Helpwch Nhw i Fod yn ‘Gadarn yn y Ffydd’
Mae’n hynod o gyffrous i weld y ffordd mae Duw yn bendithio’r cynhaeaf, gyda thros chwarter miliwn o bobl yn cael eu bedyddio bob blwyddyn. (Deut. 28:2) Unwaith i gyhoeddwr helpu rhywun i gyrraedd ei nod o gael ei fedyddio, weithiau mae’r cyhoeddwr yn penderfynu dod â’r astudiaeth i ben er mwyn canolbwyntio ar helpu eraill. Efallai y myfyriwr yw’r un sy’n awyddus i derfynu ei astudiaeth er mwyn iddo dreulio mwy o amser yn y gwaith pregethu. Ond, mae’n bwysig iawn i fyfyrwyr y Beibl adeiladu sylfaen dda yn y gwirionedd. Mae angen iddyn nhw ‘gadw eu gwreiddiau’ yng Nghrist ac i ‘gadarnhau eu ffydd.’ (Col. 2:6, 7; 2 Tim. 3:12) Felly, ar ôl i fyfyriwr gael ei fedyddio, dylai barhau gyda’i astudiaeth tan ei fod wedi cwblhau astudio’r llyfrau Beibl Ddysgu a ‘Cariad Duw.’—Gweler Ein Gweinidogaeth, Ebrill 2011, tudalen 2.