Salm 1:2) Bydd gwneud hyn yn helpu eich plant i ddatblygu cydwybod iach.—Hebreaid 5:14.

BETH GALLWCH CHI EI WNEUD?

  • Gwnewch yn siŵr fod eich plant yn gweld Duw fel Person go iawn, rhywun y gallan nhw ymddiried ynddo

  • Helpwch eich plant i adnabod ac osgoi peryglon moesol, fel y rhai sydd ar y We a rhwydweithiau cymdeithasol. Dysgwch iddyn nhw sut i osgoi pobl sy’n aflonyddu ar blant

Mae bachgen yn derbyn hyfforddiant gan ei rieni i wasanaethu Jehofa o’i blentyndod tan ei fedydd

‘Meithrin eich plant yn nisgyblaeth a hyfforddiant yr Arglwydd.’

BYDD JEHOFA YN BENDITHIO EICH YMDRECHION

Fel rhieni, mae gennych chi aseiniad arbennig i ddysgu eich plant sut mae Jehofa yn meddwl. (Effesiaid 6:4) Mae Jehofa yn gwybod bod hynny’n waith caled, ond fe allwch fod yn sicr y bydd y canlyniadau yn dod â chlod i Dduw a llawenydd mawr i chi.—Diarhebion 23:24.

YSTYRIWCH HYN . . .

  • Sut galla’ i sicrhau bod fy mhlentyn yn gallu siarad â fi am unrhyw beth?

  • Beth galla’ i ei ddysgu o’r ffordd mae rhieni eraill yn magu eu plant nhw?

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu