LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • bhs pen. 4 tt. 40-51
  • Pwy Yw Iesu Grist?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Pwy Yw Iesu Grist?
  • Beth Allwn Ni ei Ddysgu o’r Beibl?
  • Darllen yn Beibl Ddysgu
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • RYDYN NI WEDI DOD O HYD I’R MESEIA!
  • O LE DAETH IESU?
  • SUT UN OEDD IESU?
  • BOB AMSER YN FFYDDLON I’W DAD
  • Pwy Yw Iesu?
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Iesu Grist−Yr Allwedd i’r Wybodaeth o Dduw
    Gwybodaeth Sy’n Arwain i Fywyd Tragwyddol
  • Y Meseia’n Cyrraedd
    Y Beibl—Beth Yw Ei Neges?
Beth Allwn Ni ei Ddysgu o’r Beibl?
bhs pen. 4 tt. 40-51

PENNOD PEDWAR

Pwy Yw Iesu Grist?

1, 2. (a) Ydy gwybod enw rhywun enwog yn golygu eich bod yn ei adnabod yn dda? Esboniwch. (b) Beth mae pobl yn ei gredu am Iesu?

MAE llawer o bobl enwog yn y byd. Mae’n debyg eich bod chi’n gallu enwi rhai. Ond nid yw gwybod enw rhywun yn golygu eich bod yn ei adnabod yn dda. Mae’n debyg nad ydych yn gwybod manylion ei fywyd a sut un ydyw mewn gwirionedd.

2 Mae’n debyg eich bod wedi clywed am Iesu Grist, er iddo fyw ar y ddaear tua 2,000 o flynyddoedd yn ôl. Ond nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn adnabod Iesu. Dywed rhai ei fod yn ddyn da neu’n broffwyd, ac mae eraill yn credu mai Duw yw Iesu. Beth ydych chi’n ei feddwl?—Gweler Ôl-nodyn 12.

3. Pam mae dod i adnabod Jehofa a Iesu Grist yn bwysig?

3 Mae gwybod y gwir am Iesu yn bwysig. Pam? Mae’r Beibl yn dweud: “Dyma beth ydy bywyd tragwyddol: iddyn nhw dy nabod di, yr unig Dduw sy’n bodoli go iawn, a Iesu y Meseia wyt ti wedi ei anfon.” (Ioan 17:3) Os ydych chi’n gwybod y gwir am Jehofa a Iesu, cewch fyw am byth mewn paradwys ar y ddaear. (Ioan 14:6) Hefyd, bydd adnabod Iesu yn eich helpu oherwydd Iesu yw’r esiampl orau o ran sut i fyw a thrin pobl eraill. (Ioan 13:34, 35) Ym Mhennod 1, dysgon ni’r gwir am Dduw. Nesaf byddwn ni’n gweld beth mae’r Beibl yn ei ddweud am Iesu.

RYDYN NI WEDI DOD O HYD I’R MESEIA!

4. Beth mae’r geiriau “Meseia” a “Christ” yn ei olygu?

4 Ymhell cyn i Iesu gael ei eni, roedd Jehofa wedi addo yn y Beibl y byddai’n anfon y Meseia, neu’r Crist. Mae’r gair “Meseia” yn dod o’r Hebraeg, a’r gair “Crist” o’r iaith Roeg. Mae’r ddau deitl hyn yn golygu y byddai’r Meseia yn cael ei ddewis gan Dduw a’i benodi i swydd arbennig. Bydd y Meseia yn gwireddu pob un o addewidion Duw. Gall Iesu eich helpu chi heddiw hefyd. Ond cyn i Iesu gael ei eni, roedd llawer o bobl yn gofyn, ‘Pwy fydd y Meseia?’

5. A oedd disgyblion Iesu yn credu mai ef oedd y Meseia?

5 Roedd disgyblion Iesu yn gwbl sicr mae ef oedd y Meseia. (Ioan 1:41) Dywedodd Simon Pedr wrth Iesu: “Ti ydy’r Meseia.” (Mathew 16:16) Sut gallwn ni fod yn sicr mai Iesu yw’r Meseia?

6. Sut mae Jehofa wedi helpu pobl ddiffuant i adnabod y Meseia?

6 Ganrifoedd cyn i Iesu gael ei eni, roedd proffwydi Duw wedi cofnodi llawer o fanylion a fyddai’n helpu pobl i adnabod y Meseia. Dychmygwch eich bod yn mynd i orsaf brysur i godi dyn nad ydych chi erioed wedi’i weld o’r blaen. Petai rhywun wedi ei ddisgrifio’n dda, byddai’n hawdd ichi ei adnabod. Yn yr un modd, mae Jehofa yn defnyddio’r proffwydi i ddisgrifio beth fyddai’r Meseia yn ei wneud a beth a fyddai’n digwydd iddo. Mae cyflawniad y proffwydoliaethau hyn yn helpu pobl ddiffuant i wybod mai Iesu yw’r Meseia.

7. Rhowch ddwy enghraifft o broffwydoliaethau sy’n profi mai Iesu yw’r Meseia.

7 Dewch inni ystyried dwy o’r proffwydoliaethau hynny. Yn gyntaf, 700 mlynedd cyn i Iesu gael ei eni, proffwydodd Micha y byddai’r Meseia’n cael ei eni mewn tref fach o’r enw Bethlehem. (Micha 5:2) A dyna lle ganwyd Iesu! (Mathew 2:1, 3-9) Yn ail, proffwydodd Daniel y byddai’r Meseia yn ymddangos yn y flwyddyn 29 OG. (Daniel 9:25) Dim ond dwy esiampl yw’r rheini o restr hir o broffwydoliaethau sy’n profi mai Iesu yw’r Meseia.—Gweler Ôl-nodyn 13.

Adeg bedyddio Iesu, mae ysbryd Duw yn disgyn ar ffurf colomen i ddangos mai Iesu yw’r Meseia

O adeg ei fedyddio, Iesu oedd y Meseia neu’r Crist

8, 9. Beth ddigwyddodd adeg bedyddio Iesu sy’n profi mai ef yw’r Meseia?

8 Mae Jehofa wedi dangos yn glir mai Iesu yw’r Meseia. Roedd Duw wedi addo arwydd i Ioan Fedyddiwr er mwyn iddo adnabod y Meseia. A phan aeth Iesu at Ioan i gael ei fedyddio yn yr Iorddonen yn y flwyddyn 29 OG, fe welodd Ioan yr arwydd. Mae’r Beibl yn dweud: “Ar ôl cael ei fedyddio, yr eiliad y daeth allan o’r dŵr, dyma’r awyr yn rhwygo’n agored, a gwelodd Ysbryd Duw yn dod i lawr fel colomen ac yn glanio arno. A dyma lais o’r nefoedd yn dweud: ‘Hwn ydy fy Mab annwyl i; mae wedi fy mhlesio i’n llwyr.’” (Mathew 3:16, 17) Pan welodd Ioan hyn a chlywed y llais, roedd yn gwbl sicr mai Iesu oedd y Meseia. (Ioan 1:32-34) O’r diwrnod y tywalltodd Jehofa ei ysbryd arno, Iesu oedd y Meseia. Ef oedd yr un roedd Jehofa wedi ei ddewis i fod yn Arweinydd ac yn Frenin.—Eseia 55:4.

9 Mae proffwydoliaethau’r Beibl, ynghyd â geiriau Jehofa ei hun, a’r arwydd adeg bedyddio Iesu, i gyd yn profi mai Iesu yw’r Meseia. Ond o le daeth Iesu, a sut un oedd ef? Dewch inni weld beth mae’r Beibl yn ei ddweud.

O LE DAETH IESU?

10. Beth mae’r Beibl yn ei ddysgu am fywyd Iesu cyn iddo ddod i’r ddaear?

10 Mae’r Beibl yn dweud bod Iesu wedi byw yn y nef am amser maith cyn iddo ddod i’r ddaear. Dywedodd Micha fod gwreiddiau’r Meseia “yn y gorffennol pell.” (Micha 5:2) Dywedodd Iesu lawer gwaith ei fod wedi byw yn y nefoedd cyn cael ei eni ar y ddaear. (Darllenwch Ioan 3:13; 6:38, 62; 17:4, 5.) Cyn iddo ddod i’r ddaear, roedd gan Iesu berthynas arbennig â Jehofa.

11. Pam mae Iesu mor annwyl i Jehofa?

11 Mae Iesu yn annwyl iawn i Jehofa. Pam? Oherwydd i Jehofa greu Iesu cyn pob peth arall a phawb arall. Felly Iesu yw “cyntafanedig yr holl greadigaeth.”a (Colosiaid 1:15, BCND) Mae Iesu yn annwyl i Jehofa hefyd gan mai ef yw’r unig un i Jehofa ei greu’n uniongyrchol. Dyna pam mae’n cael ei alw’n “unig Fab” i Dduw. (Ioan 3:16) Iesu hefyd yw’r unig un i Dduw ei ddefnyddio i greu pob peth arall. (Colosiaid 1:16) A dim ond Iesu sy’n cael y teitl “y Gair,” oherwydd y mae Jehofa wedi ei ddefnyddio i roi negeseuon a chyfarwyddiadau i angylion ac i bobl.—Ioan 1:14.

12. Sut rydyn ni’n gwybod nad un person yw Iesu a Duw?

12 Mae rhai pobl yn credu bod Iesu a Duw yn un person. Ond nid dyna beth mae’r Beibl yn ei ddysgu. Mae’r Beibl yn dweud bod Iesu wedi cael ei greu, sy’n golygu bod ganddo ddechreuad. Ond mae Jehofa, yr un a greodd bob peth, heb ddechreuad. (Salm 90:2) Ac yntau’n Fab Duw, ni wnaeth Iesu erioed ystyried ceisio bod yn gyfartal â Duw. Mae’r Beibl yn dangos yn eglur bod y Tad yn fwy na’r Mab. (Darllenwch Ioan 14:28; 1 Corinthiaid 11:3) Jehofa yn unig yw “yr Hollalluog.” (Salm 91:1) Ef yw’r Un mwyaf yn y bydysawd a’r mwyaf pwerus.—Gweler Ôl-nodyn 14.

13. Pam mae’r Beibl yn dweud bod Iesu yn “dangos yn union sut un ydy’r Duw anweledig”?

13 Roedd Jehofa a’i Fab, Iesu, yn gweithio gyda’i gilydd am filiynau o flynyddoedd cyn i’r nefoedd a’r ddaear gael eu creu. Mae’n rhaid eu bod nhw’n caru ei gilydd yn fawr iawn! (Ioan 3:35; 14:31) Roedd Iesu yn adlewyrchu priodoleddau ei Dad mor dda, nes bod y Beibl yn dweud amdano: “Mae’n dangos yn union sut un ydy’r Duw anweledig.”—Colosiaid 1:15.

14. Sut cafodd Mab annwyl Jehofa ei eni yn blentyn dynol?

14 Roedd Mab annwyl Jehofa yn fodlon gadael y nefoedd a chael ei eni yn blentyn dynol ar y ddaear. Sut roedd hynny’n bosib? Trosglwyddodd Jehofa fywyd ei Fab o’r nefoedd i groth morwyn o’r enw Mair. Felly, nid oedd angen tad dynol ar Iesu. Rhoddodd Mair enedigaeth i fab perffaith a’i alw’n Iesu.—Luc 1:30-35.

SUT UN OEDD IESU?

Iesu yn dysgu ei ddisgyblion

15. Sut gallwch chi ddod i adnabod Jehofa yn well?

15 Gallwch ddysgu llawer am fywyd Iesu a’i briodoleddau drwy ddarllen llyfrau Mathew, Marc, Luc, ac Ioan yn y Beibl. Gelwir y llyfrau hynny’n Efengylau. Oherwydd bod Iesu yn union fel ei Dad, byddwch chi hefyd yn dod i adnabod Jehofa yn well. Dyna pam roedd Iesu yn gallu dweud: “Mae pwy bynnag sydd wedi fy ngweld i wedi gweld y Tad.”—Ioan 14:9.

16. Beth roedd Iesu yn ei ddysgu? O le daeth dysgeidiaeth Iesu?

16 Roedd llawer o bobl yn galw Iesu yn “Athro.” (Ioan 1:38; 13:13) Un o’r pethau pwysicaf iddo ddysgu oedd y “newyddion da am deyrnasiad Duw.” Llywodraeth yw Teyrnas Dduw. Bydd yn teyrnasu dros yr holl ddaear o’r nefoedd ac yn dod â bendithion i bobl sy’n ufudd i Dduw. (Mathew 4:23) Oddi wrth Jehofa y daeth pob peth roedd Iesu yn ei ddysgu. Dywedodd Iesu: “Dw i ddim yn dysgu ohono i’n hun. Mae’n dod oddi wrth Dduw, yr un anfonodd fi.” (Ioan 7:16) Roedd Iesu’n gwybod bod Jehofa eisiau i bobl glywed y newyddion da am Deyrnas Dduw yn rheoli’r byd.

Iesu yn pregethu wrth bysgotwr

17. Lle roedd Iesu yn dysgu? Pam gweithiodd Iesu mor galed i ddysgu eraill?

17 Roedd Iesu’n dysgu le bynnag roedd pobl i’w cael—yn y wlad, yn y trefi a’r pentrefi, mewn marchnadoedd, addoldai, a chartrefi. Doedd Iesu ddim yn disgwyl i bobl fynd ato ef. Yn aml fe fyddai’n mynd atyn nhw. (Marc 6:56; Luc 19:5, 6) Roedd Iesu yn gweithio’n galed ac yn treulio llawer o amser yn dysgu pobl. Pam? Oherwydd ei fod yn gwybod mai dyna roedd Duw am iddo ei wneud, ac roedd bob amser yn ufudd i’w Dad. (Ioan 8:28, 29) Roedd Iesu hefyd yn pregethu oherwydd ei fod yn teimlo trueni dros bobl. (Darllenwch Mathew 9:35, 36.) Gallai weld nad oedd yr arweinwyr crefyddol yn dysgu’r gwir am Dduw a’i Deyrnas. Felly roedd Iesu eisiau helpu cymaint o bobl â phosib i glywed y newyddion da.

18. Pa briodoleddau Iesu sy’n apelio atoch chi fwyaf?

18 Roedd Iesu yn caru pobl ac yn edrych ar eu holau. Roedd yn garedig ac yn hawdd mynd ato. Roedd hyd yn oed plant yn hoffi bod yn ei gwmni. (Marc 10:13-16) Roedd Iesu bob amser yn deg. Roedd yn casáu llygredd ac anghyfiawnder. (Mathew 21:12, 13) Yn amser Iesu, ychydig o hawliau oedd gan ferched, ac nid oedd llawer yn eu parchu. Ond roedd Iesu bob amser yn trin merched â pharch. (Ioan 4:9, 27) Roedd Iesu yn wirioneddol ostyngedig. Er enghraifft, un noson fe olchodd draed ei apostolion, tasg y byddai gwas yn ei wneud fel arfer.—Ioan 13:2-5, 12-17.

Iesu yn estyn ei ddwylo i gyffwrdd â phobl sâl a’u hiacháu

Roedd Iesu yn pregethu wrth bobl ym mhobman

19. Pa esiampl sy’n dangos bod Iesu yn deall anghenion pobl a’i fod yn awyddus i’w helpu?

19 Roedd Iesu yn deall anghenion pobl, ac roedd yn awyddus i’w helpu. Roedd hyn i’w weld yn glir yn ei wyrthiau pan ddefnyddiodd nerth Duw i wella pobl. (Mathew 14:14) Er enghraifft, daeth dyn a oedd yn dioddef o’r gwahanglwyf at Iesu a dweud: “Gelli di fy ngwneud i’n iach os wyt ti eisiau.” Teimlodd Iesu boen y dyn i’r byw, ac roedd eisiau ei helpu. Felly estynnodd ei law a chyffwrdd â’r dyn. “Dyna dw i eisiau,” meddai, “bydd lân!” Cafodd y dyn ei iacháu! (Marc 1:40-42) Allwch chi ddychmygu sut roedd y dyn yn teimlo?

BOB AMSER YN FFYDDLON I’W DAD

20, 21. Sut mae Iesu yn gosod yr esiampl orau o ran ufudd-dod i Dduw?

20 Iesu yw’r esiampl orau o ufudd-dod i Dduw. Ni waeth beth ddigwyddodd, neu beth a wnaeth ei elynion iddo, arhosodd yn ffyddlon i’w Dad. Er enghraifft, wnaeth Iesu ddim pechu pan geisiodd Satan ei demtio. (Mathew 4:1-11) Roedd rhai yn ei deulu yn methu credu mai ef oedd y Meseia, gan ddweud ei fod yn wallgof, ond daliodd Iesu ati i wneud gwaith Duw. (Marc 3:21) Pan oedd ei elynion yn ei drin yn greulon, arhosodd Iesu yn ffyddlon heb geisio dial arnyn nhw.—1 Pedr 2:21-23.

21 Bu farw Iesu mewn modd creulon a phoenus, ond fe arhosodd yn ffyddlon i Jehofa. (Philipiaid 2:8) Dychmygwch gymaint roedd yn ei ddioddef ar ddiwrnod ei farwolaeth. Cafodd ei arestio a’i gyhuddo ar gam o gablu. Cafodd ei ddedfrydu gan farnwyr llwgr, ei wawdio gan y dorf, ei arteithio gan filwyr, a’i hoelio ar stanc. Wrth iddo farw, dywedodd: “Mae’r cwbl wedi ei wneud.” (Ioan 19:30) Dri diwrnod ar ôl i Iesu farw, fe wnaeth Jehofa ei atgyfodi a rhoi corff ysbrydol iddo. (1 Corinthiaid 15:44, 45) Ychydig o wythnosau yn ddiweddarach, aeth Iesu yn ôl i’r nefoedd i “eistedd i lawr yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw,” ac i aros i Dduw ei wneud yn Frenin.—Hebreaid 10:12, 13.

22. Pa gyfle sydd gennyn ni oherwydd i Iesu aros yn ffyddlon i’w Dad?

22 Oherwydd i Iesu aros yn ffyddlon i’w Dad, mae cyfle bellach i ninnau fyw am byth mewn paradwys ar y ddaear, yn union fel yr oedd Jehofa yn ei fwriadu. Yn y bennod nesaf, trafodwn sut mae marwolaeth Iesu yn golygu bod modd inni fyw am byth.

a Gelwir Jehofa yn Dad oherwydd ef yw’r Creawdwr. (Eseia 64:8) Gelwir Iesu yn Fab Duw oherwydd i Jehofa ei greu. Am yr un rheswm, gellir dweud bod yr angylion, a hefyd Adda, yn feibion Duw.—Luc 3:38.

CRYNODEB

UN: IESU YW’R MESEIA

“Ti ydy’r Meseia.”—Mathew 16:16

Sut rydyn ni’n gwybod mai Iesu yw’r Meseia?

  • Mathew 3:16, 17; Ioan 1:32-34

    Dywedodd Jehofa mai Iesu yw ei Fab.

  • Micha 5:2; Mathew 2:1, 3-9

    Cyflawnodd Iesu yr holl broffwydoliaethau am y Meseia.

DAU: ANGEL OEDD IESU CYN IDDO DDOD I’R DDAEAR

“Dw i . . . wedi dod i lawr o’r nefoedd.”—Ioan 6:38

Beth wnaeth Iesu yn y nefoedd?

  • Colosiaid 1:15, 16

    Creodd Jehofa Iesu yn gyntaf, ac yna defnyddiodd Iesu i greu pob peth arall. Roedd Iesu’n dysgu oddi wrth ei Dad am filiynau o flynyddoedd.

  • Luc 1:30-35

    Anfonodd Jehofa Iesu i’r ddaear.

TRI: MAE IESU YN CARU POBL

“Gadewch i’r plant bach ddod ata i.”—Marc 10:14

Pa rinweddau Iesu sy’n apelio atoch chi?

  • Marc 10:13-16

    Roedd Iesu yn garedig, ac roedd pobl yn hoffi siarad ag ef.

  • Ioan 4:9, 27

    Roedd Iesu yn trin merched â pharch.

  • Ioan 13:2-5, 12-17

    Roedd Iesu yn ostyngedig.

  • Mathew 9:35, 36; Marc 1:40-42

    Roedd Iesu eisiau helpu eraill.

PEDWAR: MAE IESU WASTAD YN GWNEUD EWYLLYS DUW

‘Dw i wedi gorffen y gwaith roist ti i mi.’—Ioan 17:4

Sut mae esiampl Iesu yn ein helpu ni i aros yn ffyddlon?

  • Mathew 4:1-11

    Arhosodd Iesu yn ffyddlon pan geisiodd y Diafol ei demtio.

  • Marc 3:21

    Daliodd Iesu ati i wneud ewyllys Duw hyd yn oed pan gafodd ei wawdio gan ei berthnasau.

  • 1 Pedr 2:21-23

    Doedd Iesu byth yn dial ar ei elynion.

  • Philipiaid 2:8

    Arhosodd Iesu yn ffyddlon i Dduw hyd farwolaeth.

  • Hebreaid 10:12, 13; 1 Pedr 3:18

    Fe wnaeth Jehofa atgyfodi Iesu i’r nefoedd.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu